Main content

Cerddi Rownd 2

1 Trydargerdd (heb fod dros 280 o nodau cyfrifiadurol): Epigram Dychanol

Manion o’r Mynydd

Ysgolhaig yw’r sawl, medd rhai,
糯yr fwy a mwy am lai a llai

Tudur Puw 9

Ffoaduriaid

Ystyriwch hyn, myfi a Chynan;
beirdd o L欧n sy'n licio’u cacan.
Caiff ysgolheigion hwyl yn dadla
p’run o’r ddau fardd mawr di'r mwya.

Gruffudd Owen 9

Cynigion ychwanegol

Rhaid wrth reol rhag yr heintio,
Rhaid i chwithau gydymffurfio,
Rhaid i mi gael anghydffurfio.
.

Os cewch yn noeth goed y berllan
Ewch i’r cae i nôl cabajan

2 Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘tanc’

Manion o’r Mynydd

Gor refio mae’r g诺r ifanc
A’r tad hael sy’n llenwi’r tanc

Alwyn Evans 9

Ffoaduriaid

O dynnu'r dyn o ru'i danc
dyw ef ond gofid ifanc.

Gethin Wynn Davies 9

Cynigion ychwanegol

Ffawd sydd gynddrwg â phyde
Yw tanc y pirhana tew

Pladur didostur o danc
Yn difa’r blodau ifanc.

Er afiaith y g诺r ifanc
Daw dydd y bydd wag ei danc

Danc wrth danc daw byd o hedd
O’u rhydu dianrhydedd.

Mae lluniau o danciau'n dod
yn difrodi'n difrawdod.

(I Emyr Oernantiaid Wcráin)
“Dy danc sy'n lot rhy dinci
i roi her i nhractor i.”

3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Nid ydwyf yn cymeradwyo neu ‘Yr ydwyf yn cymeradwyo’

Manion o’r Mynydd

Mae’r limrig isod yn hollol wir – wir yr gris groes!!
Nid ydwyf yn cymeradwyo
Archebu eich Beibl trwy G诺glo,
’Roedd Ifan Hen Blas
Am gyfrol ‘Print Bras’,
Ond lluniau reit las ddaeth i’w sgrîn o.

Tudur Puw 8.5

Ffoaduriaid

Yr ydwyf yn cymeradwyo
yn ‘whoopio’, yn rhegi a’n tancio
a dadlau da’r Meuryn
bob nos Sul ers dros flwyddyn
ac mae’n gwmws fel tasen i yno.

Gwennan Evans 8

Cynigion ychwanegol

Nid ydwyf yn cymeradwyo
Gormodeddd o gaws cyn noswylio
Yn syth ar ôl pryd
O’r madarch bach hud,
Neu rhyfedd eich byd wrth freuddwydio.

Nid ydwyf yn cymeradwyo
Y weithred ddanjerus o sgio
Â’ch llygaid ar gau
‘Rôl gwydryn neu ddau
Mae dulliau amgenach o joio.
Nid ydwyf yn cymeradwyo
y sawl fynn labsochian ‘fo hipo.
Ond os da chi’n mynnu
yna ga i awgrymu
bo chi’n ffonio’r ysbyty cyn neud-o?

Nid ydwyf yn cymeradwyo
yr hyn nes i neithiwr yn Tesco
pan nad oedd neb ond fi
yn eil y bwyd ci;
a’r CCTV yn fy ngwylio.

4. Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Gweddnewidiad

Manion o’r Mynydd

Y mae’r Arolwg Ordnans yn 2021 wedi cyhoeddi fersiwn newydd o’u mapiau a fydd yn cael ei ddefnyddio yn eu app ac arlein, gan eu gweddnewid. Mae’r gwallau a’r camsillafu sydd ynddynt yn gywilyddus ac yn dangos iddynt gael eu llunio gan rywrai heb ddealltwriaeth o fath yn y byd o Gymry na’r Gymraeg. Mae enwau wedi cael eu hepgora’u newid hefyd heb ymgynghori â phreswylwyr. Rhai yn unig o’r gwallau ym milltir sgwâr y Manion a grybwyllir yma. Nid yw’r AO am ymddiheuro hyd yn hyn ...

Wele app, ac ail-fapio
Holl lannau a bryniau’n bro,
Yng ngofal criw anghyfiaith
Enw’n t欧 a llwybrau’n taith
A geir yn llithro o’n g诺ydd
Yn nieithrwch unieithrwydd,
Moel Hebog, Herog yw hi
Ac ar goll Greigiau’r Gelli,
Didolwyd o fodolaeth
Holl fferm y Cwm, y Cwm Caeth.
Ie, gwlad ddileadwy
Ar y map yw Cymru mwy.

Nia Powell 10

Ffoaduriaid

Ni ein dau, dim ond dau dad
ifanc yn rhannu’u profiad
yn ddi-hid; mi gafodd un
foli ei fab penfelyn,
un â geiriau’n blaguro’n
ferw hardd fel blodau’r fro.

Tawel yw’r mab penfelyn
dwi’n ei weld er fod o’n h欧n.
Ei olygon di-flagur
a di-iaith fel gaeaf dur
sydd yn dweud, heb ddweud, wrth ddau
nad yw iaith yn dod weithiau.

Gruffudd Owen 10

Cynigion ychwanegol

(Llun o barc chwarae ar sgwâr yn Wcráin)

Mae un llun, ac mae’n llenwi
afon ein newyddion ni:
g诺r dienw, sgwâr dinod,
rhyw relyw yn byw a bod,
ac mae bachgen, am ennyd

ar siglen, ar ben y byd
tan haul, fel petai hi’n haf
ar ei echel hir uchaf.

Yno caiff fod fel hynny:
eto tua’r ddaear ddu
ni ddaw, ac mae’r gadwyn ddur
wedi’i rhewi’n yr awyr

5 Triban beddargraff arweinydd côr

Manion o’r Mynydd

I gofio Sioned James, cyn-arweinydd Côr Dydd

Er diffodd tân dy egni
A dagrau cân yn ddefni,
Y mae dy alaw’n cario’r Dydd,
Ehedydd, heb ddistewi.

Nia Powell 8.5

Ffoaduriaid

Ysywaeth aeth i hwylia'
ar ddiwedd y gymanfa;
wrth daflu'i freichia tua'r nen
aeth hi'n Amen ar fynta.

Gruffudd Owen 9

Cynigion ychwanegol

Cymhellai'i faton arian
ddiminiwendo'r gytgan,
ac wedi nodyn ola'r dôn,
yn fodlon aeth gefn llwyfan.

Am fwlio ni’r rhes gefen
a gwneud i’r baswyr lefen
fe ganwn heddiw yn un côr;
Dduw Iôr, diolch i’r drefen.

Fe ddwedodd mewn ymarfer
y dylwn i bob amser
ganu’n dawel. Ger ei bedd
caiff hedd fy mhî-p tyner.


6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Logisteg

Manion o’r Mynydd

Rhaid cychwyn cyn y Dolig i lunio’r rhaglen waith
O dasgau dirifedi, ’toes dim osgoi y ffaith
Bod Wythnos yn y Steddfod yn brawf ar allu dyn
I gofio mynd a phopeth ond sinc y t欧 ei hun
Mewn Carafan fawr chwaethus, sy’n aros yn y cwt
Am sylw bob penwythnos i’w chael yn berffaith dwt.
Rhaid trefnu’r polion Adlen a’u rhifo oll ’mlaen llaw,
(Siwr braidd bydd rhaid ei chodi ynghanol gwynt a glaw),
Ac yna golchi’r gasgen, yr un sy’n cario’r d诺r,
Ac yna’i golchi eto dim ond i wneud yn siwr.
Yn fuan bydd hi’n amser i rythu ar y map,
(Prin bod fy ffôn yn ffonio heb son am lwytho ap),
Rhaid marcio efo pensel lle mae’r troiadau hyll
Rhag ofn cyfarfod Mansel yn dyrnu trwy y gwyll,
Mae ardal Dinas Mawddwy bob tro yn No Go Zone
Nid rhag y Gwylliaid Cochion, ond gogwyddd serth y lôn -
Un tro, mi gamgysylltais y Garafan heb hid,
A hithau yn ein pasio i lawr y ffordd full speed,
Ac mae ‘na un peth arall er mwyn osgoi yr hitch
A’m lloriodd draw yng Nghonwy – rhaid cofio bwcio’r pitch!

Alwyn Evans 8.5

Ffoaduriaid

Mae themâu o’r gorffennol ym mhob un o’m hunllefau;
gwersi ffidil, gwersi gyrru a’r holl arholiadau.
Ac rwy’n gwybod fel ffaith, pan fydda i’n gant
fe fydd fy hunllefau am bartïon fy mhlant.

Rwy’n gosod y seilie bob blwyddyn, dim whare
tri deg o blant bach mewn un neuadd bentre.
Rhaid gwirio yr enwau wrth wahodd pob plentyn;
tair Cerian, un Ceri-Ann, tri Emlyn, a Cemlyn.

Dim glwten, dim cnau, na gormod o wyau,
dim byd all greu gormod o giw i’r toiledau.
Rhaid dechrau rôl dau (i blant y clwb nofio)
a gorffen cyn tri (i’r criw sy’n gwneud jiwdo).

Rwy’n creu bagiau parti sy’n hwyliog a lliwgar,
yn niwtral eu rhywedd ac yn eco gyfeillgar.
Cyfieithu pob dogfen, asesu pob risg,
darparu i’r sawl sy’n pi-pi yn eu gwisg.

Rwy’n siwr ‘byddai trefnu ein Prifwyl yn haws,
neu droi d诺r yn win, neu’r lleuad yn gaws.
Ac os am danwydd hunllefau, cewch ddigon yn rhwydd
wrth drefnu logisteg un parti pen-blwydd!

Gwennan Evans 9

7 Ateb llinell ar y pryd : ‘Ar y fainc yr wyf o hyd’

Manion o’r Mynydd

(Boris y Fainc Flaen)
Er celwydd, mewn dedwyddyd
Ar y fainc yr wyf o hyd

Nia Powell 0.5

Ffoaduriaid

Ar y fainc yr wyf o hyd
yn darllen ffilth tractorllyd.

Gethin Wynn Davies 0.5

8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Atal

Manion o’r Mynydd

Dyflwydd o chwilfrydedd,
yn prancio trwy f’egni yn egin ei wanwyn,

Dyflwydd o ddiniweidrwydd,
yn didol gorchmynion a herio terfynau
fy nghorlan o eiriau,

Dyflwydd o hyder,
yn llusgo’i fwced i harmoni brefu
tra’n gweu ei ffordd
rhwng sgerbydau rheseli rhydlyd a chrafangau hen fforch
dan gyfeiliant stacato ei dad
‘STOP’ ... ‘Ara deg’ ... ‘Tyrd ’nôl’
‘Mae ‘na deigrod yn y cysgodion ...’

Dyflwydd o ddychymyg diwrando,
Ond, dyflwydd ydio’

Yna, wrth gamu i’r sied,
Caf innau ’nghorlannu dan warchae ei eiriau o’,
‘Dad’ ... ‘STOP’
‘Mae ‘na deigar yn fanna’.

Gwilym Rhys Jones 9.5

Ffoaduriaid

Un garreg mewn cwpan gwag,
a minnau am ei phlannu’n ddwfn yn fy stumog
yng nghysgod ein noson chwarae plant,
ble bu ein croen yn un haen gwyrdd
o ffrwyth sy’n araf aeddfedu.

Gollyngaist ti dy gyfrifoldeb yn y bore,
ar y pafin dan fy sodlau.
“Nai aros yn y car, ia?”
Dwi’n teimlo fy nghroen yn melynu.
Ai dyma sut mae ffrwyth yn pydru?

Side effects may include
Poen bol, cur pen,
euogrwydd am un dyfodol ar ben,
euogrwydd am deimlo dim byd.
Ond ti’n wyrdd o hyd, yn y car.

Mae hi’n gadael, i roi llonydd i mi,
fel tasai hyn yn ddefod sanctaidd neu’n drasedi,
a minnau’n aeddfedu bob tamaid wrth lyncu.

Llio Maddocks 9.5

9 Englyn: Anghenfil

Manion o’r Mynydd

I bawb, mae ei wyneb o – a’i wenau
Mor dyner â’i ddwylo.
Hithau 诺yr nad oes gwyro
Rhag ei law â’r drws ar glo.

Cynon Gwilym 10

Ffoaduriaid

Hawdd yw dy ymgeleddu di heno,
ond daw ’na nos fory
o hyd, a hwn â'i ofn du
yn dal o dan dy wely.

Llyr Gwyn Lewis 10

Cynigion ychwanegol

Castell Penrhyn
Mae ym mhlasty melysder – resi hir
o drysorau lawer
a chadwynau perlau pêr
yn orymdaith gorthrymder.
Os yw lliw cas y lleuad - a'i gysgod
i'th gwsg yn fygythiad
drwy'r ffenast, fe gei wastad
wneud dy wâl rhwng Mam a Dad.

CYFANSWM MARCIAU

MANION O’R MYNYDD 73.5

FFOADURIAID 74