Bydd na funud o dawelwch cyn y gêm a bydd pob chwaraewr yn gwisgo band du ar ei fraich er mwyn cofio am gyn arwr Llanelli, Ray Gravell.
Ac mae Davies yn credu y bydd Parc y Strade, ail gartref 'Grav', yn lle anodd i'r cefnogwyr a'r chwaraewyr nos Wener.
"Mi fydd e'n le anodd iawn i fynd," meddai Davies.
Gareth Edwards yn cofio Ray Gravell
Clive Rowlands yn talu teyrnged i Grav
"'Dwi'n siwr y bydd yn anodd i gefnogwyr a chwaraewyr Llanelli," ychwanegodd.
"Fe all Llanelli sicrhau perfformiad arbennig er mwyn cofio Gravs, ond mae'n rhaid cofio mai dim ond gêm yw hi."
Mae'r byd rygbi wedi bod yn cofio cyn arwr Llanelli, Cymru a'r Llewod, Ray Gravell bu farw ddydd Mercher yn 56 mlwydd oed.
Dywedodd cyn fewnwr Cymru a'r Llewod, Gareth Edwards, fod Cymru ar ei cholled wedi marwolaeth Ray Gravell.
"Roedd Ray yn gymeriad anferth," meddai Edwards. "Roedd dyn wastad yn teimlo'n llawer hapusach ar ôl bod yn ei gwmni.
"Roedd o'n gawr mewn sawl maes - ar y byd rygbi ac fel darlledwr."
Bu farw Gravell ddydd Mercher wedi salwch tra ar wyliau teuluol y Sbaen.
Enillodd 23 cap dros Gymru yn ogystal â chwarae ym mhedair gêm Brawf y Llewod yn Ne Affrica ym 1980.
Roedd cyn fewnwr a hyfforddwr Cymru, Clive Rowlands, yn amlwg o dan deimlad wrth dalu ei deyrnged i Gravell.
"Pan glywes i'r newyddion roedd yn sioc anferth i golli ffrind ... ffrind arbennig," meddai.
"Gallwn i siarad amdano o fore tan nôs a galle ti ddim meddwl am yr un gair gwael i'w ddweud amdano.
"Yn y 70au roedd (tîm rhyngwladol Cymru) yn aros yng Ngwesty'r Angel dros y ffordd i Barc yr Arfau ac roeddem ni'n cerdded i'r cae.
"Ond roedd Ray Gravell yn hala hanner awr yn hirach na phawb arall i gyrraedd ochr draw'r maes gan fod e'n siarad efo pawb.
"Nage chwarae dros ei hunan oedd Ray Gravell, roedd e'n chwarae dros bawb - ei deulu a Chymru gyfan."
Dywedodd cyn hyfforddwr Cymru, John Dawes, fod Gravell yn ŵr arbennig ac yn glod i'w wlad.
"Roedd ei gariad tuag at ei wlad yn anferth. Roedd o mor falch o'i Gymreictod," meddai Dawes.
"Roedd yn cael ei adnabod fel chwaraewr grymus ond roedd ei allu i drafod pêl yn llawer gwell na'r canolwr arferol.
"Fe brofodd dro ar ôl tro nad oedd o'n chwaraewr hunanol. Roedd yn bleser cael bod yn ei gwmni.
Dywedodd cyn olwr Cymru a'r Llewod, Gerald Davies, ei fod yn anodd dod o hyd i'r geiriau i fynegi ei dristwch ar ôl clywed am farwolaeth Gravell.
"Roedd Ray yn ddyn ansicr ond roedd 'na hiwmor anferth yn perthyn iddo," meddai Davies.
"Roedd pawb yn ei weld fel dyn grymus a chryf yng nghanol cae ond roedd Ray o hyd yn ansicr o'i allu.
"Ond roedd ganddo ffydd yn ei wlad, ffydd a chariad am ei iaith ac roedd ganddo ffydd yn ei ddiwylliant a'i ffordd o fyw a thros bentref Mynydd-y-garreg.
"'Dwi'n cofio Carwyn James yn dweud nad oedd 'na unrhyw un oedd yn fwy balch o wisgo crys coch Cymru na ray Gravell," ychwanegodd.
Dywedodd capten presennol Cymru, maswr Y Sgarlets, Stephen Jones fod Gravell "yn ŵr arbennig".
"'Doedd gan neb air drwg i'w ddweud am Grav, a 'doedd gan Grav byth air drwg i'w ddweud am unrhyw un arall.
"Roedd o'n berson hyfryd ac yn Sgarlet penigamp."
Ac meddai prif weithredwr Y Sgarlets, Stuart Gallacher: "Roedd (Gravell) yn ffigwr anferth nid yn unig yn Llanelli ond trwy Gymru a lle bynnag roedd rygbi yn cael ei chwarae.
"Roedd yn berson unigryw. Yn dilyn marwolaeth y diweddar Syr Tasker Watkins, mae rygbi Cymru wedi colli Cymro arbennig arall.
"Mae ein meddyliau gyda Mari ei wraig a chyda'r plant, Manon a Gwenan, ar yr adeg drist yma. Byddwn yn ei golli ond ni fyddwn byth yn ei anghofio."