91热爆

Annog chwaraewyr rygbi i gael yswiriant rhag colli cyflog

Rhodri Bwye a'i deulu Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Rhodri Bwye o'r farn mai un rheswm sy'n atal cynifer o chwaraewyr rhag cael yswiriant yw'r gost

  • Cyhoeddwyd

Mae chwaraewr rygbi a gafodd sawl anaf yn ystod ei yrfa yn annog eraill o fewn y gamp i sicrhau fod ganddyn nhw yswiriant.

Er bod gan Rhodri Bwye yswiriant ar gyfer anafiadau, nid oedd ganddo yswiriant i warchod ei incwm tra'r oedd yn gwella o'i anafiadau.

Mae'r tad i ddau o Faesteg ym Mhen-y-bont ar Ogwr o'r farn mai un ffactor sy'n atal cynifer o chwaraewyr rhag cael yswiriant yw'r gost.

Mae Undeb Rygbi Cymru yn dweud eu bod nhw'n darparu yswiriant cyffredinol i glybiau a chwaraewyr ond eu bod nhw'n annog clybiau i drafod yswiriant pellach, yn enwedig i chwaraewyr hunangyflogedig.

'Doedd dim digon o arian yn dod mewn'

Yn ystod ei gyfnod yn chwarae rygbi, dywedodd Rhodri Bwye ei fod wedi cael sawl anaf.

Roedd y rhain, meddai, yn cynnwys "dwy lawdriniaeth ar fy ysgwydd, ACL [anterior cruciate ligament], detached pec, detached bicep, cwpl o ops ar y penglin".

Ond ychwanegodd: "Fydden i byth yn newid dim achos o'n i'n caru chwarae rygbi."

Dywedodd nad oedd ganddo yswiriant i warchod ei incwm ac o ganlyniad fe gollodd swm o'i gyflog am gyfnod.

"Collais i gyflog am fis pan oedd yr ACL wedi digwydd," meddai.

"Roedd y teulu mewn sefyllfa eithaf da i fod yn onest ond roedd rhaid i ni golli mas ar y pethe neis o'n ni'n 'neud achos doedd dim digon o arian yn dod mewn."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l Rhodri Bwye mae'r gost yn atal nifer o chwaraewyr rhag cael yswiriant

Yn 么l Rhodri, mae'r gost yn atal nifer o chwaraewyr rhag cael yswiriant.

"Fi'n credu bod jyst byw yn costi gymaint ar y foment," meddai ac o ganlyniad mae llai yn penderfynu chwarae rygbi.

Gyda nifer o chwaraewyr rygbi yn hunangyflogedig, dywedodd bod sawl un yn gorfod ystyried y risg o chwarae rygbi a chael anaf a'r effaith ariannol gall hyn gael arnyn nhw.

"Un o'r rhesymau yw bod lot o'r bois yn gweithio iddyn nhw eu hunain, felly bydde eu cyflog nhw'n mynd mas drwy'r ffenest os bydden nhw'n cael anaf.

"Mae teuluoedd 'da'r bois, ma' tai a mortgages 'da'r bois so mae hwnna'n chwarae r么l fawr wrth egluro pam dyw pobl ddim yn chwarae gymaint ag oedden nhw."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Nathan Edwards (chwith) a George Richards (dde) yn chwarae i glwb Maesteg

Yn wahanol i Rhodri, nid oes gan Nathan Edwards, 42 - sydd newydd ail gydio yn y gamp er mwyn helpu clwb lleol - unrhyw yswiriant.

"Sa i 'di meddwl llawer amdano fe, ond os wyt ti'n hunangyflogedig a ffaelu gweithio oherwydd anaf yna wyt ti ddim yn cael dy dalu, felly ddyle fe fod yn opsiwn."

Ar y llaw arall mae George Richards, 19, o Faesteg, sydd 芒'i olygon ar chwarae yn yr uwch gynghrair, wedi sicrhau fod ganddo yswiriant.

"Roedd fy ffrind wedi brifo ei goes a doedd e ddim yn gallu mynd i'r gwaith felly fe gollodd e lawer o arian... gwnaeth hynny agor fy llygaid i," meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Alice Thomas nad yw pobl yn gweld y risg a'u bod yn teimlo'n "indestructable"

Un sy'n deall tipyn am y pwnc yw Alice Thomas sy'n aelod o glwb menywod Piod Pinc yn y Tymbl, Sir G芒r.

Ag hithau'n gweithio o fewn y maes yswiriant dywedodd nad oes yn rhaid i'r yswiriant fod yn ddrud, ond bod angen cael un addas yn enwedig i'r rheiny sy'n hunangyflogedig.

"Mae'n rhaid ystyried a fyddai 拢200 yr wythnos yn ddigon i dalu biliau a sicrhau bod modd talu rhywun i wneud eich gwaith drosoch chi?

"Wel na, fydde fe ddim, so mae'n werth talu mwy i sicrhau fod cover gyda chi fel bod dim ishe becso a stresso mas os chi yn torri coes."

"Dyw pobl ddim yn gweld y risg maen nhw'n teimlo'n "indestructable" neu'n meddwl 'dyw e ddim yn mynd i ddigwydd i fi'."

Mae Undeb Rygbi Cymru yn dweud eu bod nhw'n darparu yswiriant cyffredinol i glybiau a chwaraewyr.

Ond maen nhw'n annog clybiau i drafod yswiriant pellach, yn enwedig i chwaraewyr hunangyflogedig.

Maen nhw'n dweud eu bod nhw am weld mwy o chwaraewyr llawr gwlad yn sicrhau fod ganddyn nhw yswiriant priodol.