I gyfrannu eich sylwadau chi am Gaerfyrddin a'r ardal - llenwch y ffuflen ar waelod y dudalen hon Mari Jenkins o Gaerfyrddin Does dim digon o Gymraeg yn cael ei defnyddio yng nghanol y dref. Llai na 50 y cant o bobl yn siarad Cymraeg. Angharad Davies, Caerfyrddin Mae Caerfyrddin yn dre ddymunol, ond mae lle am lot fwy o ddatblygu. Diolch byth fod y datblygiadau diweddaraf (siopau, sinema ac ati) yn mynd yn eu blaen, ond gellir datblygu lot mwy ar y dref yn enwedig o amgylch yr afon. Mae trefi eraill yn bell ar y blaen yn hynny o beth. Sion o ardal Caerfyrddin Ardal hyfryd i fyw ynddi, a digon o bethau i wneud. Mae dyffryn Tywi yn le bendigedig.Cyfleus i bob man. E Richards o Lambed Rwy'n credu bod Cyngor Caerfyrddin yn farus iawn. Maen nhw'n mynnu bod pawb yn rhoi rhif eu ceir yn y peiriant cyn rhoi'r tocyn iddynt,fel na fedrir trosglwyddo'r tocyn. Maen nhw'n cael t芒l beth bynnag, a dydan ni ddim yn cael arian n么l os oes peth dros ben. Mae'n bryd dangos peth ewyllus da i ni'r gyrrwyr, neu fydd neb eisiau mynd i Gaerfyrddin. Mae'r cyngor yn gwneud cam a'r dref drwy fod mor farus - y parcio, cael gwared o'r unig beth sy'n gwneud Caerfyrddin yn wahanol i unrhyw dref arall. Beth yw'r pwynt o aros yng Nghaerfyrddin, pan mae r'un peth a phob tref, gall pobl fynd i Aberystwyth, neu Abertawe. Os ydan nhw eisiau dennu pobl i'r dref, mae eisiau rhywbeth gwahanol, y farchnad. Dyna'r unig beth sy'n gwneud Caerfyrddin yn wahanol i unrhyw dre arall, ac maen nhw'n mynd i gael gwared ag ef. Mae'r cyngor yma mor ddall, yn cael gwared o ysgolion bach. Byddai'n well cadw rhain a chael gwared o'r cyngor, sy'n mynnu bod plant bach yn teithio milltiroedd bob dydd fel eu bod nhw'n cael gwell cyfle na'u mamam a'u tadau. Rwtsh. Mae'r holl gorddi yma am well cyfleusterau, manteisio ar well technoleg i gyd yn sgrin i guddio'r ffaith bod Sir Gaerfyrddin eisiau tanseilio'r iaith Gymraeg. Maen nhw'n gwneud eu gorau glas i ladd y cymunedau Cymraeg. Maen nhw'n bradychu'r holl waith da wnaethpwyd gan Gwynfor Evans a'i gefnogwyr. Rhag eu cywilydd!!!
|