91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Caerdydd

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Caerdydd
Sara Huws Dyddiadur Sara Huws: Mawrth ac Ebrill
Dyddiadur Mawrth ac Ebrill 2007 Sara Huws, Dehonglydd Eglwys Teilo Sant yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan.
  • Dyddiadur Ionawr - Medi
  • Lluniau: oriel 1
  • Lluniau: oriel 2


    Ebrill 11, 2007
    'Dych chi'n ymuno â fi heddiw ar chwa fach dawel - cyfle, o'r diwedd, i wneud 'chydig o ymchwil ac i ddechrau gwaith ar ddigideiddio (tocyn iaith i fi plis ...) llawer o'r wybodaeth sydd gennym am Eglwys Teilo Sant.

    Dwi'n gobeithio y bydd hynny'n gallu cyflenwi dipyn ar y wybodaeth fydd ar gael i ymwelwyr wedi'r agoriad - rydym ni'n colli ein gofod arddangos (collwyd sawl deigryn dros ddifodiant y 'Ddehongl-fan', neu'r 'Chalet Gwybodaeth', credwch fi!) ac yn gorfod meddwl am ffyrdd amgenach o ddifyrru'r ymwelydd. Mae llawer o'r wybodaeth 'dyn ni'n ei gasglu, fodd bynnag, ar gof aelodau o staff yr amgueddfa, ambell i ysgolhaig, criw y Bont (a Hendy, Gorseinon ac ati!). Rhaid i fi ymuno, felly, â rhaglen hyfforddi hanes llafar yr amgueddfa.

    Fe fydd pobl yn sôn yn ffeind iawn am gen-garafan-hel-straeon Sain Ffagan, oedd yn arfer teithio hyd a lled y wlad yn recordio coelion gwerin, hanes lleol a thafodieithau. Mae'n technegau ni wedi newid dipyn ers hynny, a mae'r garafan wedi mynd i, wel, i le bynnag y ma carafannau'n mynd ar ôl darfod: "the great steddfod in the sky" ella.

    Ta waeth - mae'r casgliad yn enfawr, yn eang ei sgôp a bron wastad yn ddifyr. Braf oedd darganfod llais fy Nain, fu farw yn ystod fy mhlentyndod cynnar, ar dâp yn yr archif ac yn trafod arferion Gwrachod Llanddona yn serchus. Dwi'n gobeithio y gallwn ni gael hanesion yr Eglwys ar dâp, a'u rhoi ar wefan yr Amgueddfa'n fuan.

    Gan roi'r 'ymchwil' i'r naill ochr am eiliad, rhaid i fi gyfadde fy mod i wedi cuddio yn y swyddfa heddiw - weithie ma'r diwrnod yn cael ei amlyncu gan ebyst a chyfarfodydd: mae angen 'diwrnod hanes' arnai bob ryw dipyn. Dwi'n ail-adrodd yr un ffeithiau ar lafar mor aml yn fy swydd, rhaid gwneud yn hollol siŵr, weithiau, eu bod nhw dal yn wir! Rheswm gwell fyth cael diwrnod tawel heddiw: roedd gweithio dros benwythnos y Pasg yn yr Eglwys yn brysur eithriadol. Fe welsom ni filoedd o ymwelwyr bob dydd: cofion cynnes at unryw rai o'r staff blaen ty sydd yn dal i orwedd lawr mewn stafell dywyll yn eu sgil. I'r rhai ohonoch welais i - gobeithio i chi fwynhau. I'r rhai na ddaeth i'n gweld ni: mae gynnoch chi tan 16 o Ebrill i ddod i beintio ffenestr liw gyda ni!


    Ebrill 3, 2007
    Ers dechrau gweithio yn Sain Ffagan, mae fy 'niddordeb' mewn materion crefyddol wedi gorfod tyfu'n sylweddol. Ydw, wir, dwi'n ddigon hapus (wrth fy modd, bron) yn mwydro am oriau am yr Eglwys Ganoloesol; llafarganu, cerfluniau, darluniau Almaenig o'r Apocalyps hydnoed - ond mae maes 'Yr Eglwys Heddiw' yn llawer mwy niwlog a chythryblus ei olwg i fi na'r hen, hen hanes.

    Ces i dipyn o gyflwyniad i'r pwnc pan yn trafod ail-gysegru'r Eglwys. Roedd yn rhaid ystyried pob math o broblemau dyrys - rhyw hybrid ysbrydol -ymarferol sy'n gorfod ystyried anghenion trigolion Pontarddulais, yr Eglwys yn Nghymru a thros chwe chan mil o ymwelwyr y flwyddyn. Mae'n codi sylw at nyth gacwn o enwadau, defodau, ac, yn naturiol, hanes difodiant adeiladau tebyg, nad oedd lle iddynt yma yn Sain Ffagan.

    Roedd hi'n braf, felly, gweld yr erthygl hon ar dudalen Saesneg y 91Èȱ¬. Mae'n adlewyrchu cymaint o'r themau yr hoffem ni - ac y bydd raid i ni - fynd i'r afa'l â nhw wedi i'r Eglwys agor yn swyddogol fis Hydref. Beth yw rôl addoldy heddiw - ai creiryn yn unig fydd yr Eglwys wrth iddi agor? Gobeithio y bydd digon ohonoch chi'n ymweld â ni i roi dipyn o fywyd i'r lle - does dim byd tebyg i'r teimlad yna pan fydd hi'n llawn pobl!

    Felly, gyda'r mwydro lled-athronyddol o'r ffordd, rhaid troi ngolwg i'r Pasg. Stori'r Atgyfodiad yw prif thema ein murluniau - a bydd yr artist Tracey Williams a minnau'n cynnal gweithgareddau'n peintio a dehongli'r stori dros y pythefnos nesa'. Mae croeso i chi alw i mewn i gymryd rhan - dewch â'ch het artist gyda chi!


    Mawrth 27, 2007

    Pnawn da. Gai ddechre trwy estyn gwahoddiad ichi (nage, ddim i'r Eglwys. 'Dych chi ddim wedi blino darllen am honno eto...)?

    Mae Oriel 'Perthyn' (neu 'Belonging') newydd Sain Ffagan yn agor yn swyddogol ar ddydd Sadwrn, Mawrth 31, 2007 - gobeithio y gallwch ymweld â ni! Mae'r Oriel wedi bod yn wagle tywyll ers rhai misoedd 'nawr, ond mae'r goleuadau, y camerâu a'r gwrthrychau i gyd wedi'u gosod - ac un ohonynt yn arbennig â chysylltiad gyda'r Eglwys. Dim ond jyst a ffitio i mewn i'w chornel 'mae hi, ond mae murlun Santes Catrin yn werth ei gweld. Rhaid ifi gyfadde' teimlo braidd yn bigog-tu-fewn pan welais i hi'n cael ei symud o'i chuddfan yn y Castell i lawr i'w chartref newydd - mae hi gyda un o'r olion hynaf o ddarlunio o'r Eglwys ac yn fregus iawn.

    Cafodd y Santes ei phaentio yng nghanol y 14eg Ganrif, ac yn ffigwr pwerus, gosgeiddig iawn. Mae'r olwyn y tu ol iddi, wrth gwrs, yn ein hatgoffa o artaith y Cristnogion cynnar - yn ogystal ag agwedd hard sell yr Eglwys Gatholig Ganol Oesol. Mae gan bob un o'r seintiau yn yr Eglwys wrthrychcau i'n atgoffa o stori eu bywyd - ond canolbwyntio ar eu rhinweddau fyddwn ni heddiw, yn hytrach na'r aberth a'r boen welwn yn y darluniau canoloesol. Ta waeth, mae 'na gannoedd o bethau eraill (o oes cyn Crist i foddi Capel Celyn) i'w gweld yn yr Oriel newydd - ond cofiwch ddweud helo wrth y Gatrin pan ewch chi heibio.

    Cyffro yng nghasgliad yr Amgueddfa - a chyffro felly i'n dehonglwyr: roedd rhaid ffarwelio â'n 'Celt' preswyl, Owain (hwnnw wedi mynd i adeiladu nyth wiail i'w epil newydd), a chroesawu Anna i'n plith (y hi fydd yn gweithio yn Oriel Perthyn) yr wythnos hon. Ychwanegu hwnnw at chwa'r gwanwyn o fysus ysgol, ynghyd â'r gobaith y cai amser i dynnu gwynt a sgrifennu'r wythnos nesa, a dyna fy wythnos. Hwyl am y tro!


    Mawrth 20, 2007
    Wythnos dipyn yn llai bownslyd sydd wedi mynd heibio - mae'n siŵr nad fi yw'r cynta' i fod 'chydig bach yn rhy optimistig ar ddechre mis Mawrth. Ei sgil effaith, wrth gwrs, oedd fy mod wedi defnyddio fy nognau egni i gyd erbyn dydd Gwener (ac wedi anghofio, fel ffwl, am y penwythnos prysur o fy mlaen: Caerdydd gyfan, yn sicr o fod â chlamp o Benmaenmawr wedi'r gêm, yn crwydo'r parc fel zombies gwyrdd!)

    Mae cyfarch a sgwrsio 'da'r cyhoedd yn fusnes blinedig. Mae dewis ei wneud mewn dillad rhy frau, ar ddiwrnod arbennig o oriog, yn fusnes blinedig a gwirion.

    Ac felly mae'r chill cyfarwydd yn dangos ei ben, ac yn sydyn reit dwi'n teimlo'n swrth ac oer - efo dim ond clogyn brethyn Tuduraidd yn y swyddfa'n gwmpeini cynnes (a hwnnw'n edrych yn wirioneddol sdiwpid ar ben jîns!) Mae gennai got Ray Mears ar sêt deithiwr y car. Peth anferth, bob tywydd. Pob poced yn llawn teclynnau anhepgor, abswrd rhywun sy'n treulio lot gormod o amser mewn Amgueddfa awyr agored - tortsh, matsys, cliciwr-cyfri, cyllell boced, mapiau a phisys o bapur yn f'atgoffa i ffonio 'Catholic Living Magazine'. Dim iws i neb ar sêt y 'Pyrjo' yn y maes parcio. Y clogyn amdani te. Cam amgen i fyd 'dehongli byw' ar bnawn Sadwrn, yn enw cynhesrwydd!

    Diar mi - fe soniais i, yndo, pa mor hawdd ydi datblygu obsesiwn efo'r tywydd yn Sain Ffagan, a dyma fi, unwaith eto, yn swnian am yr oerfel.

    Yn fyr - dwi 'nôl yn y Swyddfa Gynnes rŵan, ac wedi llowcio cymaint o fitaminau dwi'n gneud sŵn fel ratl babi pan dwi'n symud. Maen nhw ar y ddesg, drws nesa' i'n hylif haul - mae o wedi bod yn eistedd yno'n optimistig ers mis Awst diwethaf...


    Mawrth 13, 2007
    Waw am ddiwrnod braf! Helo! Diwrnod o waith swyddfa sydd gen i heddiw, ond ces gyfle i fynd allan i grwydro'r safle bore 'ma cyn cwrdd â grŵp o ymwelwyr o Benarth.

    Fe fuom ni'n sbecian o amgylch yr Eglwys - minnau a Ray Smith (Pen Saer - yn yr ystyr llythrennol - yr Amgueddfa) yn ateb cwestiynau a sgwrsio. Mae Ray wedi bod yn gweithio yn Sain Ffagan ers sbelen rŵan: a dweud y gwir, mae wedi bod yn gweithio ar brosiect yr Eglwys ers ei chychwyn (h.y. pan oeddwn i'n fabi bach bochgoch).

    O edrych yn ofalus ar luniau yn ein archifau, gellir ei sbotio, mewn du a gwyn, yn gweithio ar brosiect adeiladu Siop Gwalia, ac ar Institiwt Glowyr Oakdale hefyd. Ei orchwyl, ar hyn o bryd, yw cerfio bywyd Teilo Sant (cewch air am weddill ei gampweithiau mewn post nes ymlaen!) Mae'n defnyddio un darn o dderw Cymreig, un-troedfedd-ar-bymtheg o hyd - a chan ei bod hi dipyn yn gynhesach tu allan, mae wedi symud yn ôl i fyny i'r Eglwys i weithio. Dwi'n falch o gael ei gwmpeini, am ei fod yn llawn hwyl a gwybodaeth am bawb a phopeth yn Sain Ffagan (ac hefyd yn wrandawr da iawn pan fydda i'n troi'n Strempan oriog ar foreuau glawog). Os ddewch chi i fyny i'r Eglwys rywdro, mynnwch sgwrs ag e - ar yr amod y byddwch chi'n glou: mae gwaith 'da fe i'w wneud!

    Ta waeth, wythnos orlawn sydd wedi mynd heibio (fe fydd raid i chi faddau imi - dwi'n gwybod taw dydd Mawrth yw hi, ond mae Wythnos Sain Ffagan yn wahanol iawn. Ddewch chi ddim o hyd iddi ar gloc na chalendr...) - ac mae'n syndod cymaint yn rhagor o ymwelwyr sydd wedi dod atom ni yn yr wythnos heulog ddiwethaf. O ystyried y cyfarch, sgwrsio, malu awyr, ateb cwestiynau a dwrdio dwi'n ei wneud bob dydd, mae'r Eglwys - er ei bod hi'n wag o gynulleidfa - yn dod, yn raddol bach, yn le swnllyd iawn.


    Mawrth 6, 2007
    Dwi'n ôl ar ôl tipyn o seibiant yn Lerpwl - ac yn ceisio gwneud pen-a-chynffon o'r holl ymweliadau sydd wedi'u trefnu ar gyfer y misoedd nesaf. Dwi'n siŵr i'n hymddangosiad ni ar y Newyddion a'r radio fis Chwefror ddenu llawer o bobl yma - nifer ohonynt yn ymweld am y tro cyntaf â'r Eglwys, sydd wastad yn beth braf.

    Dwi'n teimlo, mor bell a hyn i fewn i fy nyddiadur bach, y dylwn i gyflwyno prif gonsyrn Eglwys Teilo Sant, er dwi'n siwr eich bod chi wedi sylwi ar hynny erbyn hyn - yn iawn.

    Eglwys hynafol eithriadol yw hi - wedi bod ar daith, nawr, ers dros ugain mlynedd. Ym mis Hydref eleni, 'dyn ni'n gobeithio datgan bod ei thramwyo ar ben yn swyddogol, a'i bod am ddechrau pennod newydd o lonyddwch gosgeiddig - serch rhyw hanner can milltir yn bellach i lawr yr M4.

    Er ein bod ni'n ail greu'r Eglwys fel ac yr oedd hi yn oes Harri'r wythfed, mae ei hanes yn ymestyn llawer ymhellach na hynny. Adeiladwyd y rhan fwyaf hynafol yn oes y Normaniaid - ac estyn fuodd arni wrth i boblogaeth Pontarddulais a Hendy dyfu'n araf bach. Erbyn oes y Tuduriaid, 'roedd tua tri chant o bobl yn byw yn yr ardal - y rhan fwyaf ohonynt yn ffermwyr hunan gynhaliol. Sawl un ohonynt oedd yn dilyn cyfraith gwlad, ac yn addoli yno bob sul, wyddwn ni ddim. Yn sicr, roedd atynfa'r Eglwys fel canolfan gymdeithasol yn gryfach i rai na'i rôl fel hafan ysbrydol.

    Mae'r iard o amgylch yr Eglwys yn ddigon o faint, dwi'n credu, i ail-greu peth o'r naws cymdeithasol hyn - gwyliau ar ddyddiau'r Seintiau, rasus, chwaraeon, gamblo, a phob mathau o weithgareddau Duwiol eraill.

    Fe geisiaf i dynnu rhai lluniau i'w dangos, i chi gael gwell syniad ar naws y lle - os nad ydych chi'n teimlo fel ymweld, wrth gwrs...

  • Ionawr - Chwefror 2007

  • Mai - Mehefin 2007


  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

    Sylw:




    Mae'r 91Èȱ¬ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



    Cynulliad Cenedlawthol Cymru
    Tywydd
    Lluniau
    Elusennau


    About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý