91热爆

Crynodeb

  • Chwe pherson arall wedi marw, gan ddod 芒'r cyfanswm i 28 bellach

  • 113 o achosion newydd wedi'u cadarnhau yng Nghymru - cyfanswm o 741

  • Sefyllfa coronafeirws mewn rhannau o Went yn debyg i rannau o'r Eidal

  • Llywodraeth Cymru yn cyflwyno pwerau newydd i leihau coronafeirws

  • Canghellor yn cyhoeddi mesurau i gynorthwyo gweithwyr hunangyflogedig

  1. Troi Stadiwm Principality yn ysbyty?wedi ei gyhoeddi 10:53 Amser Safonol Greenwich 26 Mawrth 2020

    Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

    Yn y senario achos gorau (dim ond 25% o'r achosion disgwyliedig, oherwydd pellter cymdeithasol llwyddiannus ac ati) dywed y bwrdd iechyd y bydd diffyg o 600 o welyau ysbyty yng Nghaerdydd.

    Mae hyn yn fwy tebygol o fod yn ddiffyg o 2,000 o welyau, meddai'r rhybudd i ddoctoriaid.

    Mae'r ymddiriedolaeth yn edrych i greu ysbyty brys, gyda Stadiwm Principality yn opsiwn posib, medd awdur y neges.

    "Bydd angen meddygon a nyrsys arnyn nhw i staffio'r ysbyty newydd hwn," meddai.

    "Mae'r ymddiriedolaeth yn dibynnu ar feddygon teulu i 'wirfoddoli' i reoli'r cyfleuster hwn."

  2. Rhybudd i ddoctoriaid Caerdydd a'r Frowedi ei gyhoeddi 10:51 Amser Safonol Greenwich 26 Mawrth 2020

    Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

    Mewn neges ysgytwol i ddoctoriaid ddydd Mercher, dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro y byddai'r canlynol yn digwydd yn yr ardal mewn "senario gwaethaf posib rhesymol":

    • 400,000 yn cael eu heintio;
    • 265,000 yn dangos symptomau;
    • 30,000 yn mynd i'r ysbyty;
    • 4,000 yn marw.

    Dywed y bwrdd iechyd mai dynion gydag afiechydon cardiofasgiwlar a BMI uchel sydd 芒'r risg uchaf.

    Dywed y neges hefyd y bydd yr achosion ar eu hanterth rhwng 4 Mai-6 Gorffennaf.

    Mae'r neges yn dweud fod y gwelyau gofal dwys yno wedi cynyddu o 34 i 178.

  3. 'Byddwch yn arwr' medd y diffoddwyrwedi ei gyhoeddi 10:37 Amser Safonol Greenwich 26 Mawrth 2020

    Twitter

    Nid yw鈥檙 post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniat谩u cynnwys Twitter?

    Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.

    Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  4. Rhybudd am dwyllwedi ei gyhoeddi 10:22 Amser Safonol Greenwich 26 Mawrth 2020

    Cyngor Gwynedd

    Mae trigolion Gwynedd yn cael eu rhybuddio i fod yn wyliadwrus o bobl "diegwyddor" sy鈥檔 cymryd mantais o鈥檙 pandemig coronafeirws i dwyllo鈥檙 cyhoedd.

    Dywed y cyngor fod twyllwyr yn targedu鈥檙 cyhoedd a sefydliadau drwy e-bost, neges testun, galwadau ff么n a negeseuon WhatsApp neu鈥檔 sefydlu gwefannau, gyda鈥檙 bwriad o gymryd arian neu gasglu gwybodaeth bersonol.

    Mae'r rhain yn cynnwys pobl yn cymryd arnynt i fod yn Samariaid Trugarog ond yn manteisio ar bobl er mwyn dwyn eu harian, ac eraill yn cynnig rhoi cyngor a thriniaeth ffug i coronafeirws.

    Am fwy o wybodaeth am sut i ddelio 芒 sgamiau a thwyll, ffoniwch llinell defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1144 neu drwy鈥檙 Uned Safonau Masnach 鈥 ewch i

  5. Y pryder sy'n wynebu menywod beichiogwedi ei gyhoeddi 10:09 Amser Safonol Greenwich 26 Mawrth 2020

    Mae'r pandemig yn achosi llawer o bobl i deimlo'n gaeth i'w cartrefi, gan gynnwys menywod beichiog.

    Nid yn unig maen nhw wedi'u hynysu rhag cymorth cynenedigol ond o'u hanwyliaid hefyd.

    Dywed Coleg Brenhinol y Bydwragedd yng Nghymru "y bydd angen i wasanaethau newid" gan fod "y gwasanaeth dan straen".

    Elin EdwardsFfynhonnell y llun, Elin Edwards
  6. Clwstwr Gwent oherwydd profionwedi ei gyhoeddi 09:59 Amser Safonol Greenwich 26 Mawrth 2020

    Wrth son am y clwstwr pryderus o achosion yn ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, dywedodd Dr Atherton fod hynny'n ymwneud 芒 phrofi, gan fod cynnydd wedi bod yn nifer y profion yn yr ardal.

  7. Pythefnos cyn bydd mesurau newydd yn brathuwedi ei gyhoeddi 09:54 Amser Safonol Greenwich 26 Mawrth 2020

    Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton wedi dweud y bydd oedi o hyd at bythefnos cyn y bydd effaith y mesurau llym a gyflwynwyd nos Llun yn cael eu teimlo.

    Mewn cynhadledd newyddion y bore 'ma, fe rhybuddiodd y bydd nifer yr achosion o coronafeirws, a marwolaethau, yn cynyddu dros y pythefnos nesa, ond yna'n gostwng wrth i'r mesurau frathu.

    "Mae'n fater o brynu amser i'r Gwasanaeth Iechyd fod mor barod ag sy'n bosib ar gyfer ymchwydd mawr o achosion," meddai.

    cynhadledd
  8. Eryri ar gauwedi ei gyhoeddi 09:45 Amser Safonol Greenwich 26 Mawrth 2020

    Mae Golwg360 yn tynnu sylw i gyhoeddiad gafodd ei wneud prynhawn ddoe gan Barc Cenedlaethol Eryri, ac sy'n dod i rym y bore 'ma, sef bod mynyddoedd mwyaf poblogaidd Eryri ar gau i'r cyhoedd o rwan ymlaen.

    Nid yw鈥檙 post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniat谩u cynnwys Twitter?

    Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.

    Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  9. 'Gwyliau estynedig' ffatri Airbuswedi ei gyhoeddi 09:24 Amser Safonol Greenwich 26 Mawrth 2020

    Yn rhyfeddol, mae cwmni awyrennau Airbus wedi ailddechrau gweithio yn eu ffatrioedd yn Ffrainc a Sbaen wedi dim ond pedwar diwrnod o oedi.

    Ond fe ddywed y cwmni eu bod wedi ystyried iechyd a diogelwch eu gweithwyr, ac felly wedi lleihau'r gwaith ar bron bob safle.

    Mae hyn yn golygu y bydd Gwyliau'r Pasg yn cael ei ymestyn i fwyafrif y gweithwyr yn ffatri'r cwmni ym Mrychdyn, Sir y Fflint, er na fydd y ffatri'n cau yn llwyr.

  10. Sir Ddinbych yn ategu galwad Gwynedd ddoewedi ei gyhoeddi 09:13 Amser Safonol Greenwich 26 Mawrth 2020

    Cyngor Sir Ddinbych

    Mae Cyngor Sir Ddinbych yn galw ar berchnogion pob parc carafanau a safle gwersylla yn y Sir i ddilyn Cyfarwyddeb Prif Weinidog Cymru ac chau ar unwaith, i helpu i leihau lledaeniad Coronafeirws.

    Dywedodd arweinydd Sir Ddinbych, y Cynghorydd Hugh Evans OBE: "Er gwaethaf y cyngor gan ein Llywodraethau; mae nifer yr ymwelwyr 芒 Sir Ddinbych dros yr ychydig ddiwrnodau diwethaf wedi bod yn hynod bryderus a siomedig. Rwy'n eich annog felly i gau eich Parc/gwersyll/llety ar unwaith fel y gallwn atal y firws rhag lledaenu, a chyfyngu ar effaith ymwelwyr ar ein gwasanaethau iechyd a gofal yn lleol sydd eisoes o dan bwysau sylweddol.鈥

  11. Ysgafnhau baich cynghorauwedi ei gyhoeddi 09:03 Amser Safonol Greenwich 26 Mawrth 2020

    Twitter

    Wrth gyfeirio at stori ar wefan ITV Wales, mae arweinydd Plaid Cymru, Adam Price yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu i gynorthwyo cynghorau'r wlad.

    Nid yw鈥檙 post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniat谩u cynnwys Twitter?

    Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.

    Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  12. Beth am ymarfer corff heddiw?wedi ei gyhoeddi 08:55 Amser Safonol Greenwich 26 Mawrth 2020

    Twitter

    I bawb sy'n hunan ynysu neu yn dilyn y cyfarwyddiadau ac yn aros adre, mae cyfle i chi geisio cadw'n heini yn y stafell ffrynt!

    Nid yw鈥檙 post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniat谩u cynnwys Twitter?

    Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.

    Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  13. Cynghorau'n symud staff i gynorthwyowedi ei gyhoeddi 08:51 Amser Safonol Greenwich 26 Mawrth 2020

    Mae rhai o gynghorau Cymru yn symud staff o un adran i un arall er mwyn cadw gwasanaethau hanfodol i redeg.

    Mae Zoe Coleman fel arfer yn gweithio fel achubwr bywyd yng Nghanolfan Hamdden Penfro, ond bu'n dweud wrth Radio Wales y bore 'ma ei bod bellach yn gweithio gyda'r timau casglu sbwriel.

    Dywedodd arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas ei fod yn disgwyl gweld mwy o hyn yn digwydd ar draws Cymru.

  14. Maes awyr ar gauwedi ei gyhoeddi 08:42 Amser Safonol Greenwich 26 Mawrth 2020

    Mae Maes Awyr Caerdydd wedi dod i stop yn llwyr heddiw.

    Does yr un awyren yn mynd i fod yn teithio i mewn nac allan oddi yno. Mae un awyren - o Amsterdam - i fod i lanio yno yfory, ond heblaw hynny y disgwyl yw na fydd mwy o awyrennau'n glanio na gadael am wythnosau lawer.

    Mae'r maes awyr yn dal ar agor rhag ofn y bydd awyrennau'n gorfod glanio yno mewn argyfwng megis cyflenwadau meddygol.

    maes awyr caerdydd
  15. Perygl i gleifion canser farw oherwydd diffyg gofal dwyswedi ei gyhoeddi 08:34 Amser Safonol Greenwich 26 Mawrth 2020

    Mae llawfeddyg blaenllaw wedi rhybuddio y gallai rhai cleifion canser farw am na fydd yna ofal dwys ar gael iddyn nhw oherwydd coronafeirws.

    Dywedodd Gethin Williams, sy'n llawfeddyg ymgynghorol yn Ysbyty Brenhinol Gwent, ei fod yn poeni'n arbennig am gleifion fydd angen llawdriniaethau brys.

    Yn 么l Mr Williams, bydd meddygon yn gorfod gwneud dewisiadau anodd wrth drin cleifion sydd wedi eu heintio 芒 Covid 19.

    ysbyty brenhinol gwentFfynhonnell y llun, Robin Drayton/Geograph
  16. Ar y Post Cyntaf....wedi ei gyhoeddi 08:27 Amser Safonol Greenwich 26 Mawrth 2020

    91热爆 Radio Cymru

    Nid yw鈥檙 post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniat谩u cynnwys Twitter?

    Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.

    Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  17. Cael bod yn fusneslyd....wedi ei gyhoeddi 08:21 Amser Safonol Greenwich 26 Mawrth 2020

    Mae'n neis cael bod yn fusneslyd weithiau, ac mae'r sefyllfa sydd ohoni yn amlwg yn gwneud i rai pobl ddangos eu cartrefi - neu stiwdios darlledu dros dro - i ni ar y cyfryngau cymdeithasol.

    Tro Dylan Ebenezer yw bwrw golwg dros y papurau ar Radio Cymru heddiw....

    Nid yw鈥檙 post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniat谩u cynnwys Twitter?

    Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.

    Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  18. Patrwm 'tebyg i'r Eidal' yn ardal Gwentwedi ei gyhoeddi 08:16 Amser Safonol Greenwich 26 Mawrth 2020

    Cyhoeddodd Dr Sarah Aitken, cyfarwyddwr iechyd y cyhoedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, fod yr ardal yn gweld "yr un patrwm ag a welwyd yn yr Eidal".

    Roedd gan yr ardal 309 o achosion wedi'u cadarnhau o Covid-19 - bron i hanner cyfanswm yr achosion yng Nghymru a mwy na dwywaith nifer unrhyw ardal arall.

    Mae'r bwrdd iechyd yn cwmpasu ardaloedd Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd, Torfaen a de Powys.

    sarah aitkenFfynhonnell y llun, Bwrdd Iechyd Prifygol Aneurin Bevan
  19. Bore da!wedi ei gyhoeddi 08:14 Amser Safonol Greenwich 26 Mawrth 2020

    91热爆 Cymru Fyw

    Croeso i'n llif byw dyddiol yn ystod cyfnod y coronafeirws yng Nghymru.

    Yn ystod heddiw, dydd Iau 26 Mawrth, fe gewch chi'r newyddion diweddaraf am y feirws a'i effeithiau ar bobl yma yng Nghymru.

    Bore da i chi.