Bydd asgellwr 19 mlwydd oed y Gweilch yn cael llawdriniaeth yn ddiweddarach yn yr wythnos ar ôl anafu ei ben-glin yn y gêm Cynghrair Magners yn erbyn Glasgow ar 5 Mawrth. Mae disgwyl iddo fod allan o'r gêm am chwech i wyth mis, sy'n rhoi fawr o obaith iddo fod yn holliach ar gyfer Cwpan y Byd yn Seland Newydd ym mis Medi. "Mae sgan yn dangos fod Tom wedi rhwygo ei ligament, sy'n cadarnhau'r hyn oeddem yn ei ddisgwyl," meddai ffysio'r Gweilch Chris Towers. Enillodd Prydie ei gap gyntaf i Gymru y tymor diwethaf yn 18 mlwydd oed a 25 diwrnod, gan fod y chwaraewyr ieuengaf erioed i wisgo'r crys coch. Sgoriodd gais yn ei ail gêm yn erbyn De Affrica yng Nghaerdydd, ac yna cychwynnodd y ddwy gêm ar y daith i Seland Newydd. Ond nid yw'r asgellwr wedi chwarae i'r tîm cenedlaethol ers hynny, wrth i George North a Morgan Stoddart gael eu dewis o'u flaen ar gyfer gemau'r hydref a Phencampwriaeth y Chwe Gwlad. Bydd gêm nesaf Cymru yn erbyn y Barbariaid ar 4 Mehefin, gyda dwy gêm yn erbyn Lloegr ac un yn erbyn yr Ariannin i ddilyn er mwyn paratoi am Gwpan y Byd. Mae gofyn i'r hyfforddwr, Warren Gatland, gyhoeddi ei garfan ar gyfer y gystadleuaeth erbyn 22 Awst.
|