Mae'r Pumas wedi synnu pawb yn ystod y bencampwriaeth ond wedi colli yn eu herbyn 12-17 yn y gêm agoriadol, roedd disgwyl i'r Ffrancwyr fod yn ymwybodol o'r her oedd eu hwynebu.
Brwydrodd Ariannin drosodd am bum cais yn y Stade de France gyda Felipe Contepomi ac Omar Hasan yn croesi cyn yr egwyl.
A seliwyd y fuddugoliaeth â cheisiau pellach gan Federico Aramburu, Ignacio Corleto ac ail gais i Contepomi.
Croesodd y cefnwr, Clement Poitrenaud, am gais hwyr i dîm Bernard Laporte, ond mae'r Archentwyr bellach wedi ennill chwech o'u saith gêm ddiwethaf yn erbyn Ffrainc.
"Petai ni wedi sgorio'n gynharach fe fyddai pethau wedi bod yn wahanol. Ond llongyfarchiadau i Ariannin, maen nhw wedi cael Cwpan y Byd penigamp," meddai rheolwr Ffrainc, Jo Maso.
Ffrainc: Poitrenaud, Rougerie, Marty, Skrela, Dominici, Michalak, Elissalde; Poux, Ibanez, De Villiers, Nallet, Thion, Nyanga, Dusautoir, Harinordoquy.
Eilyddion: Bruno, Mas, Chabal, Martin, Mignoni, Beauxis, Clerc.
Ariannin: Corleto; Aramburu, M Contepomi, F Contepomi, Agulla; JM Hernandez, Pichot; Roncero, Vernet Basualdo, Hasan, Alvarez Kairelis, Albacete, Durand, JM Fernandez Lobbe, Longo Elia.
Eilyddion: Ayerza, Guinazu, Lozada, Leguizamon, Fernandez Miranda, Todeschini, Senillosa.