91热爆

Explore the 91热爆
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

91热爆 91热爆page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Bywyd Bach
Hunangofiant Gwyn Thomas - y bardd sy'n plygu ei byjamas . . .
  • Cyhoeddi Bywyd Bach gan Gwyn Thomas. Cyfres y Cewri. Gwasg Gwynedd. 拢7.95. Nifer o luniau.


  • Gellir clicio isod i glywed Gwyn Thomas yn cael ei holi ar Wythnos Gwilym Owen, Tachwedd 13, 2006.

    Er nad oes dim yn anghyffredin mewn gweld dyn 70 oed yn sgrifennu ei hunangofiant mae'n gryn syndod gweld y dyn hwnnw yn gorffen ei stori yn bump ar hugain oed.

    Clawr y llyfr Gan addo nad oes dim mwy i ddod!

    Wrth gyflwyno ei gyfrol, Bywyd Bach yng Nghyfres y Cewri dywed y bardd a'r ysgolhaig Gwyn Thomas iddo benderfynu "mai llyfr am fy mlynyddoedd hyd at imi ddechrau gweithio fyddai hwn, ynghyd 芒 chwpwl o bethau eraill."

    "A dyna sydd yma - ac rydw i'n addo na fydd yna ddim byd pellach," meddai.

    Y canlyniad yw cyfrol o ddau gant o ddalennau gyda dim ond deg o'r rheini yn crynhoi gweddill ei fywyd rhwng 25 a 70 oed!

    'Ddim yn gymeriad eithriadol o ddiddorol'
    Ac mewn sgwrs radio gyda Gwilym Owen eglurodd Gwyn Thomas, sydd yn un o'n beirdd difyrraf, mai peth "anniddorol" fu ei fywyd wedi'r oed hwnnw!

    "Yr oedd pethau'n glir iawn imi hyd at fanna . . . Ond hefyd, mae'r pethau sy'n ffurfio ein cymeriadau ni wedi darfod erbyn yr oed yna neu'n gynt dwi'n meddwl," meddai wrth Gwilym Owen gan gytuno ag ef fod y cymeriad yn mynd yn "anniddorol" yn dilyn y cyfnod ffurfiannol hwn.

    "Fuaswn i ddim yn galw fy hun yn gymeriad eithriadol o ddiddorol yn enwedig ar 么l pump ar hugain," meddai.

    Afiaith a manylder
    Ond os yw'r rhan fwyaf o'i flynyddoedd yn cael eu crynhoi i ychydig ddalennau yng nghefn y llyfr y mae'n cofnodi y cyfnod sy'n arwain at ei bump ar hugain oed gydag afiaith a chymaint o fanylder yr ofnai ar un adeg a fyddai'r hanner can mil o eiriau a ganiatawyd iddo gan y cyhoeddwyr yn ddigon ar gyfer dweud y cyfan!

    "Wedi dechrau ysgrifennu, yr hyn y dechreuais i feddwl wedyn oedd: a all hanner can mil o eiriau fynd 芒 fi y tu hwnt i mhump oed?" meddai.

    Pam Bywyd Bach?
    Ychwanegodd iddo ddewis y teitl, Bywyd Bach nid yn unig am mai llyfr am ei flynyddoedd cynnar yw hwn ond fel gwrthbwynt i deitl cyffredinol y gyfres hon o hunangofiannau, Cyfres y Cewri, gan nad yw'n cyfrif ei hun yn gawr o gwbl.

    Yn wir dywed iddo geisio perswadio Gwasg Gwynedd i ganiat谩u i'r llyfr beidio ag ymddangos fel rhan o'r gyfres honno.

    "Mae'r teitl cewri yma, roedd gen i ofn hwnnw braidd," meddai wrth Gwilym Owen. "[ond dywedodd y wasg fod yn] rhaid i'r peth fynd o dan y teitl yna achos dyna sy'n gwerthu'r gyfres."

    Daw'r geiriau Bywyd Bach o linellau yn The Tempest gan Shakespeare: "We are such stuff/ As dreams are made of: and our little life/ Is rounded with a sleep.

    O ganlyniad ni cheir yn y gyfrol drafodaeth y byddai rhai wedi ei dymuno am ei farddoniaeth a'r straeon y tu 么l i gyfansoddi rhai o'i gerddi - er y gwyddom fod straeon difyr iawn i'w hadrodd yn y cyd-destun hwnnw.

    Ychydig linellau sydd ganddo hefyd am gydweithwyr ddyddiau coleg a dim gair am ddyddiau cythryblus helyntion iaith y brifysgol ym Mangor yn ystod ei gyfnod yno'n ddarlithydd. - ond y mae yn ymhelaethu rhywfaint am hynny yn ei sgwrs gyda Gwilym Owen:

    gwrandoGwilym Owen yn holi Gwyn Thomas

    Molawd i'r Blaenau
    Ond yr hyn sydd i'w gael yn y gyfrol yw atgofion am blentyndod a llencyndod yn ardal Blaenau Ffestiniog a darlun o gymdeithas ddiflanedig y cred yr awdur na welir ei thebyg byth eto.

    Ac adlewyrchir yn yr hunangofiant yr un ofnau ac a welir yn ei farddoniaeth am barhad Cymreictod yn ei holl agweddau.

    Meddai wrth Gwilym Owen: "Dyna ydi'r pwynt o sgwennu'r llyfr, mae o'n llyfr amdanaf i wrth gwrs ond mae o hefyd yn llyfr am gymdeithas arbennig. Ddaw y math yna o beth byth yn 么l eto ac yr oedd hynny yn rhyw fath o bwysau arnaf i lle mae'r peth yna yn mynd heibio ac na ddaw o byth yn ei 么l ac na fydd yna ddim cymdeithas debyg i hon byth eto.

    "Ac mae ei Chymreigrwydd hi yn rhan bwysig iawn o hynny. A welir y fath Gymreigrwydd byth eto? Mae'n amheus iawn gen i."

    Ychwanegodd: "Rydw i'n teimlo'n angerddol fod rhywbeth ar ei ffordd i beidio 芒 bod ac roeddwn i'n trio achub hynny fedrwn i o nghof i ac o mhrofiad i fy hun."

    Help i ddeall ei farddoniaeth
    I'r niferoedd sy'n gymaint edmygwyr o Gwyn Thomas fel un o'n beirdd pwysicaf bydd y gyfrol hon am ei flynyddoedd ffurfiannol ac am y dylanwadau a'u mowldiodd yn un amheuthun sy'n taflu goleuni gwerthfawr dros y gwerthoedd a'r pryderon, yr anobaith a'r ffydd, y gobaith a'r her, sydd yn ei gerddi.

    Yr her nid yn unig i ddiogelu gwerthoedd a diwylliant ond i wneud hynny yn wyneb yr hyn a eilw ef yn "tswnami diweddar o ddylanwadau" Americanaidd a Saesneg a chreu pethau yn y Gymraeg sydd yr un mor ddeniadol i'n pobl.

    Math anodd o greu
    "Ond dyma greu anodd iawn, iawn; yn enwedig a gwyth茂en yr iaith yn teneuo, a ninnau'n ein teclyneiddio neu gajeteiddio ein hunain i'r graddau yr ydym.

    "Nid oes gennyf amheuaeth fod y gajeteiddio hwn yn cael effaith arnom. A wnaiff rhywun, os gwn i, ddyfeisio gajet-gyfieithu i'n galluogi ni i fod yn Gymry Cymraeg a dal i gyfathrebu mewn m么r o Saesneg?" hola ar ddalen olaf ond un yr hunangofiant.

    Ond er ei bryderon mae hwn ymhell o fod yn gofiant heb ei hiwmor - a'i gymeriadau lliwgar.

    Mae'n gofiant sy'n datgelu hefyd pam y bydd bardd gyda mwyaf blaenllaw ein cyfnod yn cael ei gofio fel un sy'n plygu ei byjamas!
    Neu, yn ei eiriau ei hun:
    Un oedd hwn a'i feiau'n fyrdd
    Ac awdur sawl galanas
    Ond roedd un rhinwedd yn ei ffyrdd -
    Fe blygai ei byjamas.

  • Gweler Gwales

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Adolygiad o Bywyd Bach gan Martin Llewelyn Williams

  • Apocalups Yfory


  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 91热爆 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy