91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Rygbi

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru

»

Chwaraeon

±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Newidiwyd diwethaf: 20 Ebrill 2006
Cymru i chwarae yn Y Wladfa

Mae penaethiaid rygbi'r Ariannin wedi cadarnhau bydd y Prawf cyntaf yn erbyn Cymru ar Fehefin 11 yn cael ei gynnal ym Mhatagonia.

Ariannin v Cymru 2004

Bydd yÌýgêm yn cael ei chynnal yn y stadiwm pêl-droed 15,000 sedd ym Mhorth Madryn - maes sydd erioed wedi cynnal gêm y Pumas.

Nid yw Cymru wedi chwarae gêm ryngwladol ym Mhatagonia, er bod nifer fawr o siaradwyr Cymraeg yn byw yno.Ìý

Ac meddai rheolwr tîm Cymru,ÌýAlan Phillips: "Rydym wrth ein boddau i gael chwarae ym Mhatagonia am y tro cyntaf. Bydd yn gyfle unigryw i'r tîm Cymreig chwarae yn y Wladfa."

Bydd Cymru yn symud ymlaen i Buenos Aires arÌýgyfer yr ail Brawf arÌý17 Mehefin.

Sefydlwyd tref Porth Madryn ym 1865 wedi i dros 150 adael Cymru am fywyd gwell yn Ne America.

Dyma fydd y pedwerydd tro i Gymru fynd ar daith i'r Ariannin, ond mae rhai Cymry wedi chwarae rygbi dros Batagonia.

Chwaraeodd Jonathan Davies, Ieuan Evans a Carwyn Davies dros dîm Patagoniayn nhwrnament Cenedlaethol Saith-pob-ochr Yr Ariannin yn ystod yÌý1980au.

Dywedodd Alejandro Risler,Ìýllywydd Undeb Rygbi'r Ariannin (UAR): "Mae'n bolisi i fynd â'r Pumas i wahanol lefydd yn y wlad.

"Rydym wedi chwarae Profion yn Salta, Cordoba a Tucuman, a bellach mae'n hen bryd i ni ymweld â Chubut.

"Wedi edrych ar y stadiwm a'r gwestai mae UAR wedi derbyn cynnig Chubut i lwyfanu'r gêm.

"Mae hynny'n golygu ein bod yn chwarae ym Mhatagonia am y tro cyntaf yn ein hanes."

Roedd y gêm i fod i'w chynnal ar y dydd Sadwrn ond mae wedi ei roi yn ôl am 24 awr er mwyn osgoi cystadlu â gêm Yr ArianninÌýâ'r Cote D'IvoireÌýyng Nghwpan y Byd ar 11 Mehefin.


chwaraeon



About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý