Gorffennodd Williams yn bedwerydd yn y 400m dros y clwydi ddydd Gwener ond dioddefodd anaf i linyn ei âr yn ystod y ras.
> Record Gymreig i Rhys
"Roedd archwiliad yn dangos fod rhwyg bychan i linyn yr âr ac mae wedi cael cyngor i beidio â chystadlu mwyach," meddai meddyg tîm Cymru, Gareth John, mewn datganiad.
Llwyddodd Cymru i ennill medal arian ym Manceinion pedair blynedd yn ôl ac efydd yn Kuala Lumpur ym 1998.
"Rydym yn siomedig iawn na fydd tîm yn cystadlu," meddai rheolwr tîm Cymru, Adrian Thomas>
"Rydym yn cydymdeimlo â'r bechgyn sydd ddim yn cael cyfle i fynd am fedal mewn camp lle mae Cymru wedi mwynhau cryn lwyddiant yn y gorffennol."
Mae rowndiau rhagbrofol y ras gyfnewid 4x400m yn dechrau ddydd Gwener gyda'r rownd derfynol ddydd Sadwrn.
|