Rhaglen 3 - Dr William Price
Arloeswr neu heretig gwallgof?
.
Er mai cefndir confensiynol oedd ganddo ar yr wyneb, cymeriad lliwgar gyda syniadau pendant am batrwm byw oedd Dr William Price.
Bu'n feddyg llwyddiannus a chael enw da am ofal cleifion. Eisoes yn llysieuwr, roedd yn dadlau'n gryf mai r么l meddyg da oedd canfod achosion gwaeledd yn hytrach na thrin y symptomau - adlais o'r feddygaeth holistig a welir mewn therapiau amgen heddiw.
I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.
Yn ogystal 芒 bod yn ddoctor, hawliai William Price ei fod wedi etifeddu teitl archdderwydd a bu'n arddel y teitl trwy gydol ei oes. Roedd hefyd son amdano'n lleol yn crwydro'n noeth ar hyd y llechweddau yn ystod dyddiau ei ieuenctid.
Ac os bu iddo ymddwyn yn anghyffredin, gwisgai'n wahanol hefyd. Roedd ei wallt yn blethi hir o dan het o groen llwynog a gwisgai diwnig wen dros drowsus gwyrdd a gwasgod goch.
Serch hynny, roedd ochr ddifrifol iddo a chredai'n gryf yn achos y dyn cyffredin.
Fel un o arweinyddion mudiad y Siartwyr bu'n rhaid iddo ffoi i Baris am gyfnod er mwyn dianc rhag yr awdurdodau.
Cysylltir ef yn bennaf 芒 Deddf Amlosgi 1902 a phan fu farw ym 1893 llosgwyd ei gorff ar fryn uwchlaw Llantrisant o flaen torf o tua ugain mil.
Yn 1982 fe godwyd cerflun ohono gan y cerflunnydd Peter Nicholas yn y Bull Ring, Llantrisant.
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00 Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.