"Dweud Ein Dweud"
Disgyblion Ysgol Bro Myrddin yn dweud eu dweud am bynciau llosg sy'n bwysig iddyn nhw.
Beth wyt ti'n feddwl o enw'r ysgol newydd "Queen Elizabeth High" yn Nhreioan? "Does dim ots 'da fi am yr enw. Os ydyn nhw moyn galw'r ysgol ar 么l y Frenhines, eu dewis nhw yw hynny. Ond fi'n credu bod angen adeilad newydd ar yr ysgol yna er mwyn denu Cymry yn unig i Fro Myrddin, yn hytrach na'r disgyblion sy'n dod
oherwydd bod Bro Myrddin yn adeilad cymharol newydd." Si么n Ifan
Ble hoffet ti weld Eisteddfod yr Urdd yn 2007? "Rwy'n credu dylai Eisteddfod 2007 gael ei chynnal yng Nghaerfyrddin achos dim ond ychydig o flynyddoedd yn 么l buodd yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli. Tro Caerfyrddin yw hi nawr." Carys Bowen
Wyt ti'n cefnogi'r cynlluniau i adeiladu Tesco Extra yng Nghaerfyrddin? "Nac ydw. Fi'n erbyn y Tesco newydd. Mae'n mynd i ladd y busnesau bach lleol oherwydd bydd pobl yn siopa yn Tesco ac yn anghofio am y farchnad a'r siopau eraill. Bydd e hefyd yn chwalu enw Caerfyrddin fel tref farchnad." Dorothy Bere
Beth yw dy farn ar gau ysgolion bach Sir Gaerfyrddin? "Os yw ysgolion bach y wlad yn cau, mae'n medru dinistrio cymuned gyfan ac arwain at wahanu ffrindiau a cholli'r iaith Gymraeg." Heulwen Evans
Beth fyddet ti'n ddweud wrth bobl ifanc Caerfyrddin am yr iaith Gymraeg? "Mae angen i bobl sylweddoli pwysigrwydd yr iaith Gymraeg a dod i wybod faint o sbort gellir ei gael drwy fynd i gigs Cymraeg." Hanna Hopwood
Yn dy farn di, ble dylai Eisteddfod yr Urdd 2007 gael ei chynnal? "Os caiff y 'steddfod ei chynnal yn Llanelli, nid Eisteddfod Caerfyrddin fydd hi, yn 么l y bwriad gwreiddiol. Felly hoffwn ei gweld yn dod i Gaerfyrddin." Eleri Jenkins
Oes angen gwneud gwelliannau i Gaerfyrddin? "Oes. Mae angen moderneiddio Caerfyrddin er mwyn cadw'r ieuenctid yn yr ardal." Dafydd Loughran
A oes digon o Gymraeg yng Nghaerfyrddin? "Nac oes. Er bod dros hanner poblogaeth Caerfyrddin yn medru siarad Cymraeg, dydy eu hanner nhw ddim yn defnyddio'r iaith. Yn fy marn i, beth yw'r pwynt siarad Saesneg pan ellwch chi siarad iaith y nefoedd?!" Angharad Lewis
|