|
O Lethrau Cefn Gwyn Hunangofiant anhunanol
Adolygiad Martin Williams o, O Lethrau Cefn Gwyn gan Gwilym Lloyd Edwards. Gwasg Carreg Gwalch
"Cyn eiriadurwr yn cyhoeddi ei hunangofiant," oedd pennawd Y Cymro. Cyfle da i mi loywi fy Nghymraeg, meddyliais innau. A do, mor sicr a bod Mawrth yn y Grawys, fe ddysgais dipyn go lew am gyfoeth geiriol yr heniaith wrth ddarllen hunangofiant y g诺r crefyddol, Gwilym Lloyd Edwards, O Lethrau Cefn Gwyn.
Er enghraifft; edrydd, dyfnddysg, mwyara - gwych! Ffordd arall o ddweud 'mynd i hel mwyar duon'- "a'r goreuon allan o gyrraedd!" Heb anghofio'r defnydd da o air bach pert ac unsillafog, wiw.
Cynnig profiad difyr Ond profiad tu hwnt o ddiflas - arteithiol hyd yn oed - fyddai darllen geiriadur cyffredin/idiomau neu thesawrws 168 tudalen o glawr i glawr mewn tridiau.
Nid dyma oedd fy mwriad, ac mae Gwasg Carreg Gwalch yn cynnig profiad difyrrach i unrhyw un (wel, h欧n na 30 oed efallai?) sy'n ymddiddori yn y Pethe - ac mae paragraff olaf/cyntaf tudalennau 31 a 32 yn fymryn o wybodaeth eitha diddorol, chwarae teg.
Paham, felly, fy mod wedi mwynhau'r hunangofiant anhunanol yma mewn cyfnod byr o amser? 'Roedd darllen y rhagarweiniad a'r bennod Dwy Ardal hefo c芒n Mim Twm Llai, Cwmorthin, yn chwarae ar repeat ar y stereo yn brofiad gwych.
Priodas od ac anaddas i'r diddychymyg a choes ysgolheigaidd efallai. Ond na. Brogarwch, gwreiddiau, cyfoeth diwylliannol, y syniad o berthyn. Yndi: Mae o'n gwneud i ti sylweddoli Bod mwy i'r bywyd hwn Na Coca Cola.
Efallai nad oes gan O Lethrau Cefn Gwyn obaith bod yn best-seller i bobl yn eu hugeiniau ond dwi hefyd yn sicr fod canran sylweddol o ffans Mim Twm Llai yn bobl ifanc. Profiad c诺l a gwefreiddiol.
Hiwmor Ond dyna ddigon o geisio cymell rhai o aelodau www.maes-e.com i'w ddarllen a'i drin a thrafod yn yr adran Llyfrau Cymraeg. Be fydd y darllenwr nodweddiadol a mymryn yn h欧n yn ei fwynhau?
Hiwmor y Cymry. Mae'r stori/joc am John Williams, Sarnau, hefo'i ambarel (tud. 104) yn eitha doniol.
Mae geiriau/ateb "My father, sir" gan Johnny (98) yn ychwanegu mymryn bach mwy o liw.
"Byddai pethau wedi mynd yn ffliwt!"- ar dudalen 69 (tipyn bach o ddawn dweud a ffraethineb- pam lai?!)
Athrawon ymroddedig Gorau ysgol yn yr hollwlad I ddysgu dyn yw ysgol profiad
Nid yw'r awdur llyfrgar yma'n swil o ddyfynnu geiriau pobl eraill ac mae'n anodd meddwl am ddyfyniad gwell i'w gynnwys mewn hunangofiant na'r Hen Bennill uchod!
Ond 10 allan o 10 ac A*** iddo am grybwyll yr "athrawon ymroddedig, ac iddynt ruddin, a osododd esiampl..."
Dichon nad yw neb yn anghofio athro neu athrawes dda ac mae ei farn ynghylch pwysigrwydd ysgolion cynradd ar waelod tudalen 71 yn gwneud synnwyr, am wn i.
O Teulu Bach Nant-oer, gan Moelona ymlaen- nid yw rhywun llengar fel yr awdur yma yn mynd i hepgor y stori o gael benthyg llyfr gan Bob Owen Croesor!
Teipiais llyfrgell bob owen a croesor i mewn i beiriant chwilio lluniau www.gwgl.com - hen dro, dim llun ysblennydd o'r llyfrgell enwog!
Er na ddywed paragraffau agoriadol Troeon Yr Yrfa unrhyw beth gwirioneddol newydd neu dreiddgar, dwi'n si诺r y bydd nifer o bensiynwyr Cymraeg yn gallu deall ail hanner y trydydd paragraff a dirywiad bywyd y capel yn berffaith: "Y fath newid!"
A thra fy mod ar nodyn crefyddol, mae'r sylw hael a roddir i Charles H. Clements, organydd cyflogedig capel Seilo, Aberystwyth, yn annog rhywun i ddarllen mwy am ddyn a oedd yn gallu "chwarae gwaith anodd ar gyfer yr organ, a hynny gan newid cyweirnod y copi oedd o'i flaen." Tipyn o gamp!
Cefais fwy o flas ar hunangofiant Gwyn Thomas, Bywyd Bach y llynedd ond mae'r brodor o blwyf Llangywer yn yr hen Sir Feirionnydd "mor gadarn raenus ei Gymraeg" (geiriau Yr Athro Hywel Teifi Edwards ar gefn y llyfr) ac mor wybodus a diwylliedig fel na allaf ddisgwyl darllen ei gyfieithiad o nofel Gunter Grass, Katz und Maus/Cath a Llygoden.
Adolygiad Meg Elis i Llais Ll锚n
Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 91热爆 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008
Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi
Cysylltiadau Perthnasol
Adolygiad Meg Elis
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|