|
Bywyd Bach Cawr diymhongar
Adolygiad Martin Llewelyn Williams o Bywyd Bach gan Gwyn Thomas. Cyfres y Cewri. Gwasg Gwynedd. 拢7.95.
Anaml y bydda i'n prynu llyfr Cymraeg newydd sbon. Gwell gen i fenthyca ambell i lyfr hen neu un eithaf newydd o'r llyfrgell, a hynny am ddim!
Wedi'r cyfan, os nad oedd y profiad o'i ddarllen yn un pleserus a difyr yna, o leiaf, gellid dweud na wastraffwyd yr un geiniog.
Gwybod yn iawn Ond fe wyddwn yn iawn na fyddai Bywyd Bach Gwyn Thomas yn gambl o gwbl. O ddifrif?
Hunangofiant sych, cul, hirwyntog a diflas gan Athro Cymraeg sy'n defnyddio llaweroedd o eiriau mawr crand anodd eu deall, a hynny heb unrhyw beth i'w ddweud o ddiddordeb i'r rhan fwyaf o Gymry Cymraeg yr unfed ganrif ar hugain? Dim o gwbl...
Fel, er enghraifft, T H Parry-Williams a D Tecwyn Lloyd, nid yw'n cyfyngu ei ddiddordebau i ddysg llyfrau yn unig.
Faint ohonom fyddai wedi hoffi cael tynnu ein llun gyda'r diweddar Gawr Addfwyn?!
Ll锚n a llun yddiaeth Yn ogystal 芒 llenyddiaeth (afraid dweud!) mae hefyd yn ffan o lunyddiaeth (gair da).
Mae digrifwch Laurel a Hardy wedi sefyll prawf heneiddio ac amser. Cawn wybod ei fod yn edmygydd mawr o Robert Mitchum (yn hollol- nid oes terfyn ar y math o bynciau y gall y Gymraeg eu trin rhwng dau glawr), Richard Burton a John Ogwen - hunangofiant rhif 16 yng Nghyfres y Cewri - a Bywyd Bach GT yw'r degfed ar hugain yn y gyfres boblogaidd yma.
Y mae ei sylwadau craff am ambell i ffilm Saesneg yn fy atgoffa o ddarnau difyr yn Dirgel Ddyn gan Mihangel Morgan. Trueni nad yw'n dewis ein goleuo gyda sylwadau difyr am hufen yr hufen o ffilmiau Cymraeg - er ei fod yn crybwyll Y Chwarelwr er mwyn adrodd stori fach ddigon diddorol tua'r diwedd, ond dyna i gyd.
Tician dadlennol Troi'r cloc yn 么l a gadael iddo dician mewn rhythm ddadlennol a llesmeiriol- dyma beth yw hunangofiant da. A chyn i mi anghofio am fyd y ffilm, dwi'n siwr y bydd rhai o'n darllenwyr hynaf yn mwynhau cofio am oes aur (?) y pictjwrs. Oes a ysbrydolodd filoedd o Gymry ifanc i chwarae cowbois.
Ac roedd yna nifer o gemau eraill yn difyrru plant ardal y Blaena; chwarae marblis, concyrs, bachyn a phowl, ceffyl bach, cyrcs poteli llefrith, gwaith corcyn a hyd yn oed gwneud tjips!
Nid yw GT yn dweud hyn mewn ffordd blwmp a phlaen (cynildeb y bardd efallai?) ond rhyw amau ydw i fod nifer o bobl mewn oed yn teimlo'n gryf nad yw plant yn chwarae go iawn bellach.
Oes y blincin gemau cyfrifiadur yw hi bellach- oes ryfedd iawn.
Sonia GT am ei hoffter o chwarae p锚l-droed, a "rhoi dwy got neu ddwy garreg ym mhob pen i'r llain ac yna'n dechrau cicio p锚l, gan wthio trwy ambell dyfiant o frwyn".
Sgin i ddim tystiolaeth gadarn, ond credaf fod e.e. cyrraedd lefel 17 ar y g锚m gyfrifiadur ddiweddara yn bwysicach i blant yr oes hon na sgorio hatric yn erbyn rhai o'ch ffrindiau!
Disgrifia'r gemau a grybwyllwyd yn gynharach mewn modd manwl a, wel, byw. Ia, "byw" rhwng dau glawr yn unig, gwaetha'r modd.
Cyfareddol a diffuant Rhyw Ddyddiau Rhyfel Oeddynt yw pennod feraf yr hunangofiant. Cyfareddol a diffuant. Cynildeb i'w ganmol. Ond nid wyf yn synnu chwaith, canys bod yn gynnil yw un o brif gryfderau bardd da.
Enghraifft arall o gynildeb rhagorol: "Pwy fuasai'n meddwl ynte!" ar dudalen 193. Cic fach slei, bositif, ym mhen 么l cymdeithasau Cymraeg y tu allan i Gymru?
Cymru Fu Sonia'r awdur am Cymru Fu, llyfr yr oedd yn mwynhau darllen darnau ohono "drosodd a throsodd" pan yn iau.
Mae gen innau gopi hefyd yn y t欧 'cw ( diolch i haelioni'r Carnarvonshire Education Committe yn 1909!)
Sylw personol: chwiliais am y llyfr yma ar www.gwales.com -dim lwc. Tybed ym mha flwyddyn y cafodd y campwaith yma ei argraffu ddiwethaf? Os na chafwyd argraffiad newydd rhywbryd yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf (gyda chlawr hynod o ddeniadol- o'r un safon ag e.e. Y Mabinog i- Gwyn Thomas, Y Lolfa, 2006) yna mae'n biti garw. Cof cenedl (?)
Y Beibl oedd y llyfr arall "a fu'n gyson wrth ochr" ei wely "am flynyddoedd".
Yn wir, ceir ambell i sylw hynod o dreiddgar ynglyn a ffydd, a'r Pwnc Mawr.
Cymdeithas glos: diweddglo hyfryd i bennod ar dudalen 199. Difyr hefyd yw ei sylw ar dud. 49: Annibynwyr v Methodistiaid. Fel mae'r oes (a Chymru) wedi newid!
Hiwmor a ffraethinrb Pa hunangofiant Cymraeg fyddai'n gyflawn heb hiwmor a ffraethineb?
Doniol iawn ydyw'r sgetjs ar dudalen. 192 - 'Tjips i Dri', hefyd sgwrs rhwng dwy wraig ym Methesda ar dudalen 195!
Ceir hefyd ambell i frawddeg ysgubol a chofiadwy gan fawrion eraill e.e. Gwenallt a Bob Owen.
Oes, mae angen mymryn o sbeis ar gyfer hunangofiant da. Dwi wedi darllen ambell i hunangofiant yn yr iaith fain yn lled ddiweddar (wnai ddim mo'u henwi) - rhyw hen bethau sych.
Diflewyn ar dafod
Sbeis o fath gwahanol: gall hefyd fod yn ddiflewyn ar dafod e.e. pwysigrwydd disgyblaeth dda yn ein hysgolion, ei farn gref o blaid cadw Ysbyty Blaena ar agor a bod "Cymru'n werth ei hachub". Achub? Gair eithafol?
Mae ei fyfyrdodau ychydig cyn cloi yn haeddu sawl darlleniad. Ond rhaid cyfaddef nad wyf yn siwr iawn os ydwyf yn hoffi ei ddewis o'r gair tswnami ar dudalen 208.
Fel Athro Cymraeg, mae'n anochel efallai y bydd yn rhoi "gwers Gymraeg" inni. Ond stwffio fo i lawr ein cyrn gyddfau? Bws ynteu bys? Pwy ar y ddaear sy'n dweud bws? Cynnwys diflas ar hanner isaf tudalen 151 a'r rhan fwyaf o dudalen 152? Na - dim o gwbl (mae'r peth yn llifo mor naturiol).
Diymhongar Hunangofiant "sbiwch arna i", egoistaidd a hunanbwysig? Cyfle i frolio ei weithiau barddonol ac ysgolheigaidd ei hun? Na- mae'r teitl yn dweud y cyfan - ia, diymhongar, dyma yw'r gair dwi'n chwilio amdano.
Y Dyn 'i Hun (Hywel Gwynfryn), Fi Dai sy' 'ma (Dai Jones, Llanilar) - mae Bywyd Bach yn haeddu ffigwr gwerthiant tebyg.
Mae un peth cyn sicred a bod bara mewn torth - ia, na chi, pobydd, sef becar oedd ei dad - os y byddwch yn ddigon ffodus i dderbyn y llyfr hwn yn eich hosan Dolig, yna byddwch wedi ei ddarllen o g芒s i g芒s cyn y flwyddyn newydd!
Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 91热爆 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008
Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi Gweler Gwales
Cysylltiadau Perthnasol
Bywyd Bach gan Gwyn Thomas - gan gynnwys sgwrs gyda Gwilym Owen
|
steph o llangefni tudalen da :D
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|