91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Caerdydd

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Caerdydd
Sara Huws Dyddiadur Sara Huws: Mai a Mehefin 2007
Dyddiadur Mai a Mehefin 2007 Sara Huws, Dehonglydd Eglwys Teilo Sant yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan.
  • Dyddiadur Ionawr - Medi
  • Lluniau: oriel 1
  • Lluniau: oriel 2


    Mehefin 12, 2007

    Pnawn da. Mae'r pythefnos diwetha' 'di bod yn heulog a difyr iawn. Mae cymaint yn mynd yn ei flaen, o ran gwaith gwydr, cerfio a phaentio, fy mod yn cael chydig yn ormod o bwdin eglwys dyddie 'ma. Yn anffodus, ma' llawer o'r gwaith yn swnllyd a llychlyd, felly cyfyng iawn ydi mynediad i'r adeilad yr wythnos hon. Wedi dweud hynny, mae 'di bod yn ddigon braf i ddenu miloedd o bobl i'r amgueddfa - a llawer ohonyn nhw'n falch o weld beth allen nhw o'r gwaith sy'n mynd yn ei flaen.

    Mewn awr a hanner ddydd gwener diwetha', o'n i wedi llwyddo i gael llun wedi'i dynnu efo'r tîm saethyddiaeth cenedlaethol, cwrdd â nyrs o Lesotho oedd yn rhedeg clinig i ferched yn diodde o AIDS ac wedi cael gwahoddiad am high tea gyda chwpl gosgeiddig mewn tŷ Tuduraidd ar y Mynydd Du. Mae'r amrywiaeth o ymwelwyr sy'n mwynhau a deall yr Eglwys yn syfrdanol - ac yn aml, fe fyddan nhw'n dod â rhyw docyn o wybodaeth neu brofiad gyda nhw.

    Tra'n esbonio sut oedd dargopïo murluniau yn defnyddio'r dull traddodiadol, soniodd un gŵr mai fel yna'n union y byddai'n arfer tynnu amlinell tattoo cyn ei lenwi, pan oedd yn gweithio fel artist inc. Dysgu'n araf bach ydw i pryd i gau fy ngheg, ac i sgwrsio gyda'r ymwelwyr yn lle adrodd y wybodaeth yn ribidires (er, mae bet yn sefyll ar hyn o bryd y medrwn i siarad am yr eglwys yn ddi-stop am bump awr. 'Sneb isio gofyn imi brofi hynny chwaith. Un pwynt negatif am ddehongli Eglwys ydi'i bod hi'n fy nilyn allan o'm bywyd proffesiynol, er ei bod hi'n braf pan fydd ffrindiau'n gofyn 'sut ma'r Eglwys?').

    Y gloch wedi ei gosodI ateb y cwestiwn uchod yn fras, nai'ch hysbysu fod y waliau yn cael eu paentio (gwell ymweld yn y pythefnos nesa os am weld dipyn ar y gwaith hwnnw); y gloch wedi ei gosod ar ôl taith, i'r rhai ohonoch sy'n cofio, o Loughborough (ydw, dwi wedi ei chanu unwaith pan oedd neb o gwmpas, ond peidiwch â deud wrth neb).

    Yn bennaf, hoffwn i longyfarch Mr Ray Smith, y supersaer, ar orffen cerfio'r Grog Fendigaid wythnos diwethaf. Ef oedd yn gyfrifol am ei chynllunio a'i cherfio - yn defnyddio technegau o'r 16eg ganrif. Mae'r cynllun yn un unigryw i'r amgueddfa, er ei bod yn talu teyrnged fach gynnil i sawl cerfiad enwog cymreig: ein 'Buchedd Teilo', er enghraifft, yn doffio'i gap i waith yn dangos bywyd Melangell ym Mhennant Melangell, y lliwiau ar y sgrin yn ateb rhai y disgrifwyd gan Dafydd ap Gwilym wrth edrych ar Grog yn Llanbadarn Fawr. Mae dros ddwy flynedd ers iddo ddechrau'r dasg ac mae'n syfrdanol ei fod e wedi ei bennu hi mor glou!

    Gwell i fi fynd yn ôl at fy nesg - mae ymwelwyr o dros Brydain wedi bod yn danfon lluniau cerfiadau o'u heglwysi nhw imi'r wythnos hon a dwisie cael sbec...


    Mai 31, 2007

    Mae wedi bod yn stemar o wythnos arall yma yn yr Amgueddfa: ar ôl rhedeg sesiynau gwisgoedd Tuduraidd drwy'r wythnos ddiwethaf, does dim stopio wedi bod ar yr ymwelwyr, na'r gweithgareddau. Mae'r sesiynau gwisg yn rai blinedig iawn i'w rhedeg am fy mod yn gorfod gwisgo pedwar plentyn fel Tuduriaid o flaen eu dosbarth heb achosi reiat. Fe fydd raid i mi gael gafael ar lun o'r gwisgoedd ichi gael eu gweld - er eu bod nhw'n gain iawn, all y plant fyth beidio â chwerthin ar y clogyn gwyn a'r llodrau sidan.

    Ceisio am saib o'n i, felly, yr wythnos hon. Ddim felly. Bum yn lwcus, fodd bynnag, i gael ymwelwyr diddorol a serchus - gan gynnwys un o'n darllenwyr mwya pybyr, y Parchedig John Walters o Bontarddulais. Mae'n braf iawn gallu siarad ag e wyneb yn wyneb (fydd hi'n fis Medi arnai'n ymweld â'r Bont nesaf, dwi'n credu, felly mae'n amser hir) - nid yn unig i sicrhau trefniadau'r agoriad swyddogol ond i gael sgwrs a chlywed hanes y Bont. (Mae'n dal i sefyll, gyda llaw).

    Darpar-ymwelydd arall fues i'n falch iawn o gwrdd ag e wyneb-yn-wyneb oedd Dr Rowan Williams. Fe fydd yn ymweld â ni nes ymlaen yn y flwyddyn - ac yn ddigon ffodus, fe dares i fewn iddo fe yng Ngŵyl y Gelli ddydd Llun. Dwn i'm faint o sens wnes i yn fy nghyffro (nath rwbeth tebyg ddigwydd pan gwrddes i â Jason Orange rhyw ddwy flynedd yn ôl), ond gobeithio, o leia, fydd e'n cofio dweud helo pan fydd e draw yn Sain Ffagan!

    Fy llafur heddiw, os gai amser, yw edrych ar banel dehongli'r Eglwys. Dwi'n gobeithio y bydd yn berffaith ar gyfer yr agoriad (mae ysgrifennu panel yn gelf gain, wyddoch chi...), a chan fod yr un presennol wedi dyddio dipyn, bydd yn braf gallu diwygio dipyn arno. Bydd rhagor o ysgrifennu i'w wneud wedyn, am ein bod yn ceisio datblygu adnodd ar-lein i athrawon a theuluoedd am yr Eglwys. Mae dyddiad cau rhaglen weithgareddau y Nadolig yn agosau hefyd - dwi'n ei gael braidd yn depressing: dy'n ni'n 'gwneud' 'dolig yn Sain Ffagan yn gynt na'r archfarchnadoedd, hydnoed! Bydd rhaid gwneud 'chydig o ymchwil clou ar Fabsantau cyn dodi'r gweithgareddau yn eu lle ar y Calendr Mawr. Ffiw. Mae'n edrych yn lot wedi'i sgrifennu lawr. Esgusodwch fi, felly, ac fe sgrifennai eto'n fuan.


    Mai 22, 2007
    Mae ymweliad 'Cyfeillion' yr Amgueddfa wedi cyrraedd, a dwi'n llawn annwyd eto. Jest rhag rybudd i bwy bynnag fydd yn eistedd wrthai yn y cinio heno: mae pythefnos o barablu eglwysaidd wedi gadael traul pigog yn fy ngwddf a gogor yn fy mhen! Ar ddiwrnodau fel hyn, slic o lipstic coch fyddwn i'n ei ddefnyddio i godi'r ysbryd - ond dyw e ddim i'w weld yn addas ar gyfer gwaith mewn Eglwys, am ryw reswm. Mae'r cwestiwn o beth sy'n addas i'w wisgo, ei wneud, neu ei drafod mewn eglwys yn un goddrychol, personol iawn.

    Mewn Eglwys mor unigryw-ei-statws (neu ei diffyg statws) a'n un ni, mae'n gallu bod yn ddilema pellach - a fydda i fyth fwy ar bigau'r drain na phan fydd Clerigwyr ar y prowl. Peidiwch â nghamddeall, dwi wrth fy modd yn cwrdd â chanoniaid, offeiriaid, archesgobion - ond mae angen gofalu rhagor am yr hyn sy'n weddus pan fyddan nhw o gwmpas - sy'n anodd, weithiau, i rywun mor barablus a fi. Heb fod eisio swnio'n rhy debyg i Father Ted (sy'n adnabod ei gyd-weithwyr yn ôl eu nodweddion mwyaf amlwg), bum yn ddigon ffodus i gael 'chydig o ymarfer wythnos ddiwetha' ar ffurf grŵp o esgobion o Syria, ac un arall o Hollywood, USA. Dau barti gwahanol iawn eu golwg, a'u moesau cristnogol hefyd - dau bictiwr gwahanol iawn o beth sy'n 'weddus' mewn Eglwys hefyd. Un set mewn dillad seremonïol cyfoethog, capiau flat wedi'u brodio - a'r llall yn ddannedd gwyn, short back & sides, a thatŵ o groes ar ei fys modrwy - y naill na'r llall wedi arfer cael Cardi fechan yn eu bosio nhw rownd eglwys o'r blaen, yn amlwg!

    Mae'n bwysig y bydd ein defnydd ni o'r adeilad yn weddus, neu barchus, unwaith iddo agor - ac mae cryn drafod ar y mater hwn fel 'mai. Dwi wedi crybwyll y peth o'r blaen, ond mae'n bwysig i mi yn bersonol am sawl rheswm - un ohonynt sy'n cuddio, efallai, y tu ôl i'r rhai athronyddol: fy mod yn teimlo'n gyfrifol, yn feddiannol bron, o'r adeilad. Mae'n anodd iawn peidio â bod fel hyn wedi treulio cymaint o amser i fyny 'no dros y Gaeaf. Eich Eglwys chi fydd hi i'w harchwilio ar ôl mis Hydref - felly cofiwch f'atgoffa os dwi'n dechre swnio fel ei mam hi...


    Mai 1, 2007
    Cyfarchion ers sbelen. Digon prysur yw'r amgueddfa adeg gwyliau'r Pasg felly maddeuwch imi - fe es i am wyliau bach i ddod dros achos aciwt o Eglwysitis...

    O ddifrif 'wan - mae penwythnos gŵyl banc y Pasg yn ffanffer flêr sy'n siglo a deffro'r Amgueddfa o'i bodlonrwydd. Mae'n ddechre ar dymor yr haf - yn yr ystyr seisnig, pen-pella'r-pier - o'r diwedd. Gweithio gydag artist fues i ac ymwelwyr i'r Eglwys dros y mis diwethaf - yn ymateb i straeon yn hanes y Pasg. Mae Tracey Williams yn artist o Gaernarfon a bu'r ddwy ohonom yn gweithio yn yr Eglwys - roedd lle hefyd i blant (o bob oed, winc winc) gael peintio teils Pasg i'w rhoi yn anrhegion. Fy mhrif atgof ydi tywallt galwyni o ddwr-dyrfliw-cymysg ymaith a'i golli dros fy nwylo a'm dillad. Wedi pythefnos yn peintio efo'r plant heb *un* anffawd bler, roedd hi'n anochel, bron, y byddwn i'n llwyddo i dywallt rwbeth dros fy hun yn y pen draw.

    Mae dipyn o waith twtio'n mynd ymlaen ar y safle ar hyn o bryd - 'dyn ni'n disgwyl yn eiddgar i'r artistiaid gyrraedd i ddechrau'r gwaith paentio murluniau fis Mai, a rhaid rhoi côt olaf o wyngalch ar y welydd yn barod amdanynt. Bydd Cyfeillion yr Amgueddfa'n ymweld yn fuan hefyd, felly i'r sych-olchwyr â'r wisg Duduraidd hefyd.

    Rhaid ystyried fod Eglwys ganoloesol yn gyfoethog iawn o wrthrychau drudfawr. Wedi i ni orffen y murluniau, bydd rhaid meddwl am ychwanegu cerfluniau (un o'r Forwyn Fair, un o Grist ar y groes ac un o Deilo Sant, siŵr o fod), tecstiliau, cwpanau, canhwyllbrennau ac amrywiaeth o baraffenalia defosiynol i'r adeilad. Rhaid ini chwilio am grefftwr i'w gwneud a noddwr i dalu amdanynt - yn union fel y gwnaethai'r addolwyr yn y gorffennol. Diddorol yw nodi bod capel preifat yn rhan o adeilad yr Eglwys, wedi'i adeiladu yn y bedwaredd ganrif ar ddeg i anrhydeddu wompyn o gyfraniad gan deulu'r 'Goronowiaid' - ac hefyd i roi noddfa i'r teulu hwnnw iddynt gael addoli ar wahan i'r werin fwdlyd. Mae'r broses, felly, o gyrchu nawdd heddiw, yn un sydd â dipyn o dafod-mewn-boch, neu rhyw chwinc (un reit emabarsd ond chwareus, ella) at y gorffennol. Dwi'n ei ddweud e ormod, ond wnaiff unwaith 'to ddim gwahaniaeth: plus ça change...

    Ta waeth - 'nôl rŵan at weithgaredd y swyddfa. Bydd cyn lleied o amser, cyn bo hir, i wneud gwaith ymchwil a threfnu - rhaid i fi fachu ar y cyfle rŵan. Haf o adeiladwyr bronnoeth, plant stici ac Americanwyr llawer-rhy-frwdfrydig sydd o 'mlaen i - a dwi'n methu aros...

    Mwy am y prosiect o ail godi Eglwys Teilo Sant


  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

    Sylw:




    Mae'r 91Èȱ¬ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



    Cynulliad Cenedlawthol Cymru
    Tywydd
    Lluniau
    Elusennau


    About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý