Lluniau: oriel 2
Awst 16, 2007
Pnawn da! Cofnod bach byr heddiw, am fod dim amser i droi rownd / dal fy ngwynt yma. Dydy hi ddim yn arffwysol o brysur yma, ond mae'r sgwrsio efo'r cyhoedd 'di bod yn ddifyr a bywiog iawn. Mae'n braf peidio 芒 gorfod ateb yr un hen gwestiynau unwaith eto, a rhoi'r byd yn ei le ambell waith! Dwi'n teimlo fy mod i'n gwneud o leia dau beth drwy'r amser heddiw. Dim byd rhy llethol, cofiwch - dwi'n s么n am deipio a siarad ar y ff么n, sgwrsio a thorri stensils, cerdded a byta crisps!
Fe gai benwythnos bant am y tro cynta ers oes pys yfory, felly mae'n rhaid imi gyfaddef 'mod i'n crafu i gael cyrraedd adre heno a chael paned a winj - ond ddim am yr amgueddfa, wrth gwrs ...
O'n i'n s么n fod sgwrs diddorol i'w gael lan ar y safle heddiw: Clive y peintiwr a finne sy'n goruchwylio'r adeilad (mae ganddo waith gor-euro ffidli ar y naw i'w wneud) ond y bore 'ma, fe ddysgodd e fi am y g锚m bagatelle. Mae'n un o ugain sy'n dal i chwarae'r g锚m beli hon yng Nghaerdydd - a does dim llawer o olwg ar chwaraewyr eraill unrywle yng Nghymru. Mae'r clwb ar fin cau, ac felly mae'n beryg i hanes y g锚m fynd i ebargofiant. Rydym ni'n casglu gwybodaeth am chwaraeon ac hamdden, felly mi fydd Clive yn fuan yn disgrifio'i brofiadau wrth un o'n archifwyr ar gyfer y casgliad. Hanes ar waith!
Wrth gwrs, g锚m ddelicet iawn yw bagatelle o'i chymharu 芒'r Cnapan fyddai'n cael ei chwarae o amgylch Eglwysi led-led de Cymru yn oes y Tuduriaid! Mae'r meillion rownd yr eglwys (nes i grybwyll isod) yn cael trim o'r diwedd heddiw, felly siawns fydd maes chwarae teidi gyda ni erbyn yr agoriad ym mis Hydref!
Gorffennaf 31, 2007
Helo 'na. Gobeithio i chi fwynhau'r lluniau, a'ch bod wedi manteisio ar y pelydryn o haf diweddar 'ma i archwilio'ch ardal neu'ch amgueddfa leol (ar ddiwrnod fel hyn y bydda i'n gweld eisie Amgueddfa Ceredigion, ac wedyn hufen i芒 ar y prom yn Aberystwyth...)!
Mae'r safle yn ferw o deuluoedd, losin stici, boliau noeth a gwenyn meirch. Mae'n od fel y gwnaeth y tywydd gwael ein hudo ni fel staff - ro'n i wedi anghofio cweit pa mor brysur a blinedig oedd diwrnod poeth yn yr amgueddfa, ac wedi bod yn cysgu fel babi bach bob nos dros y penwythnos.
Bu'n ddiwrnod llawn cyfarfodydd heddiw - 'chydig o gysgod, felly, ar 么l llosgi fy nrhwyn ddoe. Un cwrdd i drefnu'r agoriad swyddogol ("ble ddylwn ni roi'r chwaraewr crwth 'te?") ac un arall i drefnu creu model 3D o'r eglwys (hwnnw dros gynhadledd ff么n gyda thri Andrew anweledig...).
Mae dehongli'r eglwys yn symud yn ei flaen gan bwyll bach, a gobeithio y bydd mwy i'w weld ar y we erbyn mis Medi. Bydd rhaid dethol drwy filoedd o luniau i greu sioeau sleids, yn ogystal 芒 chreu cynnwys bywiog a gemau, ahm, addysgiadol. Os oes syniad gennych chi o beth licech chi ei weld, wedyn taflwch nodyn-gwe imi trwy'r dudalen hon, de! (Gallwch gyfrannu trwy lenwi'r blwch ar waelod y dudalen hon.)
I'r rhai ohonoch chi welodd ni yn arddangos crefftau yn yr Eisteddfod y llynedd - galwch draw i'r stondin eto 'leni yn Yr Wyddgrug da chi. Fydda i ddim yno (fe fydda i'n cysgu yn y meillion rownd yr eglwys ar y r芒t 'ma...), ond bydd digon o'n staff o gwmpas i ateb cwestiynau - a gweithgareddau hefyd. Mwynhewch eich hunain, fwy na dim!
Mae Eglwys Teilo Sant wedi ymddangos yn y gyfres National Treasures ar 91热爆2 hefyd.
Ta waeth, mwynhewch yr haul ac fe 'sgrifenna i eto wythnos nesa'.
Gorffennaf 23, 2007
Ga i ddechrau (fel mae pob sgwrs amgueddfaol, "addysgiadol" i fod), gyda thamaid o 'owscipin? Iawn: Ymddiheuriadau lu am y tawelwch diweddar - dwi'n ceisio peidio 芒 rhoi blaenoriaeth i neb, ond bu'r cig-ymwelwyr yn fwy pwysig yn ddiweddar, na chwi rithymwelwyr druan. Dim ond un peth amdani, ddarllenwyr, ond dod draw i Sain Ffagan, glaw neu beidio!
Mae'r eglwys wedi bod dan ei sang 芒 gweithgareddau yn ddiweddar (i ddathlu wythnos archaeoleg, er enghraifft), ond yn well fyth, mae'r gwaith darlunio wedi cyrraedd uchafbwynt am yr haf. Mae Tom a Rita, yr artistiaid o Swydd Gaint, wedi bod yn ddiwyd iawn yn ail greu'r murluniau. Mae dros bymtheg darn o'r paentiadau gwreiddiol wedi'i ail-beintio erbyn hyn, yn y lliwiau llachar gwreiddiol.
Mae rhiwedd fy swydd i wedi newid yn syfrdanol gyda nhw - mae cymaint yn rhagor i'w esbonio! (Efallai y cai wireddu'r freuddwyd o gael laser pointer, i mi gael, wel, pwyntio at y wal gyda rwbeth heblaw ffon hir hir...)
Mae 'di bod yn hwyl edrych ar y darluniau gyda'r cyhoedd - llawer ohonyn nhw'n rhyfeddu at y trais a'r tristwch sy'n gymysg 芒'r lliwiau llon. A chan fod ein t卯m peintio wedi mynd ar wyliau bach - mae swydd Gaint i Gaerdydd yn dipyn o gomiwt, maen nhw'n ei haeddu fe... - mae gen i rwydd hynt i baentio ac arbrofi gyda'r denyddiau 'maen nhw 'di gadael ar eu h么l (i gyd ar gyfer yr achos addysgiadol, chi'n cofio).
Fy hoff ddarlun ar hyn o bryd yw hwnnw o Sant Christopher. Mae'n sefyll, fel Brian Blessed, dros wyth troedfedd mewn taldra, ac yn cario'r Crist bach ar ei ysgwydd dros afon llawn 'slywenni a physgod pigog. Dim ond darn o'r darlun oedd ar 么l ar safle'r eglwys, ac felly mae ei gorff yn gopi o'r un sant o eglwys Llanilltyd Fawr, sy'n enwog hefyd am ei murlun o Fair Magdalen. Nawddsant teithwyr yw Sant Christopher - ac er nad oes cymaint yn gwisgo'i lun am eu gwddf erbyn heddiw, mae'n dal i fod yn sant poblogaidd iawn. Allai ddychmygu'r teithiwr canol oesol yn rhoi un ble ola cyn gadael yr eglwys a chamu i'w gwrwgl i groesi dyfroedd oriog yr afon Llwchwr!
Dwi'n amgau ambell i lun heddiw gyda'r postyn, ichi gael syniad ar y lliwie bywiog. Tan wythnos nesa - gobeithio y gwela i chi'n fuan.