CHWIBAN OLAF: Cymru 20-32 Awstralia
76 mun: Cymru 20-32 Awstralia: Llwyddodd Shane Williams i groesi am gais cwbl haeddianol i Gymru wrth iddo gasglu'r bêl rydd a chroesi yn y gornel dde.
Trosodd James Hook i ychwanegu'r pwyntiau ychwanegol.
75 mun: Cerdyn melyn: Awstralia i lawr i 13-dyn wedi i Nathan Sharpe ladd y bêl yn fwriadol wrth i Gymru fynd am gais o dan y pyst.
65 mun: Cerdyn melyn: Awstralia i lawr i 14-dyn wedi i Drew Mitchell weld cerdyn melyn am dacl warthus ar Mathew Rees.
Bydd yn rhaid i Gymru ddangos cryn gymeriad i ddod yn ôl i'r gêm yma am yr ail dro.
Emyr Lewis
59 mun: Cymru 13-32 Awstralia: Cafwyd camgymeriad erchyll gan Stephen Jones wrth iddo fethu a chasglu cic uchel ac roedd Chris Latham yn y fan a'r lle i gasglu'r bêl a charlamu drosodd am gais.
Trosodd Mat Giteau i ymestyn y fantais.
57 mun: James Hook yn methu dod â Chymru yn ôl o fewn naw pwynt wrth iddo droi cic gosb heibio i'r postyn wedi i Awstralia ddymchwel y sgrym.
Ys gwn ai tîm ail hanner ydi Cymru yng Nghwpan y Byd?
Huw Llywelyn Davies
54 mun: Cymru 13-25 Awstralia: James Hook yn dod â Chymru yn ôl efo cic gosb.
48mun: Methodd Matt Giteau drosi cic gosb wedi i Gymru gamsefyll - dihangfa felly i Gymru.
Mae 'na ddigon o amser ar ôl ar y cloc ond mae'n rhaid i Gymru beidio ag ildio mwy o bwyntiau.
Emyr Lewis
44mun: Cymru 10-25. Awstralia: Penderfynodd Stephen Jones i gicio am yr ystlys yn hytrach na'r pyst ar ddechrau'r ail hanner, ac wedi cyfnod hir o bwyso plymiodd Jonathan Thomas drosodd am gais.
Trosodd James Hook i gau'r bwlch ymhellach.
HANNER AMSER: Cymru 3-25 Awstralia
Mae olwyr Awstralia'n edrych mor bwerus, mor gyflym, mor ddawnus.
Emyr Lewis
40mun: Cymru 3-25. Awstralia: Lledodd Awstralia y bêl yn gyflym tuag at yr asgell chwith o sgrym osod a llwyddodd Chris Latham i groesi am gais yn eiliadau olaf yr hanner.
Trosodd Stirling Mortlock o'r asgell chwith i rwbio halen i'r briw.
Mae angen cais ar Gymru ac mae angen y cais yna'n sydyn.
Ieuan Evans
36 mun: Cymru 3-18 Awstralia
Llwyddodd Awstralia i gasglu'r bêl rydd a chododd George Gregan y bêl yn gelfydd tuag at y llinell gais a Stirling Mortlock enillodd y ras am y bêl i sicrhau ail gais y Wallabies.
Methodd Mat Giteau â'r trosiad o'r ystlys dde.
33 mun: Methodd Stephen Jones am yr ail dro â chic gosb yn dilyn camsefyll gan y Wallabies
27 mun: Methodd Stirling Morlock a throsi cic cosb i'r Wallabies wedi i Martyn Williams gael ei gosbi am beidio rhyddhau'r bêl yn y dacl.
Mae Cymru'n cicio gormod o'r meddiant tra bo Awstralia'n cadw meddiant ac yn edrych fel eu bod nhw mynd i sgorio bob tro maen nhw'n ymosod.
Ieuan Evans
23 mun: Cymru 3-13 Awstralia
Mae Berrick Barnes, sydd yn chwarae yn safle'r maswr oherwydd yr anaf i Stephen Larkham, yn mwynhau ei hun yn Stadiwm y Mileniwm wrth iddo drosi gôl adlam.
21 mun: Mwy o newyddion drwg i Gymru wrth i Gareth Thomas orfod gadael y maes ag anaf wedi iddo gael ei daclo'n drwm gan Stirling Mortlock.
James Hook sydd wedi dod i'r maes yn lle Thomas.
18 mun: Mae Sonny Parker wedi ei gludo o'r maes ag anaf cas i'w goes. Mae Kevin Morgan wedi dod i'r maes yn safle'r cefnwr gyda Gareth Thomas yn cymryd lle Parker yn y canol.
'Dwi'n credu bod Gareth Jenkins wedi dewis rhoi chwaraewr corfforol ar y maes i geisio cystadlu efo'r Wallabies.
Emyr Lewis
15 mun: Cymru 3-10 Awstralia
Llwyddodd Berrick Barnes i dorri trwy amddiffyn Cymru cyn bwydo Matt Giteau i groesi o dan y pyst am gais agoriadol y gêm.
Troswyd y cais gan Stirling Mortlock.
11 mun: Methodd Stephen Jones ag ymestyn mantais Cymru wrth iddo daro cic gosb o 35m heibio i'r postyn wedi i Awstralia droseddu yn y ryc.
Mae angen i flaenwyr Cymru frwydro am bopeth er mwyn ceisio rhyddhau'r olwyr. Mae hi wedi bod yn ddechrau da hyd yma
Ieuan Evans
7 mun: Cymru 3-3 Awstralia
Stephen Jones yn trosi cic gosb i Gymru wedi i flaenwyr Awstralia ddymchwel y sgrym yn eu 22 eu hunain
1 mun: Cymru 0-3 Awstralia
Stirling Mortlock yn trosi pwyntiau cyntaf y prynhawn wedi munud a hanner yn unig o'r gêm.
Mae Awstralia yn dangos o'r chwiban cyntaf pa mor gorfforol mae eu blaenwyr nhw'n gallu bod.
Emyr Lewis
Cymru: G. Thomas, M. Jones, Shanklin, Parker, S. Williams, S. Jones, Peel, Jenkins, Rees, A. Jones, Gough, A. Jones,
Charvis, M. Williams, J. Thomas.
Eilyddion: R. Thomas, D. Jones, Owen, Popham, Phillips, Hook,
Morgan.
Awstralia: Latham, Mitchell, Mortlock, Giteau, Tuqiri, Barnes, Gregan, Dunning, Moore, Shepherdson, Sharpe, Vickerman, Elsom,
Smith, Palu.
Eilyddion: Freier, Baxter, Chisholm, Hoiles, Waugh, Staniforth, Huxley.
Dyfarnwr: S Walsh (Seland Newydd)