Cerddi Rownd 1
1 Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 140 o nodau cyfrifiadurol): Pennill yn rhoi sglein gadarnhaol ar un o benawdau’r newyddion
Gwenoliaid
Caws a gwin fu ar fy min
gyfeillion pell (ac agos)
mi fum ar sgrin
nawr ar fy nhin
sori, methu aros.
Huw Chiswell 8.5
Caernarfon
(pennawd y Daily Mail am arllwys carthion i’r môr)
A’n hynys lân dan warchae,
Fe gaed rheolaeth ’nôl
I gadw’r barracuda
O barth y Dover Sole:
Yn bur tu ôl i fur o faw,
Cadwn y poisson estron draw.
Emlyn Gomer 8.5
Cynigion ychwanegol
“Genesis ar daith – ond nid yng Nghymru”
Gwaith gwag yw ceisio taflu bai,
nid oes ond un esboniad –
mai ninnau yw Ei ddethol rai,
a dyna yw’r datguddiad.
Banc ar ôl banc yn cau drws eu siop
A gadael y stryd fawr yn rhesi:
Dathlu mae undeb bwrgleriaid y wlad -
A chwmnïau sy’n gwerthu matresi...
2 Cwpled caeth yn cynnwys enw unrhyw lyfr
Gwenoliaid
Cyffro, fy meiro, a medd –
anghenion y gynghanedd.
Huw Roberts 9
Caernarfon
Pa gysur o bapur bog
anniben, dauwynebog?
Ifan Prys 9
Cynigion ychwanegol
Cewch fwynhad o'r Odliadaur,
oriau pert o bleser pur.
Mae Arthur yn anturus,
ac os daw bydd ecsodus.
Nid y ffon ond moronen,
nid dwylo praff ond dail pren.
Beibl i bawb o bobl y byd,
a Hoover ’sa’n dda hefyd.
Bu hwn, er ei awen bur
Yn dlawd heb ei odliadur.
3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mae gennym bob un ein safonau’
Gwenoliaid
Nawr plis wnewch chi ddiffodd eich ffone,
wy’n danto ar sain eich clochdone.
Siwr glywes rhyw lun
ar fy nghan i fy hun –
mae gennym bob un ein safone!
Huw Chiswell 8.5
Caernarfon
Wrth drafod lle i fynd ar ein gwyliau
cynigiodd hi, ‘Beth am Ddolgellau?
gallwn fod ’no mewn awr.’
Ond rhois fy nhroed lawr.
Mae gennym, bob un, ein safonau.
Geraint Lovgreen 8.5
Cynigion ychwanegol
Rwy’n derbyn na fydd yna faddau
Pan ddof, yn fy nhro, gerbron Angau.
Ond wfft fo i’w ffwrnais
Os bydd yn anghwrtais:
Mae gennym, bob un, ein safonau.
Ni fynnaf ei gwmni am oriau:
Mae gennym, bob un, ein safonau.
Ac er mai Ferrari
Yw car Guto Harri,
Fe gerddaf y daith yn fy sanau.
Dwi’m yn licio’r gwallt blêr ar ei gopa
Na’i agwedd at undim, yr epa,
Mae gennym bob un
Ein safonau, mae’r dyn
Yn ddi-lun ac yn mwydro am Peppa!
4. Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Ymosodiad
Gwenoliaid
I nodi Diwrnod Rhuban Gwyn / Diwrnod Rhyngwladol Diddymu Trais yn erbyn Menywod; mae bron i un o bob tair menyw wedi cael eu cam-drin yn ystod eu hoes.
Cofia - ar y dyddia’ du,
wedi oriau’n pryderu
ac aros iddo guro
â’i law ar y drws dan glo -
wên ei mam a’i dwylo mân
yn anwesu, ei chusan
a’i dawn rhannu’i gwallt mewn dau,
plethu mop o lywethau
â rhuban glân a chanu
dros dair bleth ei geneth gu.
Y cwafr mewn llais yn cyfri
un mewn tair: mae’n tewi hi.
Judith Musker Turner 9.5
Caernarfon
Draw ymhell mor llwyd yw’r môr;
eigion di-liw’n ymagor
o sgri clogwyni gwynion
y dwfr hyd orwel y don.
A’r awyr, nid asur yw,
ond llwyd: dim ond gwyll ydyw;
rowlia cymylau’r heli
yn llwyd uwch ben llwyd y lli.
Mor fân yn nhonnau’r sianel,
fis Rhagfyr, pa wylwyr wêl,
yn y d诺r, waelod oren
y bad a’r ymdrech ar ben?
Ifan Prys 9.5
5 Pennill ymson peilot
Gwenoliaid
Ad astra
g’lanastra
na ‘ffernol
dim petrol
peth mawr
co’r llawr
hwyl fa…
Huw Chiswell 8.5
Caernarfon
Dawel nos, ddwyfol nos:
Cysgu mae’r ddinas dlos.
Golau llachar fel toriad y wawr;
Cryndod hanes yn chwalu i’r llawr.
Hanner wylio o’r ne’;
Meddwl beth fydd ’na i de...
Emlyn Gomer 9
6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Gwneud fy Rhan
Gwenoliaid
Rhyw dro yn yr wythdegau a hithe’n ganol nos
mi chwifiodd heddlu’r fan i lawr a’i thynnu fewn i’r ffos;
“Helo helo, di bod am dro?” medd un wrth wenu’n braf;
(roedd rhywun wrthi eto ‘di llosgi ail d欧 haf).
“Wel sarjant, y’ chi’n f’ame i o weithred front fel hon?”
(Ro’n inne wedi cofio doti ngholer gron).
Ond toc daeth chwa o betrol o rwle yn y bac –
o damo wnes i adel clawr y tin yn llac?
Mi wibiodd lunie heibo o ‘mebyd yn y cwm,
gan lanio ar ryw ddelwedd drist o’m ffawd mewn carchar llwm;
ond wrth i’r heddlu’m dwyn o’r fan, cryfhau wnai’r cerosin,
a minne yno’n sefyll rhwng gweision glew y cwin.
“Wel diolch i chi hogyn am ufuddhau i’n cais
a thynnu fewn mor daclus i achub cam y Sais
â’i d欧 o’n ulw ar y fron ar noson oer Pen Llyn fel hon,
ond dyna’r cyfan am y tro - mi welwn ni chi eto dro”
Anghredinieth a rhyddhad,
M O M bois nerth fy nhra’d
a thros fy ysgwydd wrth y fan
daeth sibrwd “dim ond gneud fy rhan”.
Huw Chiswell 8.5
Caernarfon
Dwi’n gwylio hynt y gwynt a’r glaw drwy’r ffenest
A’r deri yn ymdaro a chwympo i lawr
Mae’r môr yn merwino’r tir, a’r gwae yn dod yn wir
A’r gwir ei hun yn gelain ar y llawr.
Mae’r haul yn hwylio’r awyr uwch fy mhen i
A’r sêr yn syrthio fesul un o’r nen,
Does na’m duw na ffydd, mond dyniadon ynfyd sydd
Yn rheoli’r byd wrth iddo ddod i ben
Ond dwi’n gwneud fy rhan, dwi di sgwennu cân.
Mae’n mynd: La-la-la-la-la, achubwch y blaned.
Mae criw Gwrthryfel Difodiant wedi’i gweld hi
Brwydro’n ddewr i drio gwrthdroi ein rhawd
Mae pobol dros y byd yn gwrthdystio ar y stryd
A rhai’n wynebu carchar, sen a gwawd.
Mae rhai’n boicotio Amazon a’u system
A’r dinistr wrth fwydo pob un chwant
Ond dwi’n licio pethe neis, ac mae o mor gyfleus,
So dwi’n gwneud y pethe bychain, fel Dewi Sant.
Ie, dwi’n gwneud fy rhan, dwi di sgwennu cân.
Mae’n mynd: La-la-la-la-la, achubwch y blaned.
Geraint Lovgreen 9
7 Ateb llinell ar y pryd - rwy'n hel fy holl arian i.
Gwenoliaid
I rith y system drethi
rwy'n hel fy holl arian i.
Judith Musker Turner 0.5
Caernarfon
Rwy’n hel fy holl arian i
i'w wario ar faneri
Ifor ap Glyn
8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Sgwrsio
Gwenoliaid
Wedi’r oedfa, yn y blwch ar y bryn,
clywch hymian gwenynaidd y festri.
Ma’ tafotieth y diwetydd yn feichiog
o arogl “ffocs ffyr”a mint imperials,
a chaleti’r wilia rhwng y welydd
cyn hyned a gwythiennau glo yr ardal.
“O’dd y gwenitog yn llicad ei le heno ‘to”
“O’dd, cofiwch beth wetws e”-----
a sain tyner tsheina yn gyfeiliant i’r sgwrs.
“Chi moyn dishgled arall?”
“ O otw i”.
Ddoe oedd hynny.
Heddi, ar y seld,ma’ un o gwpanne strae “Caersalem,”
cwpan sy’n llawn o’r cloncan coll,
parabl aelote, diaconied, tylw’th a rhieni.
Un o lestri’r festri, a ‘r llais annwyl
cyfarwydd ar ei wefus.
Gwrandawaf yng nghlust y ddishgil hon,
clywaf eto y wilia rhwng y welydd,
cwpan yn llawn cloncan, cwpan y lleisiau coll.
Hannah Roberts 9
Caernarfon
Yn dy iaith dithau y bu’n siarad ni erioed,
(hyd ’noed y seibiau llafar
a’r aeliau anghrediniol…)
ond er fy lles y gwnest di hyn
gan afael yn fy llaw yn dynn,
’ta mraich, tybed? Nid bod ots…
Achos ‘trech teimlad na ffaith’,
a threch arddeliad na’r gwir;
dim ond wedyn y daeth hwnnw
fel drywinen dan fy nghroen,
y gweld, nad ‘clinig i’r enaid’ mo hyn,
ond gormes yn rhith sgwrs,
a’th hen sgidiau sglein yn atseinio
yng nghoridorau fy nos.
Gwn r诺an, y gallaf geisio’r drws (ryw ddydd),
achos pan fo… un yn methu nabod geiriau cas
onid ‘gorau sgwrs o’i thorri yn ei blas’
- a thorri’n rhydd?
Ifor ap Glyn 9.5
9 Englyn: Band Garddwrn
Gwenoliaid
Cofrodd o hwyl mynd i wyliau - unwaith
oedd hanes y bandiau:
heddiw, mae’n lliw i’n pellhau,
a’r 诺yl yn llawn rheolau.
Judith Musker Turner 9.5
Caernarfon
O’i ddangos fesul noson yn yr 诺yl
roedd Llanrwst yn wreichion
ddau ha’n ôl, a’r flwyddyn hon
hwn yw goriad Tregaron!
Ifan Prys 9.5
Cyngion ychwanegol
Band garddwrn (ysbyty)
Ei ddangos sy’n ddiangen - a gwyliwn
ei gig olaf amgen,
wrth i ryddmau’i gorff orffen
a daw bît ei fyd i ben…
Erchyll iawn rhwng braich a llaw ydy band
nad yw byth yn ddistaw
Daw’r roc o fy oriawr draw;
Van Halen fy neheulaw!
Cyplau’n unig
“I mewn, i mewn, i mewn – MAS!” ac ymaith
ag Em, llawn embaras
i foddi mewn llif addas
unig iawn; roedd Noa’n gas.