Phantom Power
Super Furry Animals - Phantom Power
Nath Huw Stephens wahodd Guto Brychan, rheolwr adloniant Clwb Ifor Bach a'r colofnydd Iwan England i stiwdio C2 yn ddiweddar i ofyn eu barn ar gryno ddisg newydd y Super Furry Animals, Phantom Power.
"Dwi'n mwynhau'r Ffyris." medde Guto, "Unwaith eto, mae nhw wedi dod fyny efo'r cynnyrch ac albym anhygoel arall. Mae na gwpwl o stand out tracks go dda - dwi rili yn licio'r stwff."
"Tua'r diwedd lle mae Cian yn dod mewn hefo'r elfen fwy electronig. Mae'n albym arbennig ar gyfer y cyfnod yma o'r flwyddyn. Mae'n fath o beth fydda ti'n disgwyl ymlacio gyda glasiad o win a mwynhau'r gerddoriaeth."
Roedd yr albym yn plesio Iwan hefyd - "Dwi'n clywed adleisiau yn yr albym yma ou gwaith blaenorol ac adlais bach o Fuzzy Logic er enghraifft. Dyma'r mwyaf laid-back mae nhw'n siwr o fod wedi bod trwy gydol eu gyrfa nhw. Mae'r vibe ar 'Hello Sunshine' yn enghraifft o hynny. Tydi nhw ddim yn gorfod trio mor galed siwr o fod. Mae nhw wedi ymlacio gyda pwy ydi nhw a be mae nhw moin dweud a mae o'n rili organic hefyd."
"Mae na vibe rili neis yna fe..ond yr ochr arall i hynny ydy bod e ddim yn gripo ti o'r cychwyn cyntaf fel mae rhai o'r stwff blaenorol wedi 'neud. Does dim cymaint o draciau egniol yno fe.. does dim cymaint o stwff digidol arno fe. Fyswn i falle wedi licio clywed 'chydig bach mwy o ddylanwad Cian ar rhai or traciau eraill. Ond o ddweud hynny mae'n anhygoel - dyw'r SFA byth yn mynd i greu albym gwael. Tydi nhw'n bendant ddim wedi fan hyn."
Mae'r albym ar gael ar DVD a CD yn eich siopau yn awr.
Hoff Drac Guto - Slow Life
Marc 8/10
Hoff drac Iwan - Father, Father #2
Marc - 8/10