Mewn gêm hynod gyffrous roedd angen datglwm ar Kelvin Kerkow o Awstralia i drechu Robert Weale a sicrhau'r fedal aur.
"Yr oedd hi'n foddhaol chwarae mewn gêm oedd o safon uchel," meddai Weale.
"Yn naturiol rwy'n siomedig fy mod wedi colli'r datglwm ond fe daflodd yn wych i ennill.
"Yr oeddwn yn gwybod y byddai'n anodd gan fy mod yn erbyn ef a'r dorf ond oeddwn yn meddwl fy mod wedi ennill.
"Roedd y golygfeydd ar y diwedd o ganlyniad i'r tensiwn. Nid ydym yn gweld hynny fel arfer yn y bowls!
"Rwy'n falch iawn fy mod wedi sicrhau fy mhumed medal yng Ngemau'r Gymanwlad. Yr oeddwn yn meddwl byddwn wedi sicrhau aur ond byddwn yn ôl i roi cynnig arall arni."
Collodd Betty Morgan yn erbyn y bencampwraig Zalina Ahmad o Malaysia.
Roedd Morgan, nain o Landrindod, yn siomedig iddi beidio addasu i'r amgylchiadau.
"Nid wyf yn siomedig i beidio sicrhau aur ond fe wnes i ganiatáu i'r gwynt fy effeithio," meddai'r wraig 63 oed.
"Yr oeddwn yn cael hi'n anodd mewn un pen, ond gwnaeth Ahmad yn dda, ac roeddwn mewn trafferthion.
"Bu'm yn chwarae bowls ers 34 o flynyddoedd ac rwyf wrth fy modd ar ôl ennill fy medal gyntaf yng Ngemau'r Gymanwlad.
"Byddwn wedi hoffi medal lliw gwahanol, ond ni allwn gwyno rhyw lawer.
"Hwn heb os yw un o uchafbwyntiau fy ngyrfa. Mae bowls wedi bod yn rhan bwysig o fy mywyd ond mae'n datblygu i fod yn gêm ar gyfer marched ifanc."
|