91热爆

Ymchwil i geisio atal cyfergyd mewn rygbi merched

  • Cyhoeddwyd
Rygbi merched
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Merched yn chwarae rygbi ym Mhrifysgol Abertawe

Mae ymchwil diweddar yn awgrymu bod yna fwy o risg i chwaraewyr rygbi benywaidd ddioddef cyfergyd (concussion) na dynion, a bod yr effeithiau'n fwy difrifol.

Darganfod y rhesymau dros hynny yw nod astudiaeth arloesol gan Brifysgol Abertawe.

Bydd ymchwilwyr hefyd yn ceisio darganfod os gall newid y ffordd y mae merched yn hyfforddi leihau'r risg o gael cyfergyd.

Mae disgwyl i'r canfyddiadau gael eu cyhoeddi cyn diwedd y flwyddyn, ond mae ymchwil eisoes wedi arwain at ddatblygu cryfder gyddfau'r chwaraewyr a'u hannog i syrthio wyneb i lawr yn hytrach nag yn 么l.

Natur y cyffyrddiad

Arweinydd y gwaith ymchwil yw Elizabeth Williams, uwch ddarlithydd yng Ngholeg Peirianneg Prifysgol Abertawe.

"Mae anafiadau pen yng ng锚m y dynion fel arfer yn sgil cyffyrddiad rhwng chwaraewyr," meddai, "ond gyda'r menywod, yn aml chi'n s么n am [gyffyrddiad rhwng] y pen a'r ddaear, neu'r pen 芒 phen-glin.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Elizabeth Williams o Goleg Peirianneg Prifysgol Abertawe

"Mae hynny wedi ein galluogi i fod yn benodol ynghylch sut gallwn ni hyfforddi menywod yn wahanol i wella'r mannau ble mae'r menywod yn wannach - nad sydd o reidrwydd yr un un ffordd 芒 dynion, felly rydyn yn eu hyfforddi fel menywod ac nid fel dynion bach."

Ychwanegodd bod ymchwil diweddar yn y maes niwrolegol wedi amlygu gwahaniaethau yn ymenyddiau menywod - gwahaniaethau "sy'n awgrymu ymennydd menyw, o ddod dan yr un pwysau allanol, 芒 risg uwch o anaf nag ymennydd dyn".

"Gall casglu data gwrthrychol ynghylch pa mor galed y mae'r chwaraewyr yma'n taro eu pennau ein helpu i ddatblygu strategaethau i gyfyngu ar niwed i'r ymennydd."

Ysbyty

Mae Rebecca Redmond, 21, o Aberteifi yn flaen-asgellwr gyda th卯m rygbi merched Prifysgol Abertawe, ac fe ddioddefodd gyfergyd yn ystod g锚m fis diwethaf.

Dywedodd: "Fe ges i ergyd ar fy mhen rhyw dri munud i mewn i'r g锚m ac roeddwn yn gwybod yn syth ar 么l iddo ddigwydd fod rhywbeth o'i le.

"Fe ges i'r newyddion fy mod wedi cael ergyd galed felly fe es i i'r ysbyty ac fe ddywedon nhw fy mod wedi dioddef cyfergyd ac roedd rhaid i mi beidio chwarae am bythefnos."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Rebecca Redmond wedi bod yn rhan o'r gwaith ymchwil

Roedd Rebecca'n gwybod ei bod wedi cael ergyd galed am ei bod yn gwisgo amddiffynnwr ceg oedd wedi ei greu'n arbennig ar gyfer mesur pa bryd ac ym mha ran o'r pen y cafodd chwaraewr yr ergyd.

Roedd chwaraewyr yn nhimau'r merched a'r dynion wedi bod yn gwisgo'r amddiffynwyr ceg ers mis Medi ac mae canlyniadau cynnar yn awgrymu fod dynion a merched yn dioddef ergyd i'r pen mewn ffyrdd gwahanol.

Technegau a thechnoleg newydd

Fe ddioddefodd Rebecca symptomau cyfergyd am nifer o ddiwrnodau.

Mae ganddi ffydd yn y technegau newydd o fesur cyfergydion ac mae hi'n edrych ymlaen at gael dychwelyd i'r cae.

Dywedodd: "Wedi i hyn ddigwydd roeddwn yn teimlo'n chwil a phenysgafn ar roeddwn yn teimlo ton ar 么l ton o salwch. Fe wnes i barhau i chwarae achos doeddwn i heb sylweddoli beth oedd wedi digwydd.

"Mae'r hyfforddi ar gyfer y gwddf a dysgu sut i ddisgyn yn wahanol wedi rhoi hwb i fy hyder gan fy mod yn gwybod fy mod yn fwy diogel."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe ddioddefodd Ruth Lewis effeithiau cyfergyd dair gwaith tra'n chwarae rygbi

Mae Ruth Lewis o Bontardawe yn chwarae yn safle'r prop yn chwarae i Brifysgol Abertawe, Cymru a'r Gweilch.

Mae hi wedi dioddef effaith cyfergyd dair gwaith ond nid yw hyn wedi lleihau ei hawch am chwarae'r g锚m.

"Roedd yr un diwethaf yn mis Awst y llynedd ac roedd yn un eithaf drwg - fe es i i'r ysbyty ac fe gefais glais ar fy ymennydd. Mae gan chwaraewyr a hyfforddwyr well dealltwriaeth am pa mor ddifrifol yw cyfergyd.

"Mae'n rhan o'r g锚m ac mae rheolau'n bodoli i'w gwneud mor ddiogel 芒 phosib. Rwy'n caru rygbi a does dim all newid hynny."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Siwan Lillicrap wedi gweld cynnydd yn nifer y merched sydd yn chwarae rygbi

Capten Cymru yw Siwan Lillicrap, ac mae hi'n bennaeth rygbi ym Mhrifysgol Abertawe. Dywedodd bod y g锚m ymysg merched yn tyfu ac mae hi'n croesawu mwy o ymchwil.

"Mae rygbi'n gamp gyffrous ac mae'n gamp i bawb beth bynnag yw eich si芒p neu faint," meddai.

"Pan wnes i ddechrau fel pennaeth rygbi yma ychydig flynyddoedd yn 么l roedden ni'n cael trafferth i ddod o hyd i 15 ar gyfer y t卯m cyntaf a nawr mae gyda ni fwy na 70 o aelodau.

"Rydym yn gweithio fel clwb rygbi i gefnogi'r ymchwil. Po fwyaf y data y gallwn ei gasglu fe fydd o gymorth i bob t卯m merched yn y dyfodol."