91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Cwpan Rygbi'r Byd 2007

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru

»

Chwaraeon

±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Diweddarwyd: 09 Medi 2007
Cipolwg ar Awstralia
Mae rygbi'r undeb wedi gorfod brwydro'n galed i gael sylw yn Awstralia - gwlad sydd wedi gwirioni â phêl-droed Awstralaidd, rygbi XIII, criced a phêl-droed yn fwy na'r gêm 15-dyn.

Ond mae'r Wallabies wedi profi eu hunain yn un o dimau gorau'r byd gan goroni'r cyfan â buddugoliaethau yng Nghwpan y Byd 1991 a 1999.

Ym 1899, chwaraeodd Awstralia eu gêm brawf cyntaf wrth i dîm o Brydain chwarae pedair gêm brawf - tair yn Sydney ac un yn Brisbane - ond ni welwyd yr aur a gwyrdd enwog bryd hynny.

Pan roedden nhw'n chwarae yn New South Wales, roedd y tîm yn gwisgo crysau glas y dalaith a phan roedden nhw yn Brisbane, marŵn talaith Queensland oedd lliw eu crysau

Llwyddodd Awstralia i ennill y prawf cyntaf 13-3 cyn i'r ymwelwyr gipio'r tri phrawf arall.

Ym 1903 ffurfiwyd y New South Wales Football League er mwyn rheoli pêl-droed Awstralaidd a phedair blynedd yn ddiweddarach cafwyd ergyd arall i boblogrwydd rygbi'r undeb wrth i gorff y New South Wales Rugby League gael ei sefydlu.

Teithiodd y Wallabies i Ewrop ym 1908 ac, er iddyn nhw golli 9-6 yn erbyn Cymru ar Barc yr Arfau, cipiodd Awstralia fedal aur yng Ngemau Olympaidd Llundain.

Ond ar ôl dychwelyd i Awstralia, trodd 11 aelod o'r tîm buddugol eu cefnau ar rygbi'r undeb er mwyn elwa o arian y clybiau rygbi XIII.

Bu bron i rygbi'r undeb ddiflannu'n gyfan gwbwl yn nhalaith Queensland yn ystod y 1920au a chwaraewyd holl gemau rhyngwladol Awstralia gan dîm y NSW Waratahs.

CWPAN Y BYD
RECORD AWSTRALIA

1987 - Pedwerydd
1991 - Pencampwyr
1995 - Wyth olaf
1999 - Pencampwyr
2003 - Ail
Mae holl gemau rhyngwladol y Waratahs bellach yn cael eu hystyried yn gemau prawf, gan gynnwys y fuddugoliaeth o 18-8 dros Gymru ar eu taith i Brydain yn 1927.

Cymru gafodd y gorau o'r profion rhwng y ddwy wlad yn ystod y 60au a'r 70au ond roedd hi'n amlwg bod y Wallabies yn datblygu a phenderfynodd Undeb Awstralia i fewnforio strwythur hyfforddi Cymru.

Dechreuodd y wlad fuddsoddi yn rygbi ysgolion yn ogystal â phenderfynu dewis chwaraewyr o Fôr y De, a chafwyd pluen yn het y Wallabies wrth iddyn nhw drechu Cymru yn Brisbane ac yn Sydney ym 1978.

Gwrthododd Undeb Rygbi Cymru dderbyn bod bwlch wedi agor rhwng safon timau hemisffer y gogledd â thimau hemisffer y de, ac atgyfnerthwyd eu barn wrth i Gymru ennill 22-21 yn erbyn Awstralia a chipio'r trydydd safle yng Nghwpan y Byd 1987.

Yn ystod Cwpan y Byd 1999, llwyddodd Awstralia i drechu Cymru 9-24 yn rownd yr wyth olaf ar y ffordd i gipio'r tlws am yr eildro, ond methodd y Wallabies ag amddiffyn eu coron bedair blynedd yn ddiweddarach wrth i gic adlam Johnny Wilkinson sicrhau mai Lloegr oedd y pencampwyr byd.


chwaraeon
Y Timau
Ìý
Hanes y Gwpan
Ìý


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý