Cerddi Rownd 1
1 Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 140 o nodau cyfrifiadurol): Pennill yn rhoi sglein gadarnhaol ar un o benawdau’r newyddion
Y C诺ps
Ydyw, mae’r hinsawdd yn bryder, - ond hei,
Cawn wneud hyn mewn amser:
Llenwi bol â gwin Llanbêr,
Eistedd ar draeth Llanbister.
Iwan Bryn James 8.5
Tegeingl
Monkeys escape after truck carrying 100 animals to a laboratory crashes in US
Mae’n d欧 saff yma’n DC;
ar y meinciau mae’r mwnci,
gwas y syrcas yn ei sedd,
sy’n rhoi synnwyr i’r senedd.
Les Barker 8
Cynigion ychwanegol
Mae rhoi elusen yn beth da,
Yn faeth i’r enaid. Wyddoch chi
Fod modd cyfnewid mewn banc bwyd,
Ei uffern o am nef i ni.
Dewch i Eton, foneddigion!
Dyma grud Prif-Weinidogion.
Dysgwch werth eich grym a'ch arian:
D诺r i'ch melin chi eich hunan.
2 Cwpled caeth yn cynnwys enw unrhyw gêm fwrdd
Y C诺ps
Os nad yw y Q yn ‘cîsh’,
Mewn Scrabble mae’n sgôr rybis
Huw Meirion Edwards 8.5
Tegeingl
Ennill mewn draffts sy’n anos,
Am wn i, na dominos.
Sara Louise Wheeler 8.5
Cynigion ychwanegol
Ni wnaf eto bwyntio bys
Diwyro mor hyderus.
Bwyta treip ni wneir bob tro’n
Hyderus a didaro.
A mi’n cafflo mewn cyfflincs,
Twdl诺 i’r Tidli-wincs,
Mae’n amen arnom heno –
Damia nhw, mae’n dominô.
Hyderus ddeallus ddyn
Yw ein harwr - y meuryn.
Ni faedda’r sawl a fyddo’n
fyrbwyll mewn gwyddbwyll a Go.
3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Awn o ‘ma, a gorau po gyntaf’ neu ‘Ewch o ‘ma, a gorau po gyntaf’
Y C诺ps
Ewch o ‘ma a gorau po gyntaf,
Drwy’r gwrych, mae Sue Grey ar fy ngwarthaf.
Ewch a’r lysh o rif deg
I ardd un ar ddeg,
A chaewch pob ceg neu fe’ch chwipiaf.
Iwan Bryn James 8.5
Tegeingl
Limrig ar ddechrau Chwefror
I be' mae pendwmpian y t欧'ma,
A Natur yn prysur wanwyna?
I’r caeau'r a’r comin
At ffrwydrad yr egin
Awn o'ma - a gorau po gynta’ !
Dafydd Morris 8
Cynigion ychwanegol
Awn o ‘ma, a gorau po gyntaf,
Mae gr诺pis y C诺ps ar ein gwarthaf.
Wel... dyna hen dro...
A finnau... mor slo…
Hei-ho... mi ddaw’r ola yn flaenaf.GSW
Ar fideo mi chwarddodd Allegra,
Gan Boris, llifeiriant o glwydda
Rhagrithiol bob tro –
A ninna dan glo.
Ewch o’ma a gora po gynta.
4. Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Aderyn Prin
Y C诺ps
Roedd ei gân yn wahanol,
Ei sioe o ddewrder yn siôl
Am eiddilwch meddalwyn
Ei wedd ddwys, mewn sedd i un.
I’w nyth dôi ddwy waith y dydd,
Yn dynnach ei adenydd,
A’i galon fel pe’n gulach
O dan wres y fynwes fach.
Ble’r âi ond i’w blu, o raid,
Fel y tyrrem, fwlturiaid
Cefn y bws; mae’r cof yn boeth –
Nid yr un yw ’nghrawc drannoeth.
Huw Meirion Edwards 9.5
Tegeingl
[Y mae pob un o’r pedwar aderyn a grybwyllir yn y pennill cyntaf ymysg y 70 o rywogaethau Prydeing sydd ar y Restr Goch am fod mewn perygl..]
Ni chlywn nodau hardd a chlir
y wennol a’r gylfinir;
yn lleihau mae lleisiau’r llu;
ein trachwant sydd yn trechu
drudwen a rhegen yr 欧d;
y rhain, a’u llefain hefyd.
Ond mae Attenb'rough'n cynnau
tân; y fflam i ganiatáu
bod ein nef yn dod yn ôl,
gwir ffenics y gorffennol;
daw gryfder un deryn doeth
rhag cân gyfan o gyfoeth.
Les Barker 8.5
5 Pennill ymson aelod o dîm achub mynydd
Y C诺ps
Dw i’n si诺r mai’n “yreifals” y dudodd y Brymi
Ei fod o’n sownd, cyn i’w ffôn o drengi.
Ond er imi chwilio, ‘snam golwg yn nunlla
O’r cradur yn êrport Dinas Dinlla.
Arwel Rocet Jones ar ran Geraint Williams 8.5
Tegeingl
Ar ôl anfon arolwg i’r tîmau
sylwais heddiw, ymysg yr holl adborth,
ar nodyn o’r tîm yn yr Wyddgrug:
Moel Famau yn gofyn am gymorth.
Les Barker 9
Cynigion ychwanegol
Mae hwn a’i fflip-fflops, ffôn a’i GPS,
Er gwaetha’i shorts, yn gynnes saff,
A’m mêt a ddaeth â’i ddewrder yn ei ddwrn,
Ar ôl, ymhell tu hwnt i raff.
Roedd 'na dîm achub mynydd yn nhref Amsterdam;
Nid oedd galw amdanynt, a nis gwn i paham...
Ni cheisia mynydd barch nac ofn,
ac ni 诺yr ddim am drwbwl;
y ni sy’n ceisio lleddfu’i gosb
di-faddau i’r di-feddwl.
6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Asesiad Risg
Y C诺ps
Fe hoffwn farddoni! Ond doethach petruso,
Gall beiro drywannnu. Gall inc eich gwenwyno;
Ac os mai compiwtar yw dewis beirdd cyfoes,
Gall hwnnw’ch trydanu, diweddu eich einios.
Mae’r Awen ei hun yn hen feistres galed,
Nad yw ots ganddi droi eich byd ben-i-waered;
Nosweithiau o droi a throsi’n y gwely
Yn chwilio am ddelwedd, yr holl fethu cysgu,
Pa le mae’r gair cymwys, a pha le mae’r odl,
Mae’r meddwl ar chwâl, ar pen yn un codl.
Dim ond poeni parhaus a hyn beunydd beunos,
Gan fynd heb newid eich trôns am dair wythnos.
Ac yna o rhywle daw’r Awen a’i chysur,
Ond eich bod chi bryd hynny yn croesi stryd brysur -
A BANG! Mae ‘na ddamwain ac mae honno’n angheuol
A dyna chi ar eich ffordd i’r TALWRN TRAGWYDDOL.
Ond mae gwaeth nac angau. Fe all Meuryn neu Feirniad
Ddinistrio’r bardd ynoch a’u geiriau dideimlad.
Ac felly, fe dybiaf, pam mynd i’r holl drwbwl,
Mae’n llawer gwell peidio barddoni o gwbwl.
Dafydd Morgan Lewis 9
Tegeingl
( I’w chanu ar dôn Bugail Aberdyfi)
Rhan o ymgyrch/ trafodaeth hir- dymor rhwng beirdd ardal Llangollen ac Aneirin Karadog, Cadeirydd Barddas, i denu’r 糯yl Gerallt nesaf i Langollen.
Mi geisiaf eto ganu’n glên,
i’ch cael chi draw i Langollên (!),
lle cawn ni uffern o 诺yl lên,
ar lannau Afon Dyfrdwy.
Paham Aneirin, o paham,
gwrthodwch chwi ein cais di-nam,
a’n risg-asesiad gam-wrth-gam,
a ninnau yn cloriannu?
Cewch weled Castell Dinas Brân,
Plas Newydd hyfryd – dyma ‘nghân,
a phlant y fro, dan dy adân,
a ddysgant am Gerdd Dafod.
So dewch chwi draw i’n harddach glyn,
i ymweled ene ar y bryn
ag ysbryd bardd* y llethrau hyn,
ein harwr I.D.Hooson.
Dwi’n gaddo sortio pob un peth,
ffurflenni Cofid, yn ddi-feth,
fydd ddim peryglon na phenbleth,
os cawn 糯yl Gerallt yma.
Sara Louise Wheeler 8.5
*Mae llwch I.D.Hooson wedi ei wasgaru ar y
panorama uwchben Llangollen ac mae ene
garreg gofeb iddo.]
7. Llinell ar y pryd
Y C诺ps
Y swydd hon yw’m hoff swydd i
'Yw haeriad Guto Harri'
Dafydd John Pritchard 0.5
Tegeingl
"Yn rhwydd, y cysgaf drwyddi - y swydd hon yw'm hoff swydd i..."
Dafydd Morris
8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Gafael
Y C诺ps
un bore llawn
barrug, mam a’i
merch yn cydio
dwylo, ill dwy, a
lliwiau sgarffiau
eu sgwrs yn rhith
yn yr awyr oer
wrth sgipio
heibio o hyd;
gan mor brydferth
yw chwerthin eu
bore o hwyl drwy’r
nodau brain, ai
hynny neu’r barrug
sy’n cipio f’anadl?
Dafydd John Pritchard 9
Tegeingl
[I’m hathrawes viola gynt.]
Bu chwarae mewn cerddorfa
Yn rhan o’m mebyd gwyn
A chodi b诺a’n barod
Yn wefr fil gwaith cyn hyn.
Yn ôl at hwyl rehearsals
O hyd, o hyd y dof,
A gwersi creu cerddoriaeth
Yn gafael yn y cof.
Hir oriau o ymarfer
A roes fy nhechneg im,
A ‘mynedd dyfal athro
Nad oedd am dderbyn dim
Ond gosod bawd a bysedd
Yn berffaith bob rhyw dro.
Diolchaf am gael dysgu –
Mae’r gafael yn fy ngho’!
Dafydd Morris 8.5
9 Englyn: Dathliad
Y C诺ps
Heibio i lawnt y jiwbilí awn i gyd
i ryw gae am barti
yn Awst; ac yno, 'wsti,
yno'n Awst y dathlwn ni.
Dafydd John Pritchard 9
Tegeingl
(Yr Urdd yn gant oed.)
Un dyn, ac un syniad, oedd – am aelwyd,
am weled, am werthoedd,
am blant a bwrlwm - a bloedd
yr ifainc i’r canrifoedd.
Dafydd Morris 9
Cynigion ychwanegol
Paid cleber am Gilmeri, - yn ufudd
Anghofia am dlodi.
Yn hael cawn squash a jeli,
A bal诺ns y Jiwbili.
Cyfaddef? ... Nid cyfeddach – yn hollol,
Ond ‘cynulliad’ hwyrach ...
Diod? Bwyd? ... ‘Digwyddiad’ bach ...
Y gwirionedd? Dwi’n groeniach.