Golwg arbennig ar gyfnod a lle
Adolygiad Gwenll茂an Rowlinson o Bywyd Bach gan gwyn Thomas. (Cyfres y Cewri 30). Gwasg Gwynedd. 210 tt, 拢7.95.
Tybed beth sy'n dod i'ch meddwl pan fo rhywun yn s么n am Flaenau Ffestiniog?
Chwareli llechi, glaw, Glyn Wise efallai.....?
Mae'r rhan fwyaf o hunangofiant y llenor a'r ysgolhaig Gwyn Thomas, Bywyd Bach, wedi'i leoli yn y dref unigryw honno - er, i fod yn fanwl gywir, mewn t欧 capel yn Nhanygrisiau, rhyw filltir neu ddwy o'r dref, y ganwyd Gwyn Thomas - dair blynedd cyn yr Ail Ryfel Byd.
Cymdeithas glos
Ond roedd yr holl ardal yn nodedig am ei chymdeithas glos, anghydffurfiaeth ei chrefydd a'i diwydiant llechi gyda theimlad cryf o fod yn perthyn.
Cymdeithas gyda'r capel a'r Ysgol Sul yn ganolog iddi, a chymdeithas wahanol iawn i'n cymdeithas ni heddiw.
Mae Gwyn Thomas yn s么n am y wefr o gael oren a darn o siocled yn y capel un Nadolig - fe fyddai angen cymaint mwy i greu'r un wefr yn ein plant heddiw!
Mae gan Gwyn Thomas hefyd gof byw am y siopau bach amrywiol oedd yn y Blaenau yn y cyfnod hwnnw gydag atgofion melys am y losin, y sglodion a'r Vimto!
Tybed faint o'r siopau hyn sy'n dal yn agored?
Cymeriadau cofiadwy
Ymddengys bod gan y Blaenau ei dogn o gymeriadau cofiadwy hefyd a byddai rhai yn dweud eu bod hwythau braidd yn brin yn ein hamser ni!
Oes symlach oedd hon pan roedd yn rhaid i bobl greu llawer o'u diddanwch eu hunain - cyfnod y magic lantern a'r cwmn茂au drama ac mae Gwyn Thomas yn disgrifio'r rhaglen radio Noson Lawen yn ymweld 芒'r Blaenau - achlysur go iawn!
I fachgen bach yn tyfu yn ystod y Pedwardegau roedd pethau eraill i ryfeddu atynt hefyd ac mae Gwyn Thomas yn sgrifennu'n afieithus am ffilmiau a chymeriadau fel Batman a Tarzan yn dod yn fyw yn y Gymraeg wrth i'r hogiau ail fyw eu gwrhydri.
Pery'r diddordeb hwn yn y sgrin fawr hyd heddiw ynddo, meddai.
Mae'n amlwg i rai pethau adael argraff ddofn arno. Mae'n ysgrifennu'n ddwys am farwolaeth ei fam ac aelodau eraill y teulu gan ddisgrifio'r digwyddiadau hyn fel pe byddent wedi digwydd ddoe.
Mae'r cof yn fyw hefyd o'r diwrnod yr ildiodd yr Almaen a'r Rhyfel yn Ewrop yn dod i ben pan oedd ef yn blentyn wyth oed.
Mae nifer o straeon difyr am blentyndod a llencyndod yn y Blaenau, y chwaraeon, dyddiau ysgol a'r 'Sgolorship', a'i hanes yn cadw ieir - cyn i lwynog eu llarpio
Prifysgol
Ond daeth pethau plant i ben pan aeth i'r Brifysgol ym Mangor lle gadawodd nifer o ddarlithwyr a chyd-fyfyrwyr eu hargraff arno - rhai ohonynt wedi amlygu eu hunain ym mywyd y genedl wedyn.
Mae hanes difyr iawn amdano yn ymweld 芒'r hynod Bob Owen, Croesor, y chwilotwr adnabyddus.
Ceir peth o hanes Gwyn Thomas yn ymchwilio yn Rhydychen, a'r criw Cymraeg oedd yno ar y pryd hefyd.
Cyfyngu ei hun i 30 mlynedd cyntaf ei fywyd a wnaeth yn y llyfr. Dyma, meddai, y cyfnod a ffurfiodd ei gymeriad, yn arbennig felly ddeunaw mlynedd cyntaf ei fywyd yn y Blaenau a'i brofiad o'r gymdeithas glos lle'r oedd teuluoedd a chymdogion yn ysgwyddo beichiau'i gilydd mewn argyfwng cyn bo s么n am unrhyw wasanaethau lles statudol.
Mae hwn yn llyfr llawn difyrrwch; yn ffraeth ac yn lleddf a chydag angerdd yr awdur yn llifo drwyddo.
Ac ar y ddalen olaf mae gwraig Gwyn Thomas yn datgelu mai rhinwedd mawr ei g诺r yw ei fod bob amser yn plygu ei byjamas!
Ond mae'r llyfr yn brawf fod y gallu i ysgrifennu hunangofiant difyr yn rhinwedd mawr arall.
Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 91热爆 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008
Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi