91热爆

'Bwlch yn yr ymchwil i anafiadau rygbi merched'

Disgrifiad,

Cyn-chwaraewr Cymru, Teleri Wyn Davies a chyn-ffisiotherapydd Norwy, Elain Sian fu'n ymateb i'r ymchwiliad ar Dros Frecwast

Cipolwg

  • Corff llywodraethu rygbi鈥檙 undeb yn cyfaddef fod bwlch yn yr ymchwil o ran anafiadau chwaraewyr benywaidd.

  • Ymchwil 鈥渟yfrdanol鈥 yng Nghymru'n awgrymu y gallai merched sy鈥檔 chwarae鈥檙 gamp fod yn fwy tebygol na dynion o ddioddef anafiadau pen.

  • Arbenigwyr a chwaraewyr yn galw am fwy o ymchwil i anafiadau merched i weld a oes angen eu trin a鈥檜 hatal mewn ffordd wahanol.

  • Mae llawer o'r prosesau a'r dulliau hyfforddi ar sail ymchwil ar ddynion, medd y cyn-chwaraewr rhyngwladol Elinor Snowsill.

  • Cyhoeddwyd

Mae corff llywodraethu rygbi鈥檙 undeb wedi cyfaddef fod bwlch yn yr ymchwil sy鈥檔 cael ei wneud pan mae鈥檔 dod at les chwaraewyr gwrywaidd a benywaidd.

Daw hynny wrth i ymchwil 鈥渟yfrdanol鈥 yng Nghymru awgrymu y gallai merched sy鈥檔 chwarae鈥檙 gamp fod yn fwy tebygol na dynion o ddioddef anafiadau pen fel cyfergydion.

Yn 么l arbenigwyr a chwaraewyr, mae angen mwy o ymchwil i anafiadau merched i weld a oes angen eu trin a鈥檜 hatal mewn ffordd wahanol.

Mae World Rugby nawr yn gweithio gyda sefydliadau ar draws y byd i gasglu mwy o ddata ar g锚m y menywod er mwyn ceisio 鈥渃au鈥檙 bwlch鈥 yn yr ymchwil.

Ar hyn o bryd mae World Rugby, Undeb Rygbi Cymru ac Undeb Rygbi Lloegr yn wynebu camau cyfreithiol gan chwaraewyr rygbi, gan gynnwys rhai menywod.

Un cynllun maen nhw wedi ei gyflwyno鈥檔 ddiweddar yw gorchuddion ceg yng nghystadleuaeth ddiweddar WXV y menywod, sy鈥檔 gallu mesur y risg o gyfergyd.

Daw hyn wrth i rygbi merched dyfu mewn poblogrwydd, gyda chytundebau proffesiynol i chwaraewyr rhyngwladol Cymru a llwyddiant diweddar yn y Chwe Gwlad.

'Mae petha' wedi newid lot'

Mae鈥檙 cyn-chwaraewr rhyngwladol Elinor Snowsill yn dweud mai un cyfergyd gafodd hi yn ystod ei gyrfa, ond bod eraill o鈥檌 chyfnod hi ddim wastad o bosib wedi gwybod am anafiadau o鈥檙 fath.

鈥淪i诺r o fod bod lot o bobl wedi bwrw pennau nhw ac heb sylweddoli, neu heb wneud unrhyw beth amdano fe,鈥 meddai.

鈥淔elly fi鈥檔 meddwl falle bydde rhai o'n nhw鈥檔 stryglo gyda symptomau nawr, a falle鈥檔 gallu effeithio bywyd nhw nawr.

鈥淚鈥檙 chwaraewyr sy鈥檔 chwarae nawr mae pethau 鈥榙i newid lot, ac mae 鈥榥a lot mwy o ymwybyddiaeth a gofal dros y peth.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r ymchwil hyd yn hyn wedi canolbwynio ar chwaraewyr gwrywaidd, medd Elinor Snowsill

Mae Snowsill, sydd bellach yn arwain canolfan datblygu chwaraewyr ym Mhrifysgol Met Caerdydd, yn falch bod y brifysgol yn rhan o ymchwil pellach i鈥檙 pwnc.

鈥淢ae lot o鈥檙 prosesau, y ffyrdd ni鈥檔 ymarfer, y ffyrdd ni鈥檔 bwyta, wedi cael ei wneud oherwydd ymchwil ar ddynion,鈥 meddai.

鈥淥nd ni ddim yn ddynion, ni鈥檔 wahanol iawn i ddynion. Ac mae hwn am chwaraeon yn gyfan gwbl, yn ogystal 芒 phethau fel cyfergyd.鈥

Natur ergydion yn wahanol

Mae Dr Izzy Moore o Brifysgol Met Caerdydd yn rhan o brosiect sy鈥檔 cael ei arwain gan Brifysgol Abertawe.

鈥淧an 鈥榙yn ni鈥檔 edrych ar fideos o gemau menywod, mae dros 50% o鈥檙 ergydion pen yn digwydd wrth i鈥檙 chwaraewr ddisgyn,鈥 meddai Dr Moore.

鈥淥nd yng ng锚m y dynion mae ganddyn nhw yddfau cryfach, ac maen nhw鈥檔 dioddef anafiadau pen gan amlaf drwy ergyd uniongyrchol yn ystod tacl.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae bechgyn yn tueddu i ddechrau chwarae rygbi'n gynt na merched, medd Dr Izzy Moore

Ar hyn o bryd mae data World Rugby yn awgrymu bod merched yn dioddef anafiadau pen fel arfer drwy ergydion uniongyrchol, sy鈥檔 wahanol i ganfyddiadau prosiect Prifysgol Abertawe.

Ychwanegodd Dr Moore fod llawer o ferched yn dechrau chwarae rygbi yn y brifysgol, yn wahanol i fechgyn sydd wedi bod yn chwarae ers oedran ieuengach.

鈥淔elly mae鈥檔 bosib eu bod nhw dal yn dysgu sut i daclo, a bod hynny鈥檔 cynyddu eu risg o anaf.鈥

'Yr ymchwil yn ei ddyddiau cynnar'

Disgrifiad,

'Diffyg ymchwil' i gyfergydion mewn rygbi merched, medd Dr Seren Evans

Sefydliad arall sydd hefyd yn ymchwilio i effaith cyfergydion ac anafiadau eraill ar chwaraewyr rygbi benywaidd yw Prifysgol Bangor.

鈥淢ae鈥檙 ymchwil yn sicr yn ei ddyddiau cynnar,鈥 meddai Dr Seren Evans, sy鈥檔 ymchwilydd 么l-ddoethurol yno.

鈥淢ae genna ni ddegawdau o ddata ar g锚m y dynion, a鈥檙 gwahanol anafiadau sy鈥檔 digwydd... lle efo鈥檙 merched mae o lot llai.

鈥淏eth ydan ni鈥檔 dechrau gweld ydi bod mwy o gyfergydion yn digwydd yng ng锚m y genod, bod o tua 70% yn uwch yng ng锚m y merched rygbi鈥檙 undeb o鈥檌 gymharu efo g锚m y dynion.

鈥淢ae hyn yn syfrdanol bod o mor wahanol, oherwydd mae merched yn fwy tebygol o ddioddef o symptomau am yn hirach hefyd.

鈥淵r unig ffordd 鈥榙an ni鈥檔 gallu dechrau ar y daith yma ydi adnabod y broblem, a mynd o fanno efo鈥檙 preventative measures 飞别诲测苍.鈥

Er hynny, mae鈥檔 dweud nad ceisio darbwyllo pobl rhag chwarae rygbi yw鈥檙 bwriad.

鈥淲eithiau mae pobl yn gallu edrych ar y penawdau a chael eu dychryn, a 鈥榙yn nhw鈥檓 isio i鈥檞 plant nhw chwarae rygbi ac ati,鈥 meddai.

鈥淥nd beth 鈥榙an ni鈥檔 trio 鈥榥eud ydi 鈥榥eud y g锚m yn saffach, fel bod y genod 鈥榤a yn gallu chwarae, a chwarae am hirach hefyd.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae diffyg cefnogaeth ar lawr gwlad yn poeni'n cyn chwaraewr rhyngwladol, Jess Kavanagh

Fe wnaeth Jessica Kavanagh gynrychioli Cymru ar y lefel rhyngwladol, cyn i anafiadau ddod 芒鈥檌 gyrfa chwarae i ben.

Mae bellach yn is-hyfforddwr gyda th卯m Prifysgol Bangor, ac yn gweld nad yw chwaraewyr ar lawr gwlad yn cael yr un gefnogaeth pan mae鈥檔 dod at anafiadau fel cyfergydion.

鈥淒ydi o鈥檓 digon da ar y lefel yma yn fy marn i,鈥 meddai.

鈥淒wi鈥檔 fwy ymwybodol ohono fo oherwydd dwi 鈥榙i bod yn chwarae ar y lefel uchel a dwi鈥檔 gwybod y support oeddan ni鈥檔 cael yn fan'na.

鈥淔elly pan dwi ar yr ochr yn gwylio鈥檙 g锚m, mae鈥檔 chwarae ar meddwl fi - dwi鈥檔 trio gwatchad ar 么l y merched a 鈥榥eud y peth iawn. Mae鈥檙 person yn dod gynta鈥 cyn y chwaraewyr.鈥

'Profion mwy aml'

Mae Beca, Erin a Mali yn chwarae i d卯m y brifysgol, ac yn gallu rhestru llwyth o anafiadau maen nhw wedi eu cael tra鈥檔 chwarae鈥檙 gamp 鈥 gan gynnwys cyfergydion.

鈥淒an ni鈥檔 chwarae heb wybod beth sy鈥檔 mynd i ddigwydd i ni os 鈥榙an ni鈥檔 brifo,鈥 meddai Erin.

鈥淥s dwi鈥檔 hitio pen, dwi鈥檔 gwybod na鈥檌 deimlo鈥檔 s芒l, dwi鈥檔 gwybod i beidio mynd i gysgu, ond be鈥 arall, be鈥 dwi fod i 'neud efo hynna?

鈥淢ynd i ysbyty neith nhw ddeutha chdi 鈥榥eud, ond OK, dwi鈥檔 cymryd leaflet a dwi鈥檔 mynd adre 鈥 beth sy鈥檔 digwydd wedyn?鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Erin, Mali a Beca wedi cael anafiadau wrth chwarae rygbi

Ychwanegodd Mali y dylai profion cyfergyd gael eu cynnal yn amlach - er enghraifft, ar ddechrau pob tymor, nid dim ond pan mae anaf amlwg yn digwydd.

鈥淢ae lot o bobl jyst yn meddwl mai cur pen 鈥榙i o, ond pryd ti鈥檔 mynd yn 么l rhy fuan ar 么l concussion mae鈥檔 gallu mynd yn waeth,鈥 meddai.

Dyw鈥檙 anafiadau heb ddarbwyllo Beca rhag chwarae, ond mae鈥檔 falch o weld bod mwy o ymchwil nawr yn cael ei wneud i鈥檙 effeithiau.

鈥淕yda chynifer o ferched yn chwarae rygbi erbyn hyn, ma鈥 fe yn bwysig bod yr ymchwil yma鈥檔 cael ei 鈥榥eud er mwyn i ni allu gwybod sut i drin merched yn specific,鈥 dywedodd.

Gwaith i lenwi'r bwlch

Dywedodd Dr Lindsay Starling, Rheolwr Meddygol a Gwyddonol World Rugby, fod llawer o waith bellach yn digwydd i leihau鈥檙 bwlch yn yr ymchwil ar gyfer chwaraewyr benywaidd.

鈥淩ydych chi ond yn gallu helpu鈥檙 chwaraewyr i鈥檙 lefel uchaf drwy gael gwybodaeth amdanyn nhw鈥檔 benodol,鈥 meddai.

鈥淵n amlwg, nid jyst dynion llai yw merched 鈥 maen nhw鈥檔 bobl wahanol. Rydyn ni鈥檔 gweithio mewn ffordd wahanol. Felly mae angen deall y cyd-destun benywaidd yn benodol.鈥

Dywedodd Undeb Rygbi Cymru 聽eu bod yn ymdrechu'n "ddygn i wella safonau a chynlluniau lles chwaraewyr ac mae ein staff meddygol profiadol yn chwarae rhan flaengar" yn hynny o beth.

Mae'r undeb, meddai llefarydd, "yn buddsoddi'n sylweddol mewn monitro anafiadau gyda Met Caerdydd, sy'n cynnwys edrych ar holl anafiadau merched yn ogystal 芒 chysylltiadau 芒 chylch y mislif".

Ychwanegodd bod "cynnydd sylweddol wedi bod yn yr ymchwil a'r data rydym wedi gallu eu casglu o ganlyniad".

Am fwy ar y stori hon, gwyliwch 91热爆1 Wales am 22:40 neu gallwch wylio yn 么l ar 91热爆 iPlayer

Pynciau cysylltiedig