Cyn-blisman yw Kelvin, ac adarydd heb ei ail. Un o'r adarwyr prysuraf yng Nghymru, a deud y gwir. Mae o yn fodrwywr trwyddiedig, sydd wedi modrwyo pob math o adar, o Ben bawd (Goldcrest) i Greyrod bach (Little egret). Ond does yna'r un aderyn yn dod a'r olwg bell, freuddwydiol 'na i lygaid Kelvin yn fwy nac Alarch y Gogledd (Whooper swan). Mae o wedi bod yn astudio a gwarchod yr haid fechan o Elyrch y Gogledd sy'n gaeafu ar Forfa Llanfrothen ers blynyddoedd. A Kelvin hefyd sydd wedi ysbrydoli a gyrru aml i prosiect ac ymgyrch adaryddol yng Ngogledd Cymru. Y fo lywiodd y chwilio am nyth gweil y Pysgod yn nyffryn Afon Glaslyn ar ddechrau'r ganrif hon, a fo, anad neb, ffurfiodd yr ymgyrch gyntaf un i warchod y nyth pan ddarganfuwyd o. Mae Kelvin yn flaenllaw iawn gyda nifer o ymgyrchoedd a mudiadau adaryddol eraill hefyd. Egni a brwdfrydedd Kelvin sydd yn rhoi bywyd a nerth i Grwp Astudio Adar Ysglyfaethus Gwynedd, ac mae o yn un o brif symudwyr lleol prosiect Atlas 2007-11, sef y cyfrifiad manylaf ers tro byd o adar gwledydd Prydain.
Mae gwybodaeth fanwl Kelvin o wahanol rywogaethau o adar yn rhyfeddol, o led adain flaen Siff-saff i drwch plisgyn wy Bran goesgoch. Mae'n syndod, a deud y gwir, nac ydi'r hogyn wedi dechrau magu plu ei hun erbyn hyn !
Diweddaraf
Dolenni
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00 Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.
Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.