Cafodd Edwards ei wahardd rhag teithio gyda'r garfan i Baris ar gyfer gêm olaf Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ar ôl gwrthdaro gydag aelod arall o'r tîm hyfforddi. Aeth prif weithredwr URC, Roger Lewis, i weld Edwards yn Llundain ddydd Iau, ac fe gytunodd y ddau i symud ymlaen. "Ar ôl y cyfarfod yn Llundain ac ambell i ysgwyd llaw, 'dw i'n parhau yn hyfforddwr amddiffyn Cymru a 'dw i'n gobeithio cawn ni anghofio am y ffrwgwd," dywedodd Edwards yn ei golofn ym mhapur newydd The Guardian. "Mi gefais gadarnhad gan Roger Lewis y byddaf yn cwblhau fy nghytundeb, gan gychwyn gyda'r gêm yn erbyn y Barbariaid ar gychwyn mis Mehefin cyn mynd i Seland Newydd [ar gyfer Cwpan y Byd] yn yr hydref." Cafodd Edwards ei ddisgyblu gan URC ar ôl ffraeo Fergus Connolly wrth ddathlu buddugoliaeth Cymru yn erbyn Iwerddon. Mae cyn-chwaraewr rygbi tri ar ddeg Prydain wedi bod yn rhan o dîm hyfforddi Cymru ers i Warren Gatland gymryd yr awenau ar ddiwedd 2007.
|