91热爆

Cyflwyniad

Beth sy鈥檔 digwydd ar 么l i ddinasyddion bleidleisio? Gan bwy mae鈥檙 p诺er?

Senedd y Deyrnas Unedig (DU)

Senedd y Deyrnas Unedig yw鈥檙 ddwy siambr ym Mhalas San Steffan, sef T欧鈥檙 Cyffredin a Th欧鈥檙 Arglwyddi. Mae鈥檙 ddwy siambr yn bwysig iawn yn y broses ddeddfu yn y DU gan eu bod yn gwirio bod y llywodraeth yn gwneud penderfyniadau addas. Mae鈥檙 Senedd yn hynod bwerus gan ei bod yn sofran, sy鈥檔 golygu mai鈥檙 Senedd yw鈥檙 p诺er uchaf yn y DU.

San Steffan

Pan fyddi di鈥檔 pleidleisio mewn Etholiad Cyffredinol, fe fyddi di鈥檔 ethol Aelod Seneddol (AS) i dy gynrychioli yn y Senedd yn San Steffan, Llundain.

T欧鈥檙 Cyffredin

Fe fydd dy Aelod Seneddol di鈥檔 eistedd ar un o鈥檙 seddi gwyrdd yn Nh欧'r Cyffredin (os yw鈥檔 lwcus 鈥 does dim digon o le i bawb eistedd!). Fe fydd dy AS fel arfer yn aelod o blaid wleidyddol ac fe fydd pob un blaid wleidyddol yn cystadlu i ennill cymaint o鈥檙 650 o seddi 芒 phosib ym mhob etholiad.

Graffeg yn dangos proses democratiaeth etholaethau'r DU

T欧鈥檙 Arglwyddi

Mae T欧鈥檙 Arglwyddi yn wahanol gan nad yw'r aelodau yn cael eu hethol. Mae 92 o Arglwyddi wedi etifeddu eu lle ac mae gan 26 o esgobion Eglwys Lloegr yr hawl i eistedd yno. Mae'r gweddill wedi eu hapwyntio gan y Brenin ar gyngor y prif weinidog.

Llinell / Line

Llywodraeth y DU

Daw鈥檔 amlwg pam bod pleidiau yn cystadlu mor frwd i ennill seddi yn Nh欧鈥檙 Cyffredin wrth weld sut mae llywodraeth y DU yn cael ei ffurfio.

  • Y prif weinidog

Does dim etholiad i ddewis prif weinidog y DU fel sydd mewn rhai gwledydd eraill. Pwy bynnag yw arweinydd y blaid fwyaf yn Nh欧鈥檙 Cyffredin sy鈥檔 dod yn brif weinidog. Felly, y blaid sydd gyda鈥檙 nifer fwyaf o seddi sy鈥檔 cipio鈥檙 swydd uchaf yng ngwleidyddiaeth y DU.

Sut mae Prif Weinidog y DU yn cael ei ddewis
  • Y Cabinet

Gan fod cymaint o waith i鈥檞 wneud wrth reoli gwlad, mae angen cymorth ar y prif weinidog. Fe fydd y prif weinidog yn dewis ASau o D欧鈥檙 Cyffredin ac aelodau o D欧鈥檙 Arglwyddi i fod yn weinidogion. Y cabinet yw鈥檙 enw ar y gr诺p sy鈥檔 cynnwys y prif weinidog a鈥檙 gweinidogion pwysicaf. Gyda鈥檌 gilydd, mae gan y cabinet y p诺er i wneud holl benderfyniadau llywodraethol y DU. Y cabinet felly sy'n llywodraethu'r DU.

Daw pob aelod o鈥檙 llywodraeth o blaid fwyaf y Senedd neu o blaid sy'n rhan o glymblaid.

Mae pob aelod o鈥檙 llywodraeth yn rhan o鈥檙 Senedd ond nid yw pob AS yn rhan o鈥檙 llywodraeth.

Cofia fodd bynnag fod y llywodraeth yn atebol i鈥檙 Senedd gan mai鈥檙 Senedd sy鈥檔 sofran.

Llinell / Line

Datganoli

Ystyr datganoli yw symud p诺er o鈥檙 canol i鈥檙 ymylon. Roedd llywodraeth Lafur Tony Blair yn awyddus i ddosbarthu rhai o bwerau Senedd y DU i Gymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon. Felly, yn 1997 cynhaliwyd refferendwm yng Nghymru ac un arwah芒n yn yr Alban. Pleidleisiodd pobl y ddwy wlad o blaid datganoli.

O鈥檌 sefydlu yn 1999 tan Mai 2020, Cynulliad Cenedlaethol Cymru oedd enw Senedd Cymru ym Mae Caerdydd.

Pa bwerau?

Mae gan Senedd Cymru y p诺er i wneud penderfyniadau mewn 20 o feysydd gan gynnwys:

  • amaethyddiaeth
  • diwylliant
  • datblygiad economaidd
  • addysg
  • yr amgylchedd
  • iechyd
  • trafnidiaeth
  • llywodraeth leol
  • twristiaeth
  • yr iaith Gymraeg

Ond, fe gadwodd Senedd y DU rai p诺erau yn 么l, er enghraifft:

  • materion tramor
  • yr heddlu a chyfiawnder
  • arian cyfred
  • y mwyafrif o fudd-daliadau
  • y mwyafrif o drethi

Senedd Cymru

R么l Senedd Cymru yw i ddeddfu, cytuno ar rai trethi Cymreig ac i sicrhau bod llywodraeth Cymru yn gwneud penderfyniadau addas.

Y system bleidleisio ar hyn o bryd

Bob pum mlynedd mae Aelodau o鈥檙 Senedd yn cael eu hethol yn Etholiadau Cymru i gynrychioli pobl Cymru. Yn yr etholiad diwethaf roedd yna 40 etholaeth yng Nghymru ac mae un aelod yn cynrychioli pob un etholaeth. Ar gyfer Etholiadau Cymru mae鈥檙 wlad hefyd yn cael ei rhannu鈥檔 bump rhanbarth ac mae pedwar person yn cynrychioli pob un rhanbarth sy鈥檔 golygu bod 20 aelod ychwanegol. Mae hyn yn gwneud cyfanswm o 60 o Aelodau o鈥檙 Senedd.

Newidiadau i鈥檙 system bleidleisio

Ym mis Mai 2024 pleidleisiodd Aelodau o鈥檙 Senedd o blaid cynyddu nifer yr aelodau a chyflwyno system bleidleisio newydd ar gyfer yr etholiad nesaf yn 2026.

O dan y system newydd bydd:

  • etholiadau鈥檙 Senedd yn cael eu cynnal bob pedair blynedd, yn hytrach na bob pum mlynedd
  • 96 o Aelodau o鈥檙 Senedd, cynnydd o 36
  • 16 o etholaethau mwy yn lle鈥檙 40 sydd ar hyn o bryd
  • pob etholaeth yn cael ei chynrychioli gan chwech o aelodau
  • ymgeiswyr yn cael eu hethol ar sail cyfran y pleidleisiau mae pob plaid yn ei derbyn yn yr etholaeth, yn hytrach na鈥檙 system 鈥榗yntaf i鈥檙 felin鈥 bresennol
Image caption,
Y system bleidleisio ar gyfer Etholiadau Cymru ar hyn o bryd

Llywodraeth Cymru

Llywodraeth Cymru yw llywodraeth ddatganoledig Cymru. Yn debyg i lywodraeth y DU, daw aelodau llywodraeth Cymru o Senedd Cymru.

Y prif weinidog yw arweinydd y blaid fwyaf, ac mae gan y prif weinidog y p诺er i ddewis pwy fydd yn y cabinet. Fe fydd aelodau鈥檙 cabinet yn cael eu dewis o blith Aelodau o'r Senedd ac fel arfer maen nhw鈥檔 aelodau o鈥檙 blaid fwyaf neu o鈥檙 glymblaid.

Llinell / Line

Gwleidyddiaeth go iawn

Cynnwys Dinasyddiaeth ar gyfer 11-14 oed yng Nghymru

Gwleidyddiaeth go iawn

Gohebydd Ifanc y 91热爆

Cyfle i bobl ifanc 11-18 oed i rannu eu straeon a sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed.

Gohebydd Ifanc y 91热爆

Easy peasy politics

Citizenship content for 11-14 year olds in Wales

Easy peasy politics

More on Gwleidyddiaeth a democratiaeth

Find out more by working through a topic