Rhaglen 6 - Penyberth a'r T芒n yn Ll欧n
Bu'r ymgyrch a'r llosgi o'r Ysgol Fomio yn Ll欧n yn 1936 yn un o achosion mwyaf cofiadwy yr ugeinfed ganrif yng Nghymru.
I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.
Daeth y llosgi fel uchafbwynt cyfnod o ymgyrchu dwys, wedi ei arwain gan Blaid Cymru a denodd yr ymgyrch fwy o gefnogaeth nag a gawsai'r Blaid o'r blaen yn ei hoedl fer (ers 1925).
Testun yr ymgyrch oedd cynllun gan y llywodraeth i greu canolfan i'r Llu Awyr yn Ll欧n lle gellid ymarfer bomio o'r awyr ar dargedau yn y m么r.
Dadleuai gwrthwynebwyr y cynllun bod Ll欧n yn un o gadarnleoedd yr iaith a'r diwylliant Cymraeg, a bod hen ffermdy Penyberth, yn ganolfan nodded y beirdd ac yn arosfa ar lwybr y pererinion i Ynys Enlli. Roedd dadl foesol, hefyd, yn erbyn yr egwyddor o fomio fel dull milwrol.
Sefydlwyd is-bwyllgor cyfrinachol yn Ionawr 1936 i drefnu'r dinistr, ond Saunders Lewis ei hunan a wnaeth y trefniadau ymarferol, rhag i Blaid Cymru fel corff gael ei chyhuddo o gynllwyn.
Ar Medi'r 7fed, cyfarfu Saunders Lewis, Lewis Valentine a D.J. Willliams yng ngwesty'r "Victoria" ym Mhorthaethwy i drafod y trefniadau terfynol. Yn ei gar, roedd gan Saunders 10 galwyn o betrol a 3 chwistrell efydd. Lluniodd y tri ohonynt lythyr i'r Prif Gwnstabl yn addef eu gweithred, ac yna aethant draw i L欧n, gan adael copi o'u llythyr a lythyr o esboniad yn swyddfa'r Blaid yng Nghaernarfon.
Wedi cyflawni'r weithred, gyrrodd Saunders y tri ohonyn nhw i orsaf hedddlu Pwllheli, a dyna lle yr oedden i aros dros nos. Cynhaliwyd y prawf yn yr Old Bailey, a plediodd y tri yn ddieuog yn y prawf ar Ionawr 19. Wedi clywed yr achos, fe'u anfonwyd i garchar am naw mis, ac yn Wormwood Scrubs y buasant tan Awst 27, 1937.
Wedi eu rhyddhau, cawsant groeso arwrol mewn cyfarfod enfawr ym Mhafiliwn Caernarfon ar Fedi 11, gyda thyrfa o 12,000 yn y Pafiliwn a 7,000 yn sefyll y tu allan.
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00 Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.