O flaen torf o 4,000, roedd y tîm cartref ar y blaen o 10-0 ar yr hanner, ar ôl ceisiadau gan Dioni Aguerre a Laurelin Fourcade.
Daeth y Cymry i mewn i'r gêm yn yr ail hanner, drwy gadw eu gafael yn y meddiant am gyfnodau hir o chwarae. Daethant yn agos at sgorio cais, pan aeth y blaenasgellwr,Jamie Kift, drosodd, dim ond i'r bêl lithro o'i gafael cyn tirio.
Daeth unig sgôr yr ail hanner pan ddyfarnwyd cais gosb i Ffrainc yn dilyn cyfnod hir o bwyso.
Ffrainc: A Parra; D Aguerre; E Poublan, S Agricole; L Fourcade; N Casenave, M Yahe; H Ezanno, G Mignot, C Chobet, S Rabier, C Bouisset, M Hebel, M Andre, A Ba.
Eilyddion: J Sainlo, A Noguera, M de Nadai, L Canal, S Ramkilaouni, A Soblak, J Troncy.
Cymru: A Young; K Lake; M Evans, E Evans; C James; A Thomas, A Day; J Davies, R Bowden, C Edwards, (c), A Rowlands, S Powell Hughes, L Newton, J Kift, S Harries.
Eilyddion: L Harries, C Thomas, V Owens, R Taylor, L Prosser, E Snowsill, A Taviner.