Cyflwyniad
Democratiaeth yw un o brif egwyddorion cyfansoddiad y DU. Mae鈥檔 sicrhau bod llais pawb yn cyfri wrth i鈥檙 llywodraeth wneud penderfyniad.
Democratiaeth uniongyrchol
Mae'r gair Saesneg am ddemocratiaeth, democracy, yn dod o'r gair Groegaidd, demos (pobl) a kratos (p诺er/rheoli) sy鈥檔 golygu bod p诺er yn nwylo鈥檙 bobl. Erbyn tua'r bumed ganrif cyn Crist, sefydlodd dinas Athen (Groeg) system lywodraethol arbennig newydd.
O leiaf unwaith y mis, byddai holl ddinasyddion Athen yn cael cwrdd mewn cynulliad i drafod sut dylai鈥檙 ddinas ymateb i broblemau鈥檙 dydd. Roedd hawl gan unrhyw ddinesydd a oedd yn gymwys i bleidleisio i fynegi ei farn ar faterion pwysig cyn bod pleidlais yn cael ei chynnal i benderfynu beth ddylid ei wneud.
Dyma oedd y tro cyntaf i ddinasyddion cyffredin gael y cyfle i fod yn rhan o鈥檙 broses o benderfynu sut dylai鈥檙 wlad gael ei rhedeg. Roedd yr holl ddinasyddion yn cyfrannu at ddemocratiaeth Athen yn uniongyrchol.
Democratiaeth gynrychiadol
Heddiw, mae tua 67 miliwn o bobl yn byw yn y Deyrnas Unedig (DU). Byddai鈥檔 amhosib cynnal fforwm fel oedd gan Athen i 67 miliwn o bobl i drafod bob mis, felly democratiaeth gynrychioladol sydd yn y DU. Ystyr hyn yw bod dinasyddion yn dewis person i siarad ar eu rhan mewn fforwm.
Mae dinasyddion yn dewis cynrychiolydd mewn etholiad ac yna mae鈥檙 cynrychiolydd etholedig yn trafod ac yn pleidleisio ar faterion ar ran y dinasyddion. Mae鈥檔 bwysig felly bod y cynrychiolwyr yma鈥檔 gwrando ar deimladau eu hetholwyr 鈥 y bobl sydd wedi pleidleisio drostyn nhw.
I鈥檙 rhan fwyaf o ddinasyddion, pleidleisio mewn etholiad yw eu prif weithred wleidyddol, os nad yr unig weithred wleidyddol. Hynny yw, yr unig ffordd maen nhw鈥檔 cyfranogi i wleidyddiaeth.
Mae nifer o gyfleoedd gan bobl Cymru i bleidleisio:
- yn etholiadau Senedd Cymru
- yn etholiadau Senedd y DU
- yn etholiadau lleol (ar gyfer dy Gyngor Sir)
- yn etholiadau Comisiynydd Heddlu a Throsedd
Senedd y Deyrnas Unedig
Mae dinasyddion y DU yn ethol cynrychiolwyr i siarad drostyn nhw yn Senedd y DU yn San Steffan, Llundain mewn etholiad cyffredinol. Mae鈥檔 rhaid i hyn ddigwydd o leiaf unwaith pob pum mlynedd.
Y Senedd yn San Steffan yw canolbwynt p诺er yn y DU, ac Aelodau Seneddol yn hytrach na'r llywodraeth sydd gan y gair olaf ym mhob penderfyniad. Mae 650 o Aelodau Seneddol yn cael eu hethol i gynrychioli eu hetholaethau.
Mae 32 o etholaethau yng Nghymru ar gyfer etholiadau San Steffan.
Mae ffiniau etholaethau yn cael eu pennu gan y Comisiwn Ffiniau i Gymru. Cafodd ffiniau eu newid yn 2023 gyda鈥檙 nod o greu etholaethau gyda nifer tebyg o etholwyr. Heblaw am Ynys M么n, pan gafodd y newidiadau eu gwneud roedd gan bob etholaeth etholiad cyffredinol yng Nghymru rhwng 69,724 a 77,062 o etholwyr yr un.
Fel corff, mae Senedd y DU yn gyfrifol am:
- faterion tramor
- y lluoedd arfog
- yr heddlu a chyfiawnder
- y rhan fwyaf o drethi
- y rhan fwyaf o fudd-daliadau
Senedd Cymru
Mae pobl Cymru yn ethol cynrychiolwyr i siarad drostyn nhw yn Senedd Cymru ym Mae Caerdydd.
Y system bleidleisio ar hyn o bryd
Cynhelir Etholiadau Senedd Cymru bob pum mlynedd. Ar hyn o bryd mae 60 Aelod o'r Senedd i gyd. Mae 40 ohonyn nhw'n cael eu hethol i gynrychioli etholaethau, hynny yw ardaloedd gyda tua 56,000 o etholwyr. Mae'r 20 arall yn cael eu hethol i gynrychioli rhanbarthau mwy o faint. Mae pum rhanbarth yng Nghymru felly mae gan bob rhanbarth bedwar Aelod o'r Senedd.
Newidiadau i鈥檙 system bleidleisio
Ym mis Mai 2024 pleidleisiodd Aelodau o鈥檙 Senedd o blaid cynyddu nifer yr aelodau a chyflwyno system bleidleisio newydd ar gyfer yr etholiad nesaf yn 2026.
O dan y system newydd bydd:
- etholiadau鈥檙 Senedd yn cael eu cynnal pob pedair blynedd, yn hytrach na bob pum mlynedd
- 96 o Aelodau o鈥檙 Senedd, cynnydd o 36
- 16 o etholaethau mwy yn lle鈥檙 40 sydd ar hyn o bryd
- pob etholaeth yn cael ei chynrychioli gan chwech o aelodau
- ymgeiswyr yn cael eu hethol ar sail cyfran y pleidleisiau mae pob plaid yn ei derbyn yn yr etholaeth, yn hytrach na鈥檙 system 鈥榗yntaf i鈥檙 felin鈥 bresennol
Cyfrifoldeb yr Aelodau o鈥檙 Senedd fydd i drafod ac i bleidleisio dros faterion sy鈥檔 cael eu rheoli gan Senedd Cymru, megis:
- addysg
- iechyd
- yr amgylchedd
- trafnidiaeth
- y Gymraeg
Democratiaeth y Deyrnas Unedig
Mae system y DU yn ddemocrataidd gan fod ein cynrychiolwyr yn atebol i ni fel dinasyddion. Os nad ydyn ni鈥檔 cytuno gyda鈥檙 deddfau sy鈥檔 cael eu pasio, mae鈥檙 p诺er gennym i ethol cynrychiolwyr gwahanol pan ddaw鈥檙 etholiadau nesaf.
Dyletswydd pob Aelod o鈥檙 Senedd neu Aelod Seneddol felly yw gwasanaethu ac i gynrychioli eu hetholaeth, nid i bleidleisio yn 么l eu barn bersonol yn unig.
Gwleidyddiaeth go iawn
Cynnwys Dinasyddiaeth ar gyfer 11-14 oed yng Nghymru
Gohebydd Ifanc y 91热爆
Cyfle i bobl ifanc 11-18 oed i rannu eu straeon a sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed.
Easy peasy politics
Citizenship content for 11-14 year olds in Wales
More on Gwleidyddiaeth a democratiaeth
Find out more by working through a topic
- count3 of 6
- count4 of 6
- count5 of 6
- count6 of 6