91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Gemau'r Gymanwlad

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru

»

Chwaraeon

±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Newidiwyd diwethaf: 25 Mawrth 2006
Melbourne: Dydd 9

Roedd dwy fedal arian i Gymru yng nghystdleuaeth senglau'r bowls wedi Betty Morgan a Robert Weale gyrraedd eu rowndiau terfynol.

Mewn gêm hynod gyffrous roedd angen datglwm ar Kelvin Kerkow o Awstralia i drechu Robert Weale a sicrhau'r fedal aur.

Kerlow gipiodd y set gyntaf 7-4 cyn i'r Cymro daro'n ôl 9-2 yn yr ail set.

Roedd Weale 1-0 ar y blaen wedi'r pen cyntaf o'r datglwm, a roedd o fewn trwch blewyn i gipio'r aur gyda'i bêl agosaf at y jac cyn i Kerlow fowlio ei belen olaf o'r ail ben.

Ond cafwyd pelen anhygoel gan Kerlow wrth iddo ddod yn gyfartal 1-1 cyn selio'r fuddugoliaeth ar y trydydd pen.

Ac roedd arian i Betty Morgan o Gymru yn senglau'r merched hefyd wedi Zalina Ahmad o Malaysia, gipiodd yr aur ym Manceinion, amddiffyn ei choron.

> Arian i Weale a Morgan


MANYLION GEMAU'R GYMANWLAD

> Tabl y medalau

> Canlyniadau Gwener 24 Mawrth


ATHLETAU

Gorffennodd Tanni Grey Thompson yn bedwerydd yn 800m y gystadleuaeth EAD T54 ar y trac ym Maes Criced Melbourne.

Ond roedd yn noson emosiynol i gapten tîm Cymru wrth iddi gystadlu am y tro olaf yng nghrys coch Cymru a gorffennodd y ras yn ei dagrau.

Methodd James Thie â chyrraedd rownd derfynol y 1500m wedi gorffen yn wythfed yn ei ras yn y rownd agoriadol, ac roedd Scott Simpson yn chweched yn y naid â pholyn.

Ond roedd newyddion drwg i dîm 4x400m Cymru wedi iddynt orfod tynnu allan o'r gystadleuaeth oherwydd anaf i Rhys Williams.

> Dim tîm 4x400m i Gymru

SBONCEN

Roedd siom i Alex Gough a David Evans yn rownd yr wyth olaf o ddyblau'r dynion wrth iddynt golli yn erbyn Dan Jenson a David Palmer o Awstralia.

A colli yn rownd yr wyth olaf o'r dyblau cymysg oedd hanes Tegwen Malik a Gavin Jones hefyd wrth i Natalie Grinham a Joseph Kneipp o Awstralia ennill drwodd.

TENIS BWRDD

Roedd siom i Gymru yng nghystadleuaeth y dyblau i ddynion gyda Ryan Jenkins ac Adam Robertson, gipiodd arian ym Manceinion yn 2002, yn colli yn erbyn Alan Cooke a Paul Drinkhall o Loegr yn rownd yr wyth olaf.

Ond llwyddodd Adam Robertson, 22, i dalu'r pwyth yn ôl wrth iddo drechu Alan Cooke yn rownd yr wyth olaf o'r senglau.


chwaraeon
Hanes y Gemau
Ìý
Medalau Cymru
Ìý


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý