Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 21:48 Amser Safonol Greenwich 10 Mawrth 2020
A dyna'r cyfan o'r Siambr am heddiw.
Fe fydd Senedd Fyw yn 么l yfory.
Cyfarfod llawn yn dechrau am 1pm gyda Chwestiynau i'r Prif Weinidog
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwybodaeth ddiweddaraf ar Coronavirus (COVID-2019)
Dadl: Setliad yr Heddlu
Dadl: Maes Awyr Caerdydd
Dadl: Cyfnod 3 y Mesur Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru)
Alun Jones and Nia Harri
A dyna'r cyfan o'r Siambr am heddiw.
Fe fydd Senedd Fyw yn 么l yfory.
Mae ACau yn pasio Cyfnod 3 - yr un olaf ond un - o'r Mesur Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru).
Yn gyffredinol, mae pedwar cyfnod yn y broses ar gyfer ystyried Mesur Cyhoeddus, sef:
Cyfnod 1 - pwyllgor yn ystyried egwyddorion cyffredinol y Mesur a'r Cynulliad yn cytuno ar yr egwyddorion cyffredinol hynny;
Cyfnod 2 - pwyllgor yn ystyried y Mesur ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd i鈥檙 Mesur hwnnw yn fanwl;
Cyfnod 3 - y Cynulliad yn ystyried y Mesur ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd i鈥檙 Mesur hwnnw yn fanwl;
Cyfnod 4 - pleidlais gan y Cynulliad i basio testun terfynol y Mesur.
Os y daw'r mesur yn ddeddf, bydd yn rhaid i fyrddau iechyd adrodd yn flynyddol yngl欧n 芒 phroblemau a heriau maen nhw wedi'u hwynebu a nodi pa mor aml y cafodd y ddyletswydd newydd ei gweithredu a pham, ac esbonio'r camau gafodd eu cymryd i fynd i'r afael 芒'r sefyllfa.
Y nod yw sicrhau fod byrddau iechyd mor dryloyw 芒 phosib yngl欧n 芒 sefyllfaoedd lle aeth rhywbeth o'i le.
Y gobaith yw newid diwylliant a chreu awyrgylch sy'n arwain at sefyllfa lle mae staff a chleifion yn gyfforddus i godi pryderon.
Byddai'n golygu fod gwella ansawdd a safon gwasanaethau yn flaenoriaeth mewn unrhyw drafodaethau am ad-drefnu gwasanaethau ac nid ystyriaethau fel cyllid a staffio yn unig.
Mae Cynghorau Iechyd Cymunedol wedi bodoli ers 46 mlynedd - ond mae 'na gwestiynau wedi codi yngl欧n 芒'u heffeithiolrwydd.
Saith o Gynghorau Iechyd Cymunedol sydd yna bellach, i lawr o 19.
Ar hyn o bryd mae'r cynghorau yn ymweld 芒 wardiau ysbyty ac yn gallu cyfeirio penderfyniadau mawr ar newidiadau yn y gwasanaeth at y gweinidog os oes yna anghytuno amdanynt.
Mae llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Angela Burns a Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru, ill dau yn dweud bod ganddyn nhw bryderon difrifol ynghylch y cynllun i gael gwared ar gynghorau iechyd cymunedol a'r effaith ar lais y claf.
Yn 么l Llywodraeth Cymru mae'r Mesur hefyd yn cynnig cyflwyno newidiadau a fydd yn:
飩 cryfhau llais dinasyddion ar draws gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, gan greu cysylltiad cryfach rhwng pobl a'r sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau iddynt;
飩 cryfhau'r trefniadau llywodraethu ar gyfer Ymddiriedolaethau鈥檙 GIG.
Yn 么l Llywodraeth Cymru mae'r Mesur yn cynnig cyflwyno newidiadau a fydd yn:
飩 gosod ystyriaethau ansawdd wrth galon popeth y mae cyrff GIG yng Nghymru a Gweinidogion Cymru (mewn perthynas 芒'u swyddogaethau iechyd) yn ei wneud drwy ddyletswydd benodol, gan adeiladu ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 (鈥淒eddf 2015鈥) a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (鈥淒eddf 2014鈥).
飩 gosod dyletswydd gonestrwydd ar bob corff GIG ar lefel sefydliadol, gan ei gwneud yn ofynnol iddynt fod yn agored ac yn onest pan fydd pethau'n mynd o'i le.
Ar Dachwedd 26 fe wnaeth ACau gytuno i egwyddorion cyffredinol y Mesur Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru).
Ac yn olaf yn y Siambr heddiw, dadl ar Gyfnod 3 y Mesur Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru).
Caniat谩u cynnwys Twitter?
Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.
Mae cynnig Llywodraeth Cymru ar Faes Awyr Caerdydd yn cael ei basio heb welliant.
Roedd 39 o blaid, neb yn ymatal, a 12 yn erbyn.
Caniat谩u cynnwys Twitter?
Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.
Mae David Rowlands o Blaid Brexit yn ceisio ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig;
Yn edrych ar Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd i wneud elw blynyddol o leiaf ar y lefel weithredu, h.y. cyn costau cyllid.
Mae e hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ganfod partner sector preifat i helpu i weithredu Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd a chymryd cyfran leiafrifol ynddo o fewn 5 mlynedd.
Mae Russell George ar ran y Ceidwadwyr yn ceisio dileu popeth yng nghynnig Llywodraeth Cymru a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r newyddion bod Flybe wedi galw'r gweinyddwyr ac yn mynegi pryder ynghylch yr effaith andwyol bosibl a gaiff hyn ar ddyfodol Maes Awyr Caerdydd.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi strategaeth gynhwysfawr ar gyfer Maes Awyr Caerdydd gyda'r nod o'i dychwelyd i'r sector masnachol ar y cyfle cyntaf ac ar elw i drethdalwyr Cymru, ac y dylai'r strategaeth gynnwys cynlluniau i:
a) buddsoddi yn seilwaith cyfalaf y maes awyr er mwyn galluogi'r maes awyr i arallgyfeirio a chynhyrchu ffynonellau refeniw newydd;
b) cefnogi'r broses o ddatblygu llwybrau, gan flaenoriaethu cyswllt hedfan uniongyrchol ag UDA ac un i Fanceinion o ystyried ei statws fel prif ganolfan yng ngogledd Lloegr sy'n gwasanaethu gogledd Cymru;
c) datblygu strategaeth farchnata newydd ar gyfer y maes awyr;
d) gweithio gyda Llywodraeth y DU i ddatganoli a dileu'r doll teithwyr awyr;
e) gwella cysylltiadau trafnidiaeth i'r maes awyr er mwyn gwneud y maes awyr yn fwy hygyrch drwy fuddsoddi mewn cysylltiadau gwell o ran ffyrdd, rheilffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus.
Mae鈥檙 aelodau nawr yn cael dadl ar Faes Awyr Caerdydd.
Mae cynnig Llywodraeth Cymru sy'n cael ei gyflwyno gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth Ken Skates yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd economaidd a chymdeithasol Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd i Gymru.
2. Yn croesawu鈥檙 ffaith bod Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd bellach yn gyfrifol am weithredu cyfleuster terfynfa Maes Awyr Ynys M么n ac yn cydnabod y cyswllt awyr rhanbarthol pwysig rhwng gogledd a de Cymru.
3. Yn cydnabod bod dros 1700 o bobl yn cael eu cyflogi ym Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd a鈥檙 拢250m o werth ychwanegol gros y mae鈥檔 ei gyfrannu at economi Cymru.
4. Yn cytuno ei bod yn allweddol cefnogi Maes Awyr Caerdydd er budd economi fasnach Cymru ar 么l Brexit, a hynny fel rhan o system trafnidiaeth gyhoeddus carbon isel, integredig ac o鈥檙 radd flaenaf yng Nghymru.
5. Yn nodi dull Llywodraeth y DU o ymyrryd er mwyn achub cwmni Flybe ond yn galw ar Lywodraeth y DU i fynd gam ymhellach er mwyn gwella cystadleurwydd, drwy gefnogi cost rheoleiddio ym meysydd awyr llai y DU, fel sy鈥檔 digwydd ar draws Ewrop.
6. Yn galw ar Lywodraeth newydd y DU i gytuno o鈥檙 diwedd i ddatganoli鈥檔 llawn y Doll Teithwyr Awyr i Gymru.
Mae ACau yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2020-21 ().
Ymlaen nawr at ddadl gynta鈥檙 prynhawn. Mae鈥檔 ddadl ar
拢86.6 miliwn yw swm y Grant Cynnal Refeniw ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn 2020-21.
Caniat谩u cynnwys Twitter?
Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.
Mae ACau yn cymeradwyo y fersiwn ddrafft o Reoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Pennu Gweithwyr Gofal Cymdeithasol) (Cofrestru) (Diwygio) 2020.
Mae鈥檙 gwelliannau yn 鈥渄arparu bod yn rhaid i Ofal Cymdeithasol Cymru gadw cofrestr o unigolion sy鈥檔 cael eu cyflogi neu eu cymryd ymlaen o dan gontract am wasanaethau darparu gofal a chefnogaeth mewn cysylltiad 芒:
i(i) Gwasanaeth cartref gofal a ddarperir yn gyfan gwbl neu鈥檔 bennaf i oedolion;
ii(ii) Gwasanaeth cartref gofal a ddarperir yn gyfan gwbl neu鈥檔 bennaf i blant;
iii(iii) Gwasanaeth llety diogel,
iv(iv) Gwasanaethau cymorth cartref; neu
v(v) Gwasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd,
Ar hyn o bryd, mae gofyniad i Ofal Cymdeithasol Cymru gadw cofrestr o unigolion mewn cysylltiad 芒 gwasanaeth cartref gofal a ddarperir yn gyfan gwbl neu鈥檔 bennaf i blant, a gwasanaeth llety diogel. Caiff y gofyniad hwn ei estyn gan y Rheoliadau hyn i鈥檞 gwneud yn ofynnol cofrestru unigolion sydd wedi eu cymryd ymlaen o dan gontract am wasanaethau, yn ychwanegol at unigolion sydd wedi eu cyflogi gan y darparwr gwasanaeth鈥.
Mae ACau yn cymeradwyo fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 a Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Diwygiadau Amrywiol) 2020.
Mae'r diwygiad yn Rhan 2 yn caniat谩u i Weinidogion Cymru 鈥測styried tystiolaeth bod unrhyw berson sy始n gysylltiedig 芒 pherson perthnasol neu a oedd gynt yn gysylltiedig 芒 pherson perthnasol wedi bod yn gyfrifol am gamymddwyn neu gamreoli, neu wedi cyfrannu ato neu wedi ei hwyluso, wrth ddarparu gwasanaeth rheoleiddiedig yng Nghymru neu wasanaeth cyfatebol y tu allan i Gymru, wrth asesu a yw person yn addas ac yn briodol i fod yn ddarparwr gwasanaeth neu鈥檔 unigolyn rheoleiddiedig鈥.
Caniat谩u cynnwys Twitter?
Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.