芦
禄
Lindysen liwgar tro'r tymor
Siobin gwelw
Calliteara pudibunda
Pale Tussock
Y lindys neu larfa (llun uchod) : 44mm yn ei lawn dwf. Mae y larfa'n deor tua diwedd Mehefin ac yn tyfu'n raddol tan fis Hydref. Tros y cyfnod hwn, bydd yn bwydo ar amrywiaeth helaeth o goediach collddail megis y Ddraenen wen, y Ddraenen ddu, Afalau surion, Derw, Cyll, ac yn y blaen. Yna, mae'n ffurfio cocwn yn yr hen ddeiliach crin o amgylch y planhigion y bu'n bwydo arnynt.
Fe geir rywfaint o amrywiaeth lliw yn y lindysod, rhai yn dywyllach na'r un yn y llun hwn a'u blewiach yn fwy oren, neu hyd yn oed yn frown, ond mae y pigyn hir o flewniach cochion ar ben 么l y lindysod yn nodwedd o'r rhywogaeth hwn. Mae yna bedwar brwsh trwchus o flew ar gefn y lindys hefyd, yn ogystal a nifer mawr o gydynau llai o flew hir a phigog ar hyd ochrau'r lindys.
Gall y blewiach hyn achosi annifyrwch croen i rai pobl, gyda llaw, a felly mae'n well peidio gafael yn y lindys. Mae y blew yn amddiffyn y lindys rhag y rhan fwyaf o elynion posib - ond nid rhag pob un. Yn 么l pob s么n, mae y G么g yn gallu gafael yn y lindys a'i falu trwy ei daro yn erbyn carreg neu frigyn a'i flingo wedyn trwy ei ysgwyd yn galed.
Roedd y lindys hwn yn gyffredin iawn ar gaeau hopys cyn i'r defnydd o bla-laddwyr ddod yn gyffredin, a'r enw saesneg arno bryd hynny oedd 'Hop-dog'.
Y gwyfyn aeddfed (yr oedolyn h.y.): Gwrw : 42mm/Banw 60m (gan fesur ar draws o flaen blaen-adain i flaen blaen-adain). Un nodwedd o'r rhywogaeth hwn yw'r modd y mae'r oedolion, o'r ddau ryw' yn gorffwys a'u coesau blaen yn ymestyn allan o'u blaenau. Maent yn hedfan yn y nos yn unig. Nid yw'r oedolion yn bwydo.
Mae'r Siobyn gwelw yn gyffredin trwy Gymru, y Burren yn yr Iwerddon, ac yn Lloegr cyn belled i'r gogledd a Cumbria. Nid yw yn bresenol yn yr Alban, ac mae'n brin ar Ynys Manaw. Fe'i ceir yma ac acw drwy Ewrop a rhannau o Asia cyn belled a Siapan.
Cynefin : gerddi, gwrychoedd, parciau, coedwigoedd, tir diffaith, a llwynni ar lawr gwlad; ond fe'u gwelir ar lannau nentydd ar dir uwch weithiau hefyd.
Mae yr oedolion yn hedfan yn ystod misoedd Mai a Mehefin
.
Mae teulu'r Siobynnau yn cynnwys tua 2,700 o rywogaethau drwy'r byd. O'r rhain, mae un rhywogaeth ar ddeg wedi eu cofnodi yng ngwledydd Prydain, ac mae dau o'r rhain eisioes wedi mynd i ddifancoll. Daw yr enw saesneg 'tussock' o'r cydynnau blew ar gefnau y lindys (fel uchod).
Mae yna lun o oedolyn Siobyn gwelw yn Oriel Gwyfynod y wefan hon - ewch i 'Gwyfynod Mai-Hydref', llun 6.
Bangor a thraeth Porth Swtan