Gwybodaeth ddiweddaraf ar y coronfeirws (COVID-2019)wedi ei gyhoeddi 14:33 Amser Safonol Greenwich 10 Mawrth 2020
Nesaf yn y Siambr, datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething: y wybodaeth ddiweddaraf ar y coronafeirws (COVID-2019).
Mae'n dweud y bydd yn rhaid i'r GIG wneud newidiadau i'r modd y mae'n gweithredu, gan gynnwys mwy o ofal a chyngor ar y ff么n a thechnoleg wybodaeth.
Mae swyddogion y llywodraeth yn ystyried argymell mwy o weithio gartref a pheidio 芒 defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, yn 么l y gweinidog iechyd.
Ond dywed Mr Gething fod Llywodraeth Cymru eisiau "sicrhau cydbwysedd rhwng cadw pobl yn ddiogel a lleihau'r effaith gymdeithasol ac economaidd i'r eithaf.
"Bydd ein penderfyniadau'n adlewyrchu'r dystiolaeth wyddonol, ac yn ystyried y cyfaddawdau dan sylw," meddai.
"Mae'r camau y byddwn yn eu hystyried yn cynnwys annog mwy o weithio gartref, peidio 芒 defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a mesurau ymddygiad eraill y gall pobl eu cymryd o'u gwirfodd i arafu lledaeniad y clefyd.
"Byddwn yn ystyried a ddylai'r rhai sydd 芒 symptomau llai hunan-ynysu, ond bydd hyn yn cael ei lywio gan gyngor arbenigol ar epidemioleg yr achosion, ac nid ydym ar y pwynt hwnnw heddiw."