91热爆

Maes Parcio'r warchodfa

Dolydd Hafren

Canol Mai, roeddem ni yn darlledu yn fyw o warchodfa Dolydd Hafren, rhwng Y Trallwng a'r Drenewydd.

Rheolir y warchodfa gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Terefaldwyn, ac mae'n un o hoff warchodfeydd Iolo Williams.

Gwarchodfa gweddol fychan yw hon, ar lannau yr Hafren. Yn wahanol i'r rhan fwyaf o warchodfeydd natur Cymru, mae hon wedi ei hynysu gan diroedd 芒r ac mae hynny yn ffactor bwysig yn natur y warchodfa ac yn y modd y mae'n cael ei rheoli. Mae nifer o gaeau o'i hamgylch yn cael eu defnyddio i dyfu cnydau ar gyfer bywyd gwyllt y warchodfa, a clywsom Hywel Roberts a Duncan Brown yn disgrifio fel y mae hon yn warchodfa sydd yn cael ei 'garddio' yn hytrach na'i rheoli - yn hyn o beth, mae'n debycach i warchodfeydd canolbarth Lloegr nac i rai Cymru.

Tynnwyd y llun uchod o'r maes parcio, yn edrych yn 貌l i fyny'r l貌n fach arw sydd yn arwain i lawr o ffordd Caerhywel. Er fod angen gofal mawr i osgoi'r tyllau dyfnion ar y l貌n hon, mae'n werth mentro, gan fod hon yn warchodfa fach fendigedig.

Mae llwybr y warchodfa yn cychwyn ger yr arwydd sydd ar ochr chwith y llun uchod.

91热爆 iD

Llywio drwy鈥檙 91热爆

91热爆 漏 2014 Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.