Mark Cueto fydd ar yr asgell yn lle Josh Lewsey ddydd Sadwrn wrth i Loegr wynebu De Africa yn Rownd Derfynol Cwpan y Byd.
Dyma'r unig newid i'r pymtheg a dorrodd galonnau Ffrainc yn y rownd gynderfynol ym Mharis.
Y canolwr Dan Hipkiss oedd y ffefryn i chwarae ar ôl iddo ddod ar y cae wedi'r anaf i Lewsey nos Sadwrn.
Mathew Tait and Mike Catt fydd yn parhau fel canolwyr wrth i dîm Bryan Ashton geisio creu hanes trwy ennill y bencampwriaeth am yr ail waith yn olynol