91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bach o Bopeth

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Ipod Beth sy' ar dy ipod di?
Y ddyfais mwyaf cŵl ar y farchnad ar y foment, heb os nag oni bai, yw'r I-pod! Gyda'r cynllunwyr (Apple) yn rhyddhau rhai newydd, gwell o dymor i dymor, mae'n medru mynd yn anodd a drud dros ben i fod ar flaen y gad.
Mae'n anghenrheidiol felly mai'r hyn sy'n bwysig yw fod y GERDDORIAETH yn dda. Dyna pam dwi wedi penderfynu rhoi cymorth i chi gyd, a dangos beth yw'r gerddoriaeth orau yng Nghymru i roi ar eich I-pod.

Rhestr o albwms i greu i-pod cŵl, Cymreig!...yn ôl disgyblion Bro Myrddin... (cynlluniwyd y rhestr yn Nhachwedd 2005)

Clawr albwm FrizbeeFrizbee - Hirnos
Albwm llawn caneuon cofiadwy gyda harmonïau a theimlad gwych.
"Bydd pawb sydd heb glywed am Frizbee yn dwli ar yr albwm hon...hollol cŵl"- Rhiannon Mair, Blwyddyn 12.

"Wi'n dwli ar yr albwm yma...yn cael pob un ar ei draed i nido lan a lawr. Band gorau Maes B 2005"- Wayne Oleary, Blwyddyn 12.

Clawr albwm MattoidzMattoidz - Edrych yn Well o Bell
Mae hon yn llawn traciau sy'n mynd i'ch chwythu i ben draw'r ystafell. Llawn sŵn gitâr trwm, caneuon llawn egni, brwdfrydedd a buzz.

"Fi'n lico Mattoidz gan fod y band yn bwerus ac yn hollol Gymreig!"- Hanna Hopwood, Blwyddyn 12.

"Fi'n joio danso i ganeuon Mattoidz gan fod llais Hefin (y prif ganwr) mor rhywiol"- Lowri Jones, Blwyddyn 12.

Gwyneth GlynGwyneth Glyn- Wyneb Dros Dro
Mae ei chaneuon yn llawn melodïau prydferth a geiriau hynod o glyfar.

"Alawon swynol, geiriau craff llenor yn amlwg yn ei chaneuon"- Sion Ifan, Blwyddyn 12.

"Mae'r lyrics yn eich cyffwrdd. Mae'r alawon yn hudolus"- Betsan Jones, Blwyddyn 12.

Gruff RhysGruff Rhys- Yr Atal Genhedlaeth
Albwm llawn cymeriad a phŵer.

"Dwi'n dwli ar fersiwn Gruff Rhys o'r clasur- 'Chwarae'n Troi'n Chwerw' sydd yn llawn teimlad."- Rhiannon Mair.

Super Fury Animals - Phantom Power
"Albwm sy'n llawn elfennau ffynci electronig ac arbrofol. Byddai unrhyw un sy'n ffan o stwff y SFA neu Gruff Rhys yn hoff o'r albwm hon. Caradog Jones, Blwyddyn 12.

Clawr albwm Meinir GwilymMeinir Gwilym- Dim Ond Clwydda
"Caneuon "catchy" iawn sy'n hawdd gwrando arnynt...mae nifer o'i chaneuon wedi troi yn anthems gigs a 'steddfodau'r hafau diwethaf"- Sion Ifan.

"Llais ardderchog. Caneuon ardderchog" - Hanna Hopwood.

Ryland TeifiRyland Teifi- Heno
Cymysgedd jazz/gwerinaidd a geir ar yr albwm yma. Mae'r gerddoriaeth yn "ysbrydoledig" yn ôl Catrin Dafydd ar raglen C2 Radio Cymru wrth adolygu'r gryno-ddisg. Fe wnai'r CD yma gerddoriaeth gefndirol hynod o hudolus.

Twyni Tywod gan AnhysbysAnhysbys- Twyni Tywod
Mae'r gerddoriaeth yma yn llawn swing a theimlad "jolly" iawn. Dyma albwm i gael pawb ar eu traed i ddawnsio.

"Hollol amazing. Caneuon "catchy" iawn - Aled Griffiths, Blwyddyn 12.

Gan: Sion Ifan


Cyfrannwch

Person o Aberystwyth
Fi'n credu bod pobl ddim yn lico caneuon Cymraeg achos bod pobl 'rubbish' yn dewis pobl rubbish i ganu'r caneuon. e.e. beirniaid ar y rhaglen Wawffactor ddim yn dewis Duffy sy di bod yn rhif 1 yn siartiau DU i ennill y gystadleath. Ma' ishe ini gael pobl sydd gyda thalent i ddewis y bobl dda.

Josh R o Lanelli
Mae ambell gan Gymraeg yn dda ond mae'r rhai eraill yn trash ac yn shed! Yr unig un dda Gymraeg yw yr un ar diwedd cd Gwyl y Baban - awesome! Fy hoff gan i yw "We are the Cheeky Girls" gan y "Cheeky Girls". Pam na yw hwnna ar y list?

SIONED EVANS!!
Wel...sion ifan..rwyn cytuno cant a chant gyda ti....mae'r sylwadau rwyt wedi rhoi n ffantastic!!

Steff o Lanelli
Wel, fi'n credu bod Anhysbys yn awesome!! enwedig y boi sy'n canu, GENIUS!!

Lisa Marged o Nantycaws
Fi'n dwli ar yr hen Reiland Teifi.Mae e mor sexy!!!a ma 'da fe lais BEAUTIFUL!!Beth i ti'n feddwl Sion Ifan??

Sion Ifan
Guto Owen o Gelli Aur...pa fath o gaws yw dy ffefryn di?

±áâ´Ú
Rwy'n cytuno da Sion Ifan. Mae caneuon Fflur Dafydd yn catchy iawn. Heb brynu albym newydd Meinir Gwilym, ond wedi clywed sawl trac ar Radio Cymru - rwy'n ffan!Caneuon hawdd iawn i wrando arnyn nhw. Sai erioed di bod yn ffan mawr o Zabrinski so sai'n gwbod y diweddaraf am eu albyms.

Guto Owen, Bl.10, Gelli Aur
Rwy'n credu bod caneuon Cymraeg yn trash!!!! Fi'n lico stwff fel 'Window Cleaner' gan 50 cent, a'r JCB song. V'n angytuno'n llwyr efo Sion Ifan, ma fe dim ond yn gweud na achos so fen hoffi caws!!

Rhiannedd Mair a Betsanna Eleri o Gaerfyrddin
Os nad ydych wedi clywed am lawer o fandiau Cymraeg, syniad da yw prynu 'compilation cd' Cymraeg, sy'n cynnwys amryw o fandiau, wedyn, fe allech chi ddewis rhai o'ch hoff, ac yn y pendraw prynu ei albwm. Enghreifftiau da o rhain yw 'Sesiynnau C2' a 'Dan y Cownter'! Mae'r sin roc gymraeg yn wych ar hyn o bryd!

Cliciwch yma i fynd i wefan C2.

Sion Ifan
Wi'n hollol cytuno fod clasuron Meic Stevens yn ffantastic...dim ond casgliad bach iawn o albyms sy da fi fan hyn (sori) Fi newydd brynu albym newydd Meinir Gwilym- heb gael digon o amser i benderfynu beth fi'n meddwl ohono eto- oes gan unrhyw un farn ar yr albym newydd? + Fflur Dafydd yn wych...llawer o caneuon catchy...trenu bo fi heb ddarganfod ei cherddoriaeth dros haf dwetha achos ma 'na lot o diwns hafaidd iawn ar yr albym- "Coch am weddill fy oes" Os na album ddiweddar gyda Zabrinski allan? (rhywun yn gallu ateb?)

miss crazy o gaerfyrddin
sorry ond nid yw cerddoriaeth cymraeg yn apelio ataf i. mae'n well gennyf i gerddoriaeth fel y sugababes,mcfly, son of dork, pussycat dolls a cerddoriaeth pop ac rnb arall. sori :(

Betty Lee o Gaerfyrddin
Does neb wedi clywed am y band zabrinski? Maen nhw wedi cefnogi Super Furry Animals am flynyddoedd, mae nhw yn chwarae yn Caerdydd ac yn Llundain. Mae nhw yn ffab - rhaid cael ar eich Ipod

Haf o Sir Gâr
Dewis cool o gerddoriaeth. Ond beth am Meic Stevens? Mae'n rhaid cael rhai clasuron gan Meic ar unrhyw Ipod!!


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r 91Èȱ¬ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



Lluniau
Ffilmiau
Digwyddiadau


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý