91热爆

Crynodeb

  • Chwe pherson arall wedi marw, gan ddod 芒'r cyfanswm i 28 bellach

  • 113 o achosion newydd wedi'u cadarnhau yng Nghymru - cyfanswm o 741

  • Sefyllfa coronafeirws mewn rhannau o Went yn debyg i rannau o'r Eidal

  • Llywodraeth Cymru yn cyflwyno pwerau newydd i leihau coronafeirws

  • Canghellor yn cyhoeddi mesurau i gynorthwyo gweithwyr hunangyflogedig

  1. Nos dawedi ei gyhoeddi 18:28 Amser Safonol Greenwich 26 Mawrth 2020

    91热爆 Cymru Fyw

    A dyna'r ni'r diweddaraf am haint coronafeirws ar ddydd Iau, 26 Mawrth, ar ddiwrnod y bu chwech marwolaeth arall yng Nghymru a 113 o achosion newydd.

    Yn hwyr prynhawn yma fe wnaeth y Canghellor Rishi Sunak, ddweud y gall pobl hunangyflogedig sy'n wynebu problemau ariannol gael hyd at 80% o'u cyflog misol gan y llywodraeth.

    Bydd y swm yn cael ei gyfrifo drwy ddefnyddio cyfartaledd elw misol yn ystod y tair blynedd ddiwethaf.

    Fydd dim modd cael mwy na 拢2,500 y mis ac i ddechrau fe fydd y cymorth ar gael am dri mis.

    Hefyd heddiw pwerau newydd wedi'u cyflwyno yng Nghymru.

    Tan bore fory gan d卯m llif newyddion Cymru Fyw - nos da.

    Cofiwch bydd y straeon diweddara i'w gweld ar wefan Cymru Fyw.

  2. Pwerau newydd yn dod i rym yng Nghymruwedi ei gyhoeddi 18:28 Amser Safonol Greenwich 26 Mawrth 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi cadarnhau bod pwerau newydd i helpu i leihau lledaeniad y coronafeirws, diogelu'r GIG ac achub bywydau wedi dod i rym.

    Mae'r Prif Weinidog wedi gwneud rheoliadau newydd ym maes iechyd y cyhoedd yn rhan o鈥檙 gyfraith i gryfhau pwerau gorfodi'r heddlu yng Nghymru.

    Dim ond at y dibenion cyfyngedig iawn canlynol y caniateir i unigolion adael eu cartref:

    • Siopa am nwydau angenrheidiol a chyflenwadau sylfaenol, a hynny mor anaml 芒 phosibl;
    • Un ffurf o ymarfer bob dydd - er enghraifft, rhedeg, cerdded neu feicio - ar ei ben ei hun neu gydag aelodau o'u haelwyd;
    • Unrhyw angen meddygol, i ddarparu gofal neu i helpu person sy'n agored i niwed;
    • Teithio i'r gwaith ac oddi yno, ond dim ond pan nad yw鈥檔 rhesymol ymarferol iddynt weithio gartref.

    Dylai pobl aros o leiaf 2m oddi wrth ei gilydd bob amser.

    Hefyd, ni chaniateir cymryd rhan mewn cynulliadau o fwy na dau o bobl mewn mannau cyhoeddus ac eithrio mewn amgylchiadau prin iawn, er enghraifft, at ddibenion gwaith hanfodol. Bydd gan yr heddlu bwerau i orfodi hyn.

    Os na fydd pobl yn cydymffurfio 芒'r cyfreithiau newydd hyn:

    • Gellir eu cyfarwyddo i ddychwelyd adref neu eu symud o le y maent a'u dychwelyd adref
    • Efallai y bydd yn rhaid iddynt dalu hysbysiad cosb benodedig o 拢30. Os na chaiff hwn ei dalu o fewn 14 diwrnod, bydd yn dyblu i 拢60, ac os c芒nt ail hysbysiad neu rybudd dilynol, bydd y t芒l yn 拢120

    Gallai unigolion nad ydynt yn talu hysbysiad cosb benodedig o dan y rheoliadau orfod mynd i鈥檙 llys, gydag ynadon yn gallu gorfodi dirwyon diderfyn.

    Os bydd unigolyn yn parhau i wrthod cydymffurfio, bydd yn gweithredu'n anghyfreithlon, a gall yr heddlu eu harestio. Er hynny, yn y lle cyntaf bydd yr heddlu bob amser yn defnyddio eu synnwyr cyffredin a'u disgresiwn.

  3. Ffigyrau diweddaraf y DUwedi ei gyhoeddi 18:21 Amser Safonol Greenwich 26 Mawrth 2020

    Mae nifer y marwolaethau ym Mhrydain bellach yn 578, yn 么l Adran Iechyd Llywodraeth y DU.

    Mae nifer y rhai sydd wedi cael prawf positif yn 11,658.

  4. Trafnidiaeth Cymru'n apelio ar bawb...wedi ei gyhoeddi 18:04 Amser Safonol Greenwich 26 Mawrth 2020

    Twitter

    Nid yw鈥檙 post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniat谩u cynnwys Twitter?

    Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.

    Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  5. 662 arall wedi marw yn Yr Eidalwedi ei gyhoeddi 17:54 Amser Safonol Greenwich 26 Mawrth 2020

    Mae'r ffigyrau diweddaraf yn Yr Eidal yn dangos fod 662 wedi marw yn ystod y 24 awr ddiwethaf.

    Mae nifer y meirw bellach yn 8,165 ac mae 80,539 o achosion o Covid-19 wedi'u cadarnhau yn y wlad.

  6. Cyngor i athrawon newyddwedi ei gyhoeddi 17:47 Amser Safonol Greenwich 26 Mawrth 2020

    Llywodraeth Cymru

    Nid yw鈥檙 post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniat谩u cynnwys Twitter?

    Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.

    Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  7. Clap i staff y GIGwedi ei gyhoeddi 17:39 Amser Safonol Greenwich 26 Mawrth 2020

    Twitter

    Am 20:00 heno mae yna anogaeth ar i bobl ar draws Prydain glapio fel arwydd o gymeradwyaeth i staff y GIG am eu gwaith - gall hynny fod ar drothwyr'r drws, yn yr ardd neu'r stafell ffrynt.

    Nid yw鈥檙 post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniat谩u cynnwys Twitter?

    Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.

    Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  8. AC yn erfyn ar etholwyr i aros adrewedi ei gyhoeddi 17:35 Amser Safonol Greenwich 26 Mawrth 2020

    Mae AC Dwyrain De Cymru, Delyth Jewell, wedi erfyn ar etholwyr i wrando ar y cyngor swyddogol i aros adre a "phellhau yn gymdeithasol".

    Daw ei sylwadau wedi i gyfarwyddwr iechyd y cyhoedd ym Mwrdd Iechyd Aneurin Bevan rybuddio bod "yr ardal yn gweld yr un patrwm ag a welwyd yn Yr Eidal".

    Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod gan yr ardal yr nifer uchaf o achosion yng Nghymru - 358.

    delyth jewellFfynhonnell y llun, Plaid Cymru
  9. Diolch i'r gwirfoddolwyrwedi ei gyhoeddi 17:25 Amser Safonol Greenwich 26 Mawrth 2020

    Heddiw, fe wnaeth y Dirprwy Weinidog a鈥檙 Prif Chwip, Jane Hutt ddiolch i鈥檙 bobl wych a charedig o bob cefndir ac ym mhob cwr o Gymru sy鈥檔 gwirfoddoli i helpu cymunedau i wynebu鈥檙 coronavfeirws gyda鈥檌 gilydd.

    鈥淢ae gan Gymru draddodiad cadarn o weld pobl yn helpu ei gilydd, ac rydyn ni wedi gweld hyn ar waith dros yr ychydig wythnosau diwethaf.

    "O godi鈥檙 ff么n i siopa dros bobl sy鈥檔 hunanynysu, neu helpu ein gwasanaethau cyhoeddus, mae llawer o bethau y gellir eu gwneud.

    鈥淩wy鈥 am ddweud diolch 鈥 rydych chi鈥檔 anhygoel.

    鈥淥s ydych chi am wirfoddoli, mae鈥檔 bwysig gofalu eich bod yn ddiogel eich hun. Dilynwch y cyngor isod, a byddwch yn ofalus.鈥

    Ceir rhagor o gymorth a chyngor ar

    Gwirfoddolwyr yn Llangefni yn gweithio'n galed i ateb y galw cynyddol
    Disgrifiad o鈥檙 llun,

    Gwirfoddolwyr yn Llangefni yn gweithio'n galed i ateb y galw cynyddol

  10. Cymorth i bobl hunangyflogedigwedi ei gyhoeddi 17:20 Amser Safonol Greenwich 26 Mawrth 2020

    Mae'r Canghellor Rishi Sunak, wedi dweud y gall pobl hunangyflogedig sy'n wynebu problemau ariannol gael hyd at 80% o'u cyflog misol gan y llywodraeth.

    Bydd y swm yn cael ei gyfrifo drwy ddefnyddio cyfartaledd elw misol yn ystod y tair blynedd ddiwethaf.

    Fydd dim modd cael mwy na 拢2,500 y mis ac i ddechrau fe fydd y cymorth ar gael am dri mis.

  11. Mwy am grantiau'r Llywodraethwedi ei gyhoeddi 17:14 Amser Safonol Greenwich 26 Mawrth 2020

    Prynhawn Iau, fe gyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, y bydd busnesau鈥檔 dechrau derbyn eu grantiau coronafeirws argyfwng ganol wythnos nesaf.

    Mae mwy o fanylion isod.

    Nid yw鈥檙 post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniat谩u cynnwys Twitter?

    Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.

    Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  12. Y Tour heb gefnogwyr?wedi ei gyhoeddi 17:04 Amser Safonol Greenwich 26 Mawrth 2020

    91热爆 Radio Cymru

    Mae Adran Chwaraeon Radio Cymru wedi cael ar ddeall fod yna ystyriaethau i gynnal y Tour de France heb gefnogwyr.

    Nid yw鈥檙 post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniat谩u cynnwys Twitter?

    Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.

    Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  13. Y diweddaraf am arholiadau'r hafwedi ei gyhoeddi 17:01 Amser Safonol Greenwich 26 Mawrth 2020

    Cyngor pellach i ddisgyblion oedd fod i wneud arholiadau allanol yn ystod yr haf.

    Yr wythnos ddiwethaf cyhoeddodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, na fyddai'r arholiadau yn cael eu cynnal yn ystod haf 2020.

    Nid yw鈥檙 post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniat谩u cynnwys Twitter?

    Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.

    Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  14. Grantiau ar eu fforddwedi ei gyhoeddi 16:45 Amser Safonol Greenwich 26 Mawrth 2020

    Llywodraeth Cymru

    "Bydd busnesau鈥檔 dechrau derbyn eu grantiau coronafeirws argyfwng ganol wythnos nesaf," medd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates.

    Mae Llywodraeth Cymru鈥檔 datblygu pecyn arall o gymorth i helpu busnesau i ddelio ag effaith y feirws - caiff y manylion hynny eu cyhoeddi ddydd Llun.

    Yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru becyn o 拢1.4bn o gymorth i fusnesau Cymru.

    Bydd pob busnes adwerthu, hamdden a lletygarwch yng Nghymru sydd ag eiddo 芒 gwerth ardrethol o rhwng 拢12,001 a 拢51,000 yn cael grant o 拢25,000.

    Mae hyn yn golygu y bydd rhyw 8,500 o siopau, bwytai, caffis, barau, tafarndai, sinem芒u, mannau cynnal cerddoriaeth fyw, gwestai, tai llety a phreswyl a llety hunanddarpar yn cael grant.

    Bydd grant o 拢10,000 ar gael i鈥檙 63,500 o fusnesau eraill yng Nghymru sy鈥檔 gymwys am y rhyddhad ardrethi i fusnesau bach ac sydd 芒 gwerth ardrethol o 拢12,000 neu lai.

    Yr awdurdodau lleol fydd yn dosbarthu鈥檙 grantiau hyn i fusnesau ar ran Llywodraeth Cymru.

  15. Plismyn ar batr么lwedi ei gyhoeddi 16:41 Amser Safonol Greenwich 26 Mawrth 2020

    Heddlu Gogledd Cymru

    Mae nifer o swyddogion yr heddlu allan mewn cymunedau ac maent yn pwysleisio mai'r neges yw aros adref.

    Nid yw鈥檙 post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniat谩u cynnwys Twitter?

    Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.

    Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  16. Cau mynwentyddwedi ei gyhoeddi 16:34 Amser Safonol Greenwich 26 Mawrth 2020

    Mae mynwentydd yng Nghasnewydd a Chaerffili wedi cau oherwydd haint coronafeirws.

    Dyw gofalu am feddau a chofebau ddim yn cael ei ystyried yn waith hanfodol, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Casnewydd mewn datganiad.

    Bydd staff y cyngor yn parhau i wneud gwaith cynnal a chadw yn y mynwentydd.

    mynwent Eglwys Gadeiriol CasnewyddFfynhonnell y llun, Geograph/Jaggery
    Disgrifiad o鈥檙 llun,

    Mae mynwent Eglwys Gadeiriol Casnewydd ymhlith y rhai sydd wedi cau

  17. Syniadau i Eglwysi ar gyfer dydd Sulwedi ei gyhoeddi 16:15 Amser Safonol Greenwich 26 Mawrth 2020

    Yr wythnos ddiwethaf fe wnaeth nifer o gapeli ddarlledu gwasanaethau ar y we am y tro cyntaf - dyma rai syniadau ar gyfer yr wythnosau sydd i ddod.

    Nid yw鈥檙 post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniat谩u cynnwys Twitter?

    Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.

    Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  18. Angen talu treth y cyngor?wedi ei gyhoeddi 15:58 Amser Safonol Greenwich 26 Mawrth 2020

    Cyngor Ynys M么n

    Dyma ganllaw un cyngor sir ar sut mae talu treth y cyngor yn ystod y misoedd nesaf.

    Nid yw鈥檙 post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniat谩u cynnwys Twitter?

    Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.

    Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  19. Profion coronafeirws ar gollwedi ei gyhoeddi 15:42 Amser Safonol Greenwich 26 Mawrth 2020

    Mae teulu wedi bod yn siarad am eu pryder a siom wedi iddi ddod i'r amlwg fod profion coronafeirws wedi mynd ar goll.

    Dywedodd Jocelyn Fleet fod ei chwaer-yng-nghyfraith o'r Coed Duon wedi bod yn teimlo'n s芒l a bod ganddi gyflwr COPD ar ei hysgyfaint.

    Cafodd brawf 'swab' yn Ysbyty Brenhinol Gwent bythefnos yn 么l, ond cafodd alwad ff么n heddiw i ddweud fod y prawf wedi mynd ar goll.

    Dywedodd Ms Fleet fod y teulu'n bryderus iawn ac yn teimlo wedi eu gadael i lawr.

  20. Cau maes parcio...go iawnwedi ei gyhoeddi 15:29 Amser Safonol Greenwich 26 Mawrth 2020

    Er gwaethaf ymdrechion i gau maes parcio Llyn Tegid yn gynharach yn yr wythnos, mae'n ymddangos bod rhai yn dal wedi ceisio mynd i mewn.

    Mae contractwyr felly wedi bod yno heddiw yn gosod rhwystrau cadarnach ar fynediad y safle!

    tegid
    tegid