91热爆

Cyflwyniad

Falle dy fod yn meddwl bod y byd gwleidyddol yn llawn geiriau mawr - ond dydyn nhw ddim mor gymhleth ac y maen nhw'n swnio. Gwylia'r fideo i geisio taclo rhai ohonyn nhw.

Cafodd y ffilm hon ei chynhyrchu yn 2021 cyn y newidiadau i ffiniau etholaethau

Dysga fwy am y deg gair neu ymadrodd gwleidyddol o'r fideo.

10. Llywodraeth

Y llywodraeth sy鈥檔 rhedeg y wlad ac mae'n cael ei harwain gan y prif weinidog.

Gan fod cymaint o waith i鈥檞 wneud wrth reoli gwlad, mae angen cymorth ar y prif weinidog. Felly mae'n dewis Aelodau Seneddol o D欧鈥檙 Cyffredin ac aelodau o D欧鈥檙 Arglwyddi i fod yn weinidogion.

Y cabinet yw鈥檙 enw ar y gr诺p sy鈥檔 cynnwys y prif weinidog a鈥檙 gweinidogion pwysicaf. Gyda鈥檌 gilydd, mae gan y cabinet y p诺er i wneud penderfyniadau ar gyfer y DU gyfan. Y cabinet felly sy'n llywodraethu y DU.

Yn y Deyrnas Unedig (DU), er mai鈥檙 Senedd sy鈥檔 sofran 鈥 hynny yw Senedd y DU sy鈥檔 holl bwerus 鈥 mae'r llywodraeth yn cael ei ffurfio gan y blaid sydd gyda鈥檙 nifer fwyaf o seddi yn y Senedd. O ganlyniad, maen nhw鈥檔 eithaf si诺r o allu pasio鈥檙 polis茂au yn eu maniffesto i fod yn ddeddfwriaeth.

Image caption,
Prif adeilad cyhoeddus Senedd Cymru, wedi ei leoli yng nghanol Bae Caerdydd.

9. Senedd

Mae dwy ystyr i鈥檙 term 鈥楽enedd鈥 yng ngwleidyddiaeth Cymru a鈥檙 DU a dyma pam, yn aml, fod pobl yn drysu.

Yng nghyd-destun y DU, y Senedd yw鈥檙 term am D欧鈥檙 Cyffredin a Th欧鈥檙 Arglwyddi yn San Steffan. Mae鈥檙 ddwy siambr yma鈥檔 wahanol.

650 o Aelodau Seneddol, sy鈥檔 cael eu hethol gan ddinasyddion y DU, sy鈥檔 eistedd yn Nh欧鈥檙 Cyffredin. Meinciau gwyrdd sydd yn Nh欧鈥檙 Cyffredin.

Does dim nifer penodedig o aelodau yn Nh欧鈥檙 Arglwyddi. Mae yna 92 o arglwyddi sydd wedi etifeddu eu lle, 26 o esgobion Eglwys Lloegr sy'n cael eistedd yno yn rhinwedd eu swydd, a tua 700 sydd wedi cael eu henwebu gan bleidiau gwleidyddol neu gan gomisiwn annibynnol. Meinciau coch sydd yn Nh欧鈥檙 Arglwyddi.

Mae gyda ni ein Senedd ein hunain yng Nghymru ble mae Aelodau o鈥檙 Senedd yn cwrdd i drafod. Ar hyn o bryd mae 60 ohonyn nhw ond bydd y nifer yn cynyddu i 96 ar 么l yr etholiad nesaf yn 2026. Yr hyn sy鈥檔 gyffredin am y ddwy Senedd yw bod ganddyn nhw鈥檙 p诺er i greu deddfau.

Y Senedd yw鈥檙 enw hefyd ar yr adeilad ym Mae Caerdydd ble mae Senedd Cymru yn cwrdd.

Image caption,
Prif adeilad cyhoeddus Senedd Cymru, wedi ei leoli yng nghanol Bae Caerdydd.

8. Clymblaid

Bydd llywodraeth glymblaid yn cael ei ffurfio pan fydd mwy nag un blaid wleidyddol yn dod at ei gilydd i reoli. Mae hyn fel arfer yn digwydd mewn senedd grog, pan nad oes yr un blaid wedi ennill digon o seddi mewn etholiad i fedru llywodraethu ar ei phen ei hun.

Y bwriad wrth greu clymblaid gyda phlaid arall yw bydd ganddyn nhw dros 51% o鈥檙 seddi o fewn senedd ac felly yn medru pasio deddfau yn haws. Yn 1852, cyn iddo ddod yn brif weinidog, dywedodd Benjamin Disraeli, 鈥淓ngland does not love coalitions鈥. Y rheswm am hyn, yn ei farn e, yw bod angen cymaint o gyfaddawdu i ffurfio clymblaid.

Dydy clymbleidiau ddim yn bethau cyffredin i wleidyddiaeth San Steffan gan fod un blaid yn debygol o ennill y mwyafrif o seddi o dan y system cyntaf i'r felin. Ond rhwng 2010 a 2015 roedd y DU yn cael ei llywodraethu gan glymblaid rhwng y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Yng Nghymru mae llywodraeth glymblaid yn fwy cyffredin gan ei bod hi'n llai tebygol fod un blaid yn ennill mwyafrif gyda'r system bleidleisio sy'n cael ei defnyddio ar gyfer etholiadau'r Senedd. Mae鈥檙 Blaid Lafur wedi ffurfio clymbleidiau gyda鈥檙 Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru ar adegau gwahanol.

7. Cyntaf i'r felin

Dyma鈥檙 term i ddisgrifio system etholiadol etholiadau cyffredinol y DU. Yn syml, mae hyn yn golygu mai鈥檙 blaid sydd yn ennill plwraliaeth syml 鈥 hynny yw, y nifer fwyaf o bleidleisiau 鈥 fydd yn ennill etholiad.

Os bydd un blaid yn ennill dim ond un bleidlais yn fwy na phlaid arall, yna nhw bydd yn ennill yr etholaeth.

6. Etholaeth

Dyma'r ardal ddaearyddol bydd Aelod Seneddol neu Aelod o'r Senedd yn ei chynrychioli.

Mae 650 o Aelodau Seneddol yn cael eu hethol i gynrychioli eu hetholaethau mewn etholiad cyffredinol. Mae 32 o'r etholaethau hyn yng Nghymru.

Mae ffiniau etholaethau yn cael eu pennu gan y Comisiwn Ffiniau i Gymru. Cafodd ffiniau eu newid yn 2023 gyda鈥檙 nod o greu etholaethau gyda nifer tebyg o etholwyr. Heblaw am Ynys M么n, pan gafodd y newidiadau eu gwneud roedd gan bob etholaeth etholiad cyffredinol yng Nghymru rhwng 69,724 a 77,062 o etholwyr yr un.

5. Deddfwriaeth

Mae hwn yn derm gyda dwy ystyr. Deddfwriaeth yw cyfreithiau sy鈥檔 cael eu creu gan y Senedd, sef Deddfau Seneddol. Mae hefyd yn golygu y broses o greu cyfreithiau newydd yn y Senedd, hynny yw, deddfu.

4. Cyngor

Cyrff llywodraeth leol sy鈥檔 gyfrifol am faterion lleol ydy cynghorau. Mae gan siroedd ac ambell bentref, trefi a dinasoedd eu cyngor eu hunain.

Fe fydd dinasyddion yn ethol cynghorwyr lleol i鈥檙 cynghorau i wneud penderfyniadau am sut i weinyddu gwasanaethau cyhoeddus yn yr ardal, er enghraifft casgliadau sbwriel, trafnidiaeth gyhoeddus leol a gwasanaethau hamdden lleol.

3. P么l piniwn

Mae polau piniwn yn cael eu defnyddio i ddarganfod barn y cyhoedd. Fe fydd cwmn茂au sy鈥檔 arbenigo mewn polau piniwn yn creu holiadur yn gofyn cyfres o gwestiynau i bobl eu hateb. Fe fyddan nhw wedyn yn coladu鈥檙 canlyniadau i greu trosolwg o farn y cyhoedd.

Mae polau piniwn yn bwysig dros ben i bleidiau gwleidyddol ac i鈥檙 llywodraeth, gan eu bod nhw鈥檔 medru dangos pa mor boblogaidd ydyn nhw, pa mor debygol ydyn nhw o ennill yr etholiad nesaf neu beth yw barn y cyhoedd am eu polis茂au.

2. Polisi

Polis茂au pleidiau gwleidyddol yw鈥檙 syniadau yr hoffen nhw eu pasio i fod yn ddeddfwriaeth ar 么l ennill etholiad a ffurfio llywodraeth.

Cyn etholiad, mae pob plaid wleidyddol yn penderfynu beth yw eu polis茂au ac yn eu rhoi yn eu maniffesto fel bod pobl yn gallu darganfod beth ydyn nhw.

1. Datganoli

Ystyr datganoli yw symud peth p诺er o鈥檙 canol i鈥檙 ymylon.

Yn ymarferol, mae hynny鈥檔 golygu bod Senedd y DU wedi pasio rhai o鈥檌 phwerau i Senedd Cymru, Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon.

Mae datganoli wedi bod yn ganolog i wleidyddiaeth Cymru ers 1999 achos mae Senedd Cymru nawr yn gyfrifol am 20 maes, gan gynnwys iechyd, addysg a thrafnidiaeth, a oedd yn arfer bod yn gyfrifoldeb Senedd y DU.

Llinell / Line

Gwleidyddiaeth go iawn

Cynnwys Dinasyddiaeth ar gyfer 11-14 oed yng Nghymru

Gwleidyddiaeth go iawn

Gohebydd Ifanc y 91热爆

Cyfle i bobl ifanc 11-18 oed i rannu eu straeon a sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed.

Gohebydd Ifanc y 91热爆

Easy peasy politics

Citizenship content for 11-14 year olds in Wales

Easy peasy politics

More on Gwleidyddiaeth a democratiaeth

Find out more by working through a topic