91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Rygbi

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru

»

Chwaraeon

±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Diweddarwyd: 27 Mawrth 2011

Edwards yn gwadu penio'i gyd-weithiwr

Mae hyfforddwr amddiffyn y tîm cenedlaethol, Shaun Edwards, wedi gwadu iddo benio Fergus Connolly yn y digwyddiad a arweiniodd at weld y ddau yn cael eu disgyblu a'u gwahardd o gêm Cymru yn erbyn Ffrainc.

Cafodd Edwards a Connolly ddirwy o £500 yr un, ac mewn erthygl papur newydd, cyfaddefodd Edwards fod ffrwgwd wedi cymryd lle, ond fe wadodd iddo benio'r gwyddonydd chwaraeon.

Mewn erthygl yn y Sunday Times, dywedodd Edwards fod y digwyddiad wedi cymryd lle ar fws tîm Cymru ar ôl y fuddugoliaeth yn erbyn Iwerddon, a fo'r ffrwgwd wedi deillio o ddadl ynglŷn â chân a'i chanwyd.

"Roedd yr hogiau yn cael dipyn o hwyl wrth ganu, ond roedd Fergus wedi camddehongli'r sefyllfa.

"Daeth ataf yn ddiweddarach, ac roedd hi'n amlwg ei fod wedi gwylltio, ac yna roedd ffrwgwd. Mae'n bosib i'n pennau gyffwrdd gan ein bod yn sefyll mor agos, ond yn sicr wnes i ddim penio Fergus.

"Mae Fergus wastad wedi bod yn un o'm ffrindiau gorau, ac rydym yn ffrindiau eto erbyn hyn.

"Cefais gyfarfod efo Roger Lewis (prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru) ar ddydd Iau, ac fe fyddai'n cwblhau fy nghytundeb efo Cymru, gan ddechrau efo 'r gêm yn erbyn y Barbariaid ym mis Mehefin, ac ymlaen at Gwpan y Byd," meddai Edwards.

"Rwyf yn parhau i fod yn hyfforddwr amddiffyn tîm Cymru.

"Mae 'na ambell wythnos mewn bywyd, y byddai dyn yn falch o gael ei anghofio - dyna 'dw i'n gobeithio'i wneud efo'r wythnos honno."


chwaraeon



About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý