I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.
Mudiad protest oedd 'Beca a frigodd am y tro cyntaf yn Efailwen, Sir Benfro, yn 1839.
Protest ydoedd yn erbyn y cynnydd mewn tollbyrth a lefel y tollau ar ffyrdd y fro, ffrwyth y cribddeilio cynyddol gan y cwmniau tyrpeg a oedd yn gyfrifol am gasglu'r tollau a chynnal y tollbyrth.
Bu'r brotest gyntaf un ar noson y Llungwyn (13 Mai) 1839 a bu cyrchoedd pellach ar 6 Mehefin ac 17 Gorffennaf, gan falurio giat Efailwen y tri thro.
Cafwyd defod o orymdeithio liw nos, a'r protestwyr mewn gwisgoedd marched a'u wynebau wedi eu pardduo, cyn chwalu'r giat.
Bu'r protestiadau cyntaf yn llwyddiant, oblegid yn niwedd Gorffennaf cyfarfu ymddiriedolwyr Cwmni Tyrpeg Hendy-gwyn ar D芒f a phenderfynu peidio ail-godi giat Efailwen.
Arweinydd y fintai a fu ar waith yn Efailwen oedd Thomas Rees, tyddynwr, labrwr a phaffiwr gornest o gryn fri. Gelwid ef yn "Twm Carnabwth". Gwr 33 oed oedd Twm: bu fyw yn 70 oed, ond ni fu'n arwain na'n cymeryd rhan yn un o derfysgoedd 'Beca wedyn.
Plant Ysgol Beca, Efailwen
Catrin Stevens, Rhys Mwyn a Bob Morris yn Efailwen
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00 Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.