91热爆

Titwod Glas 91热爆 Bangor

23 Ebrill 2009

Mae Titwod Glas wedi bod yn defnyddio'r blwch nythu ar un o waliau adeilad y 91热爆 ym Mangor am bum mlynedd erbyn hyn.

Cafwyd nythiad llwyddiannus o saith cyw yn y flwyddyn gyntaf ac wyth yn yr ail. Yna, yn y drydedd flwyddyn, trychineb; gyda wyth cyw iach yn y nyth, newidiodd y tywydd yn arw, ac oeri. Canlyniad hyn oedd prinder bwyd, a collwyd saith o'r wyth cyw. llynedd, foddbynnag, cafwyd blwyddyn lwyddiannus eto, a gadawodd wyth cyw iach y nyth.

Ac yn 2009, eto, dyna drychineb arall. Roedd y tymor wedi dechrau yn dda, os ryw wythnos yn hwyrach na'r arfer. Cafwyd wyth wy eto, a'r cyfan yn deor yn brydlon. Am ychydig, roedd petha'n edrych yn obeithiol; nythiad o gywion bychain barus, a'r rhienni yn eu bwydo ffwl-pelt. A wedyn, dyma'r tywydd yn troi, tua chanol Mai, Ymhen dim, roedd y teulu bychan i lawr i bedwar cyw, a'r oedolion yn dod a bwyd i'r nyth yn llai aml. Erbyn dechrau wythnos olaf Mai, dim ond dau gyw oedd ar ol.

Eto, roedd y rhain yn edrych yn gywion iach a chryf, Yn wir, roedd un ohonnynt yn edrych fel pe bai o bron iawn yn barod i adael y nyth. Yna, fore Iau 28ain o Fai, roedd y ddau yn sypia bychain llonnydd yn y nyth.

Beth ddigwyddodd ? Wel, prinder bwyd, yn ddios, oedd yn gyfrifol am dranc chwech o'r cywion. A'r pwl tywydd gwlyb a chymharol oer oedd yn gyfrifol am y prinder bwyd. A'i dyna laddodd y ddau arall hefyd ? Mwy na thebyg, ie. Er bod pob math o heintiau a chlwyon yn gallu taro poblogaethau pluog hefyd.

Ond, mae hynna i gyd yn hen hanes erbyn hyn, mae hi yn wanwyn eto, a sbel o dywydd braf, heulog, wedi ysgogi iar titw glas i adeiladu nyth newydd arall. A'i iar llynedd yw hon, neu un o epil nythod 2008 efallai ? Does wybod, a'r cwbwl allwn ni ei wneud yw gobeithio y bydd gwell newyddion o'r blwch yn 2010.

Mae y llun uchod yn adnewyddu ei hun pob ryw bum munud, gyda llaw

91热爆 iD

Llywio drwy鈥檙 91热爆

91热爆 漏 2014 Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.