|
O Lethrau Cefn Gwyn Cofiant geiriadurwr
Adolygiad Meg Elis o O Lethrau Cefn Gwyn gan Gwilym Lloyd Edwards. Carreg Gwalch. 拢7.50
"For really I think that the poorest he in that is in England hath a life to live as the greatest he."
Fe allwn roi hwn fel arwyddair i'r gyfrol fechan hon - ond buasai'n rhaid i mi newid "in England" wrth gwrs, a throi'r Putney Debates yn Rhyfel y Degwm, yn codi'r Faner Goch, yn Bont Trefechan, yn Wrthryfel y Siartwyr - o, be di'r iws, gyda manylion y selebs distadlaf yn Lloegr yn tra-arglwyddiaethu ar ddigwyddiadau go-iawn yng Nghymru...?
Hanes bywyd distadl. Nid distadl ychwaith, ddywedwn i, gan mai hanes geiriadurwr yw hwn ac un a fu yno ar y cychwyn, adeg sefydlu'r hyn sy'n Feibl i ni gyfieithwyr a phawb sy'n ymh茅l ag iaith, sef Geiriadur y Brifysgol.
Mae'n dod o ardal fy nghyndeidiau. Mae'n ymwybodol, o'i dras. Ac eto ... ac eto.
Ysgol fach "Diddordeb lleol," meddai rhywun wrth sb茂o ar y llyfr yr oeddwn i'n ei ddarllen. Ie debyg, os ydych am ddarllen hanes ac achau'r teulu. Maent yn cael eu gosod allan yma yn berffaith, yn gywrain - a does gen i ddim diddordeb o gwbl.
A hanes bywyd mewn ysgol fechan? Sori, mae ysgolion bychain yn cau y dyddiau hyn, a iawn hynny. Mae gan bobl fwy o ddiddordeb mewn cael addysg gyflawn i'w plant na'u cadw gydag un athro/athrawes am holl flynyddoedd pwysig eu datblygiad addysgol.
Petaen nhw'n gwir yn ymboeni am ddyfodol yr ysgol leol, mi fuasent wedi aros yn y pentref a gyrru eu plant yno. Fe wnaethon nhw hynny yn Ysgol Llangywer yn amser Gwilym Lloyd Edwards ac y mae o'n brawf o werth yr addysg honno yn ei chyfnod.
Gyda'r cenedlaethau a ddilynodd, newidiodd pethau, aeth y plant a'u teuluoedd i ffwrdd ymhellach, a moethusrwydd bellach yw cwyno am gau'r ysgol fach leol.
Fel crair Rydw i'n edrych ar y gyfrol hon fel petawn i'n edrych ar grair. Mi alla'i ganmol cymaint amdani. Y sgwennu clir, annwyl, cain. Y darlunio manwl. Y cymeriad annwyl a ddatgelir. Y byd sydd wedi diflannu.
Hwnna ydi o - fel y basa Ifas y Tryc yn ddweud, creadigaeth Wil Sam, sydd hefyd wedi mynd. Sb茂o'n 么l y mae rhywun yn y gyfrol hon. Mae'n gameo perffaith o fyd diflanedig, ond y mae'r byd, a'r ysgrifennu hefyd, yn perthyn i gyfnod a fu.
Tydw i ddim wir yn pryderu am hyn am fod yna gynulleidfa i'r math yma o sgwennu o hyd ac am fy mod i'n ei werthfawrogi.
Ac fel rhywun sy'n ymwneud 芒 geiriau, mae'r adran am fywyd yr awdur fel geiriadurwr yn hynod werthfawr ac yn ddiddorol dros ben.
Yr ifanc Ga'i fod yn onest? Fydd y llyfr hwn ddim yn denu darllenwyr ifanc newydd at y Gymraeg - ond nid dyna'r bwriad, decini. Mi fydd yn denu'r to h欧n. Iawn. Dwi'n nes谩u at y to hwnnw fy hun. Erbyn hyn . . .
Ond dyma fy nadl fawr. Mae angen ysgrifennu am y gorffennol mewn modd sy'n denu'r dyfodol. Mae J K Rowling yn ei wneud o. A pheidiwch a chamgymryd, y gorffennol sydd ganddi hi - ysgolion bonedd, cred, a brwydr. Perthyn a chred, yw popeth bellach, a buasai heddlu'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn dod i lawr ar Harry Potter fel tunnell o frics petae ganddynt y crebwyll i'w ddeall. Ond does ganddyn nhw ddim.
Diolch am hynny, neu fe fuasen nhw'n alltudio'r math hwn o lyfr hefyd - am ei fod yn s么n am gymdeithas geidwadol, batriarchaidd, anghofiedig - werthfawr.
Dwi'n mawrygu'r llyfr hwn a hefyd yn dyfynnu Gerallt Lloyd Owen:
"Fel hyn bob dydd diflannwn; fesul un, Fesul awr ffarweliwn 脗'r Cymreictod hynod hwn, Diwylliant nas deallwn."
Mae yna rai fydd yn deall ac yn croesawu'r llyfr hwn. Nid y mwyafrif. Ond tydan ni wedi arfer 芒 bod mewn lleiafrif?
Cysylltiadau Perthnasol
Adolygiad Martin Williams
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|