Dim Ond Clwydda
Rhagfyr 2003
Meinir Gwilym - Dim Ond Clwydda
Mae'r ferch o F么n yn 么l gyda albym newydd sbon - 'Dim Ond Clwydda'. Ar 么l cael blwyddyn arbennig a phrofi llwyddiant anhygoel gyda'i CD cyntaf, 'Sm么cs, Coffi a Fodca Rhad', mae ffans Meinir drwy Gymru wedi bod yn edrych ymlaen at ei halbym newydd.
Ar C2 nos Fercher, daeth Huw Evans o'r grwp Mwsog, a'r trombonydd Arwel Davies (sy'n chwarae gyda grwpiau fel Anweledig a Geraint Lovgreen), i adolygu'r CD yng nghmwni Huw Stephens. Aeth pethau'n eitha poeth yn Stiwdio C2, a dyma beth oedd gan y ddau i'w ddweud:
Huw Evans: "Doeddwn i ddim yn hoff o'r albym yma i fod yn onest - ddim yn rhy keen. Mae e just yn gerddoriaeth Cymraeg middle of the road. Mae Meinir efo llais amazing - mae 'na un g芒n, 'Glaw' dwi'n meddwl, lle mae hi'n swnio'n rili neis - just hi a'r git芒r, ychydig bach llai o gynhyrchiad tacky efo synthesizer yn y cefn, a pryd mae Meinir yn cael dod trwy ar yr albym mae hi'n neis, wi'n mwynhau'r swn.
Roedd Arwel yn amlwg yn fwy o ffan o Meinir - "Mae gan Meinir lais gwych iawn, a mae'n gallu sgwennu caneuon da iawn efo lyrics gwych iawn... Ro'n i wedi ecseitio'n lan yn derbyn albym newydd Meinir Gwilym.... Nes i roi'r albym ymlaen a nes i feddwl - Waw, mae'r hogan yma sy'n gallu canu'n dda a sgwennu caneuon gwych, yn swnio yn pathetic. A mae o yn swnio'n pathetic ar yr albym yma oherwydd mae'r cynhyrchiad yn hollol hollol ofnadwy - mae o'n embarassement, bron iawn, i recordiau Cymraeg bod y ffasiwn beth wedi gallu cael ei gynhyrchu ar ail albym un o s锚r ifanc newydd Cymru."
Doedd Huw Evans ddim yn hoff iawn o'r sain chwaith - "Mae 'na g芒n efo pan pipes a mae'r pan pipes yn amlwg yn cael eu chwarae ar synthesizer, a mae 'na ddarn arall sy'n sampl trwmped - sydd just yn keyboardy trumpet. Mae nhw'n nothing songs - ti'n gwrando ar yr albym a does dim byd yn sefyll allan."
Roedd Arwel yn teimlo dylid cadw'r sain yn fwy syml - "Ar y g芒n olaf, 'Dyna Chdi', mae'r pan pipes cheap yma ar y synth, mae 'na synth strings eitha s芒l hefyd, a wedyn git芒r sy'n swnio'n wych. So lle wyt ti'n cael y balans? Mae'r balans yn eithaf syml - ti just ddim yn rhoi dim byd ond git芒r a Meinir a'i brawd ella yn chwarae ail git芒r. A ti ddim yn gwneud dim byd arall - pam gor-gymhlethu rhywbeth sydd yn dda? Less is more basically a mae hynna'n wir trwy'r albym i gyd yn anffodus."
Arwel: "Yn y g芒n 'Wyt ti'n Cofio?' mae 'na ddefnydd o banjo a pethe fel 'na ond yn gyffredinol mae pob dim yn un monotone drwy bob un can, yr un lefel, fflat i gyd yn y cynhyrchiad, a 'ma'r mics yn ofnadwy mewn rhai llefydd. Mae'n bechod cos nes i rili rili mwynhau gwrando ar Meinir yn y Steddfod, mae'n wych ar y llwyfan, mae ganddi lais, mae ganddi presence, a fel dwi'n dweud, mae'n gallu sgwennu caneuon."
Mae Meinir yn hynod o boblogaidd, mae nifer o wrandawyr C2 yn ffonio i fewn yn gofyn am ei chaneuon, a mae'n apelio at drawsdoriad eang o bobl. Mae hi wedi bod yn Rhif 1 yn Siart C2 am 4 wythnos yn olynol, a wedi bod yn Rhif 1 am 13 wythnos i gyd!!!!
Arwel - "Mi wneith yr albym yma werthu lot, a fedra'i weld pam bod pobl yn tecstio i wrando arno fo, oherwydd mae 'na ganeuon da arno fo. Ond dyn nhw ddim yn swnio fel bod Meinir yn torri tir newydd o gwbl, mae wedi mynd backwards o'r albym gyntaf. A dim hi ydy'r bai am hynny - mae'r caneuon yn symud ymlaen ond mae 'na gynhyrchu gwael iawn yma sori."
Fe gododd Arwel y pwynt mae ar d芒p y clywodd e ac Huw Evans yr albym, ond mi fydd C2 yn anfon copi CD iddo fo a Huw yn y p么st. Mae 'Dim Ond Clwydda' yn cael ei ryddhau ar label Gwynfryn Cymunedol a bellach ar gael mewn siopau yng Nghymru.
Marciau Meinir Gwilym - Dim Ond Clwydda:
Arwel: 2/10 am yr albym, ond 8/10 am y caneuon, "a dyna pa mor serious ydy'r gap mae'r albym yma'n creu yn ei chaneuon hi sori."
Huw: 2/10