Ail godi Eglwys Teilo Sant
Bu ail godi Eglwys Teilo Sant yn Sain Ffagan, Amgueddfa Werin Cymru yng Nghaerdydd yn un o brosiectau mwyaf uchelgeisiol yr amgueddfa hyd yn hyn. Cartref gwreiddiol yr Eglwys oedd ar orlifdir afon Llwchwr ger Pontarddulais. Dyma'r unig Eglwys Ganol Oesol ym Mhrydain sydd wedi cael ei symud i amgueddfa. Ail godwyd yr Eglwys i'w ffurf gwreiddiol oddeutu 1520.
Bu Sara Huws, dehonglydd y prosiect yn cadw dyddiadur ar y wefan hon o Ionawr tan Hydref 2007 - cliciwch yma i'w ddarllen.
Dyddiadur Dehonglydd yr Eglwys yn Sain Ffagan, lluniau o'r gwaith a'r penwythnos agoriadol.