91热爆

Cwymp Wall Street a'i effeithiau uniongyrchol

Rhybuddiodd nifer o arbenigwyr ariannol fod economi America yn arafu ac ym mis Medi 1929 dechreuodd rhai buddsoddwyr (investors) werthu nifer fawr o . Dechreuodd nifer o bobl deimlo'n ansicr ac aeth buddsoddwyr i banig a gwerthu eu cyfranddaliadau ar frys.

Ar 24 Hydref 1929, sef , gwerthwyd 12.8 miliwn o gyfranddaliadau. Gwelodd miloedd o gyfranddalwyr eu ffortiwn, neu unrhyw arian oedd ganddyn nhw yn y banc, yn diflannu. Ar 29 Hydref 1929 gwerthwyd 16 miliwn o gyfranddaliadau am brisiau isel iawn. Roedd y yn Efrog Newydd wedi cwympo.

Daeth y (Roaring Twenties) i ben yn sydyn. Collodd buddsoddwyr eu harian yn y Cwymp ac ni allen nhw dalu eu dyledion. Caeodd nifer o fanciau, collodd pobl gyffredin eu cynilion (savings) a chollodd pobl obaith ar gyfer y dyfodol.

Bellach, ni allai pobl brynu nwyddau traul fel ceir a dillad. Felly cafodd gweithwyr eu diswyddo a chafodd cyflogau'r gweddill eu torri. Cododd lefelau diweithdra'n uchel iawn ac roedd 2.5 miliwn o Americanwyr yn ddi-waith erbyn diwedd 1929.

Dyma ddechrau y 1930au.

Ffotograff o dorf tu allan i'r First National Bank yn Efrog Newydd
Image caption,
Pobl tu allan i fanc sydd ar gau adeg y Dirwasgiad Mawr