Alcwyn Evans o'r Barri
O Bont Abraham, dilyn yr A48 drwy Bontarddulais, Ar fin gadael Pontarddulais, troi i'r dde ar y B4296 am Grovesend. Mynd o dan yr M4 a throi i'r dde mewn i Castell Ddu road, cadw i'r dde hyd y diwedd; Llandeilo Talybont.
Lynda Ganatsiou (Groeg gynt o Bontarddulais)
Gellwch weld lle'r oedd yr eglwys o'r M4 mae'n wir, ond i gyrraedd mae'n rhaid mynd i bentef fechan Waungron (rhwng Pontarddulais a Gorseinion) a throi oddi ar yr hewl fawr a dilyn llwybr cul nes dod at "fforc". Dilynwch y llwybr ar y dde hyd at fferm Castell Du. Oddi yno fyddai'n well cerdded. Fyddwn i ddim yn ceisio gwneud hyn yn y gaeaf!! Pob hwyl. Lynda.
Gwyn, Pontarddulais
Gadael yr M4 ar gyffordd 48 a troi i'r chwith. Dilyn y ffordd i Bontarddulais a throi i'r dde, dilyn yr arwyddion un ffordd am Abertawe. Troi i'r dde wrth y goleuadau traffig, dilyn y ffordd am tua km, dros yr M4 a thros y bont rheilffordd. Ar waelod y bryn, troi i'r dde i castell Du. Dilyn y llwybr troed ar y dde, o dan y bont, pasio'r fferm i lan yr afon a lleoliad yr Eglwys.
Leah, Caerdydd
Rwy'n teimlo fel plentyn a hithau'n nesau at y Nadolig... methu aros ydw i tan agoriad swyddogol yr Eglwys ar ddydd Sul! Fel un a fuodd yn gweithio ar y prosiect am ddwy flynedd, pan oedd hi'n ddim mwy na chragen, rwy'n disgwyl iddo fod yn brofiad reit emosiynol ar y penwythnos. Mae'r lluniau yn anhygoel, ac rwy'n siwr fydd gweld y murluniau yn y cnawd yn well fyth. Rwy'n falch iawn i allu dweud fy mod wedi bod yn rhan fechan o'r prosiect enfawr hwn.
Bethan o Gaerfyrddin
Mae'r Eglwys yn edrych yn hardd iawn yn yr eira.
Anna Fflur, Caerdydd
Hanes diddorol i'r Eglwys. Dehonglydd yn gwbod ei stwff, ac yn wych gyda'r ymwelwyr. Uchafbwynt yr ymweliad oedd cael lle i blant a phobl hyn i eistedd a dysgu yn y caban ar y ffordd fewn i'r Eglwys. Byddai'n wych pe bai rhywbeth mwy parhaol yn gallu cael ei roi mewn lle erbyn agoriad swyddogol yr Eglwys, er mwyn i'r dehonglydd fedru parhau gyda'r gwaith caled o addysgu ymwelwyr am hanes yr Eglwys.
Sara Huws, Sain Ffagan
Mae'n fusnes mwdlyd ac anodd dod o hyd i'r fynwent! Byddai un o drigolion y Bont yn gallu rhoi gwell cyfarwyddiadau ichi ar sut i gyrraedd yno ar droed. Mae 'na, fodd bynnag, ffordd breifat yn arwain at y safle sy'n mynd oddi tan yr M4 a'r rheilffordd. Fe gai sbec ar y map yn fuan, a rhoi gwybod ichi.
Sara
Anna Williams o Sir Benfro
Oes modd cael gwybodaeth am lleoliad gwreiddiol eglwys Sant Teilo ym Mhontarddulais er mwyn ymweld a'r fynwent os gwelwch yn dda. Mae'n bosib gweld y lleoliad o'r M4 ond sut mae cyrraedd y fynwent?
All rhywun helpu Anna Williams? Rhowch eich sylwadau yn y blwch isod.