Hirnos
Gorffennaf 2004
Mae Frizbee wedi glanio!
Chwe mis yn 么l, ychydig iawn o son oedd am y band Frizbee, ond erbyn heddiw mae hi bron yn amhosib i droi'r radio ymlaen heb glywed y band! Mae pawb yn siarad am Frizbee - un o'r bandiau mwyaf addawol ers i Meilyr Gwynedd o'r Big Leaves bigo fyny'r git芒r a strymio'r Tannau Dur!
Gyda llond trol o ganeuon cofiadwy a phrif leisydd sy'n llawn charisma, mae pethau'n edrych yn arbennig o dda i'r band o Flaenau wrth iddyn nhw ryddhau eu halbym cyntaf - Hirnos. A bydd tair o ganeuon yr albym yn gyfarwydd iawn i wrandawyr Radio Cymru, oherwydd fel gafodd Dora Gusan, Ti (Si Hei Lw), ac Ar 么l 9 eu recordio'n wreiddiol. i glywed y sesiwn yn llawn.
Gafodd y CD ei rhyddhau ar Orffennaf 1af ar label newydd y band, Recordiau C么sh, ond beth oedd barn adolygwyr yr wythnos am yr albym? Hefin Thomas, prif leisydd Mattoidz, a Rachel Phillips o Glwb Ifor Bach yng Nghaerdydd daeth i stiwdios C2 at Huw Stephens ar Fehefin 24ain. Ond oedden nhw eisiau treulio "hirnos" yn gwrando arni, neu a fydde well ganddyn nhw daflu Frizbee i ffwrdd?
Gwrandewch ar adolygiad o Hirnos
Bydd y band yn chwarae mewn llwythi o gigs dros yr haf, gan gynnwys rhannu llwyfan gyda Anweledig yn Maes B yn Steddfod Casnewydd ar nos Fercher, Awst 4ydd. i weld rhestr llawn o gigs Cymru.